Mae Diwrnodau Agored yn gyfle i chi ddarganfod mwy am fyw ac astudio yn Aberystwyth. Cynigir amrywiaeth o weithgareddau drwy gydol y dydd, gan gynnwys cyfleoedd i fynychu sgyrsiau, gweld cyfleusterau a thrafod eich ymholiadau â staff a myfyrwyr presennol.
Mae ein Diwrnodau Agored yn rhedeg yn fras rhwng 9.00 a 16.00 ac o fewn yr amser hwn gallwch fynychu'r sesiynau sydd o ddiddordeb i chi.
Wrth gyrraedd y campws byddwch yn cofrestru yng Nghanolfan y Celfyddydau (o 9.00), lle bydd ein tîm yn gallu cynnig cyngor ar sut i fanteisio i’r eithaf ar eich diwrnod a’ch cyfeirio at yr ystod o weithgareddau sydd ar gael.
Cynhelir rhaglen y Diwrnod Agored canolog ar Gampws Penglais ac mae'n cynnwys sgyrsiau croesawu (a ailadroddir ar draws y bore) sy'n dechrau o 9.10. Mae'r amserlen yn cynnwys amrywiaeth o sgyrsiau dewisol sy'n ymdrin â phynciau gan gynnwys Llety, Ffioedd a Chyllid a Bywyd Myfyrwyr.
Cynigir teithiau o’r campws ar yr awr rhwng 10.00 a 16.00 (mae'r daith olaf yn gadael am 15.00). Caiff y teithiau hyn eu harwain gan un o'n Myfyrwyr sy’n Llysgenhadon ac maent yn gyfle i weld cyfleusterau, gan gynnwys: Undeb y Myfyrwyr; Canolfan y Celfyddydau; y Ganolfan Chwaraeon a Llyfrgell Hugh Owen ac yn rhoi syniad i chi am gynllun y campws.
Cynhelir Ffair Wybodaeth rhwng 9.00 a 16.00 ac mae'n rhoi cyfle i gasglu dogfennaeth ddefnyddiol a gofyn cwestiynau ynghylch pynciau gan gynnwys: y broses dderbyn, ffioedd a chyllid, Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr, llety, a chyfleoedd i astudio, gwirfoddoli neu weithio dramor.
Bydd amrywiaeth o'n llety myfyrwyr ar agor yn ystod y dydd i chi ymweld â hwy (rhwng 9.30 – 16.00). Byddwn yn rhoi gwybodaeth i chi am yr opsiynau ymweld ac yna gallwch wneud eich ffordd i’r tŷ/fflat yn eich amser eich hun a gofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych ynglŷn â byw gyda ni.
Mae ein hadrannau academaidd yn darparu amrywiaeth o weithgareddau ar y diwrnod, ac unwaith eto, bydd manylion pellach am y rhain yn cael eu cynnwys yn y rhaglen a anfonir atoch o flaen llaw (i'r cyfeiriad e-bost a ddarparwyd wrth archebu).