Prifysgol Aberystwyth yn yr Eisteddfod Genedlaethol 2023

Dewch i ymuno â ni ar faes Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd eleni.

Edrychwn ymlaen at groesawu ymwelwyr i'n stondin yn Eisteddfod Genedlaethol Boduan, rhwng 5ed a 12fed o Awst 2023.

Rydym yn falch o fod yn noddi Maes B, prif ŵyl gerddoriaeth Gymraeg Cymru, unwaith eto eleni. 

Lawrlwythwch y rhaglen PDF o ddigwyddiadau i gael trosolwg o'n gweithgareddau drwy gydol yr wythnos, neu edrychwch ar ein hamserlen dyddiol isod.

Rhaglen Eisteddfod Genedlaethol 2023

Dydd Llun 7 Awst

Amser Gweithgaredd Lleoliad
11:00 Addysg, Amser a Lle
Ymchwil diweddar ar faterion cyfoes yn y byd addysg yng Nghymru gan yr Ysgol Addysg, Prifysgol Aberystwyth.
Dr Rhodri Aled Evans: ‘Trosglwyddo mewn Pandemig: profiadau disgyblion a rhieni o gartrefi di-Gymraeg o drosglwyddo i ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg.’
Dr Lucy Trotter: ‘Profiadau rhieni sengl a oedd yn astudio mewn prifysgolion y DU yn ystod y pandemig COVID-19.’
Dr Delyth Jones: ‘Pam fod disgyblion uwchradd yng Nghymru yn dewis astudio Ieithoedd Tramor Modern fel pwnc TGAU?’
Dr Andrew James Davies: ‘Pobl ifanc fel dewiswyr strategol: gwerthuso’r dystiolaeth am addysg ôl-orfodol cyfrwng Cymraeg.’
Stondin Prifysgol Aberystwyth
15:20 Ysbryd y Frwydr: Dathlu 20 mlynedd o Wobr Ifor Davies
Cyhoeddir enillydd y wobr eleni yn Y Lle Celf ac yn parhau'r digwyddiad 'Dathlu 20 mlynedd o Wobr Ifor Davies' ym mhabell Prifysgol Aberystwyth gyda dangosiad ffilm gan Pete Telfer, a sgyrsiau anffurfiol gan gyn-enillwyr y wobr.
Stondin Prifysgol Aberystwyth
16:30 Seremoni’r Coroni
Dewch draw i wylio’r Coroni ar ein sgrin fawr dros baned a chacen
Stondin Prifysgol Aberystwyth

Dydd Mawrth 8 Awst

Amser Gweithgaredd Lleoliad
11:00 Cafflogion a Garn Fadryn: Tirwedd Dychymyg R. Gerallt Jones
Trafodaeth ar nofel wyddonias R. Gerallt Jones, Cafflogion (enillydd y Fedal Ryddiaith ym 1979) a’i chyswllt ag ardal ei febyd, sef pentref Llaniestyn a mynydd Carn Fadryn (y medrir ei weld o Faes yr Eisteddfod)
Stondin  Prifysgol Aberystwyth
15:00 100 mlynedd o ddarlledu yn Nghymru
Mae’r BBC yn dathlu canrif o ddarlledu yng Nghymru eleni. Fe fydd y ddarlith hon yn cloriannu cyfraniad y Gorfforaeth i fywyd Cymru ers 1923.
Stondin  Prifysgol Aberystwyth
16:30 Podlediad Clera
Dewch i wylio rhan o bodlediad Clera'n cael ei recordio'n fyw gydag Eurig Salisbury, Aneirin Karadog, Gruffudd Antur a gwesteion arbennig!
Stondin  Prifysgol Aberystwyth

Dydd Mercher 9 Awst

Amser Gweithgaredd Lleoliad
10:00

Sgwrs gyda thîm Tystysgrif Addysg i Raddedigion Prifysgol Aberystwyth

Dewch am sgwrs ac i gyfarfod aelodau o’r tîm i ddarganfod mwy am y cwrs TAR (Tystysgrif Addysg i Raddedigion). 

Stondin Prifysgol Aberystwyth
11:00

Cymru, Daearyddiaeth, a Hanes GwyddoniaethDarlith Flynyddol EG Bowen

Roedd Emrys George Bowen FRGS, FSA (28 Rhagfyr 1900 – 8 Tachwedd 1983) yn ddaearyddwr o fri rhyngwladol oedd â diddordeb arbennig yn naearyddiaeth ffisegol a daearyddiaeth gymdeithasol Cymru. Traddodir y ddarlith flynyddol hon gan ymchwilydd disglair o’r Brifysgol lle y bu Bowen yn darlithio o’r 1920au hyd at ei farwolaeth yn 1983, sef Prifysgol Aberystwyth.

Cymdeithasau 1
11:30

Lansiad cyfrol deyrnged yr Athro Emeritws Gruffydd Aled 
Williams, Penrhaith ein Heniaith Ni

Lansiad cyfrol deyrnged yr Athro Emeritws Gruffydd Aled Williams, Penrhaith ein Heniaith Ni, yng nghwmni Aled a golygyddion y gyfrol, T. Robin Chapman a Bleddyn Owen Huws o Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd y Brifysgol. Cadeirir y digwyddiad gan Mererid Hopwood a bydd Alaw Mai Edwards yn bresennol ar ran gwasg Atebol. Bydd cyfle i brynu copïau ar y diwrnod a chwrdd â rhai o’r cyfranwyr.

Stondin Prifysgol Aberystwyth
14:00

Aduniad Cyn-Fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth

Wedi astudio yn Aberystwyth? Dewch draw i’r stondin i hel atgofion gyda hen ffrindiau!

Stondin Prifysgol Aberystwyth

Dydd Iau 10 Awst

Amser Gweithgaredd Lleoliad 
11:00 Hyfywedd cymunedau Cymraeg a Thwristiaeth Sesiwn CWPS a CUPHAt Prifysgol Aberystwyth ar y cyd â Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol
Bydd y sesiwn hon yn trafod oes ffyrdd y gall twristiaeth gefnogi cynaliadwyedd cymunedau Cymraeg. Wrth edrych i’r dyfodol sut allai twristiaeth ddatblygu i gefnogi hyfywedd cymunedau Cymraeg?
Stondin Prifysgol Aberystwyth
13:00 Llinellau i’w llefaru
O ble daeth yr arfer o ddatgan cerddi a rhyddiaith? Beth sy’n gwneud darn yn un da i’w lefaru? A beth ddylai’n beirdd a’n llenorion fynd ati i’w greu ar gyfer y llefarwyr? Guto Dafydd yn holi Mererid Hopwood a Cefin Roberts. #Llwyd@60
Stondin Prifysgol Aberystwyth
15:00 Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Cyfieithu DarParu
Cyfle i ddathlu cyfieithwyr ifanc a chyhoeddi enillwyr y gystadleuaeth gyfieithu i bobl ifanc 16-21 oed. Noddir y gystadleuaeth gan Ganolfan Hyfforddiant Iaith DarParu, Prifysgol Aberystwyth.
Stondin Prifysgol Aberystwyth

Dydd Gwener 11 Awst

Amser Gweithgaredd Lleoliad
11:00 Ymgyrchu ymysg pobl ifanc Sesiwn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth
Beth yw'r cyfleoedd a'r heriau sy'n wynebu pobl ifanc wrth ymgyrchu'n wleidyddol? Oes rhywbeth penodol Cymreig am yr ymgyrchu a welir ymysg pobl ifanc? Trafodaeth banel gyda myfyrwyr presennol a chyn-fyfyrwyr yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol.
Stondin Prifysgol Aberystwyth
12:00

Deall 'Cenedlaetholdeb y Tlawd': Trafodaeth banel
Sesiwn Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru, Prifysgol Aberystwyth

Trafod y syniad o 'Genedlaetholdeb y Tlawd' a’i effaith ar strategaethau mudiadau cenedlaetholgar. Trafodir canfyddiadau prosiect IMAJINE arweiniwyd gan Brifysgol Aberystwyth am Gymru a Chorsica a chael ymateb arbenigwyr o brifysgolion Bangor a Chaerdydd.

Cymdeithasau 1
13:30-14:30 (Dyfodol Cyfansoddiadol ar y stondin drwy’r dydd)
Dyfodol Cyfansoddiadol Cymru: Sgwrs gyda’r Athro Anwen Elias a’r Athro Laura McAlister
Sesiwn Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru, Prifysgol Aberystwyth ar y cyd â'r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru
Cyfle i glywed a thrafod y gwaith sydd wedi cael ei wneud gan y Comisiwn hyd yn hyn gan gynnwys yr opsiynau a nodir yn yr adroddiad a’r ymgyrch ymgysylltu barhaus i glywed gan bobl ledled y wlad.
Stondin Prifysgol Aberystwyth
14:30 Aduniad Haf UMCA
Cyfle i fyfyrwyr cyfredol UMCA rannu eu straeon am holl anturiaethau’r haf. Band Bwca yn perfformio’n fyw ar y stondin. 
Stondin Prifysgol Aberystwyth
16:30 Seremoni’r Cadeirio
Dewch draw i wylio’r Cadeirio ar ein sgrin fawr dros baned a chacen
Stondin Prifysgol Aberystwyth