Cynlluniau Ffioedd Myfyrwyr
Bydd ein cynllun ffioedd yn buddsoddi mewn gweithgaredd i ehangu mynediad i addysg uwch, gwella’n fwyfwy y profiad myfyriwr ardderchog a geir yn Aberystwyth, a chynorthwyo ein myfyrwyr i lwyddo.
Mae Prifysgol Aberystwyth yn falch o’r dulliau dyfeisgar a chreadigol y mae’n ei defnyddio i fynd i’r afael â materion cyfiawnder cymdeithasol ac ehangu mynediad, ac mae ein hymrwymiadau yn y cynllun ffioedd yn adlewyrchu hyn. Byddwn yn parhau, trwy ein cynlluniau ffioedd, i roi cefnogaeth trwy gyfres o gynlluniau a anelir i ddileu’r rhwystrau sy’n atal pobl rhag mynd ymlaen i addysg uwch, gan groesawu myfyrwyr o bob cefndir a’u cefnogi fel y gallant gyflawni eu haddewid.
Mae buddsoddiadau ein cynllun ffioedd yn cydnabod pwysigrwydd sgiliau sy’n gwneud myfyrwyr yn fwy cyflogadwy. Mae’r addysg brifysgol orau yn paratoi myfyrwyr am fywydau o ymholi, sy’n herio, datblygu a’u galluogi i ddeall gwerth y sgiliau a feddant. Drwy’r cynllun, rydym yn buddsoddi adnoddau pellach mewn gyrfaoedd i baratoi ein myfyrwyr am y dyfodol, ac yn sicrhau y bydd gan bob myfyriwr graddedig o Aberystwyth y cyfle gorau posibl i lwyddo ym mha yrfa bynnag a ddewisant.
Yn gyffredinol, hyderwn fod y cydbwysedd gwaith yn ein cynlluniau ffioedd yn adlewyrchu buddsoddiad da wrth ddatblygu a chefnogi ein myfyrwyr ac yn adlewyrchu hefyd ein hymroddiad i roi’r profiad gorau posibl i’r myfyrwyr yn Aberystwyth a’r dyfodol gorau posibl ar ôl hynny.
Ymhlith y mesurau a gynigir yng Nghynlluniau Ffioedd Prifysgol Aberystwyth mae:
- Buddsoddi mewn ystod o fwrsariaethau, ysgoloriaethau a gwobrau ariannol, gan gynnwys cynllun bwrsariaeth trwy brawf o fodd a fydd yn canolbwyntio ar ddarparu cymorth ariannol i fyfyrwyr o gefndir incwm isel, bwrsariaethau i fyfyrwyr o gefndir gofal, ac ysgoloriaethau i wobrwyo ac annog rhagoriaeth academaidd.
- Darparu Prifysgol Haf Aberystwyth, sef cynllun sy’n cynnig profiad Prifysgol am chwe wythnos i tua 80 o bobl ifainc o ardaloedd lle, yn draddodiadol, mae nifer y rhai sy’n mynd ymlaen i Addysg Uwch yn isel.
- Ehangu’r ddarpariaeth a gynigir i fyfyrwyr ag anghenion arbennig.
- Ehangu’r ddarpariaeth dysgu ar-lein, yn cynnwys recordio darlithoedd, ar gyfer dysgu mwy hyblyg.
- Buddsoddi mewn rhaglen helaeth o welliannau er mwyn sicrhau bod myfyrwyr yn cael y budd mwyaf o amgylchedd dysgu ardderchog ac adnoddau cyfrifiadurol penigamp.
- Buddsoddi mewn cynlluniau i wneud myfyrwyr yn fwy cyflogadwy, gan gynnwys gweithgaredd menter ac entreprenwriaeth, mentora gan alumni a chynlluniau profiad gwaith.
Cynllun Ffioedd Myfyrwyr 2017-18 (Mae'n cais ni ar gael yn ddwyieithog, ond mae ffurflen y Cyngor Cyllido ar gael yn y Saesneg yn unig)
Cynllun Ffioedd Myfyrwyr 2018-19 (Saesneg - bydd fersiwn Gymraeg o’r Cynllun Ffioedd a Mynediad ar gyfer 2018/19 ar gael yma cyn hir)
Cynllun Ffioedd Myfyrwyr 2019-20 (DOCX)
Cynllun Ffioedd Myfyrwyr 2019-20 (PDF)
Cynllun Ffioedd Myfyrwyr 2020-21 (DOCX)
Cynllun Ffioedd Myfyrwyr 2020-21 (PDF)
Cynllun Ffioedd Myfyrwyr 2021-22 (DOCX)
Cynllun Ffioedd Myfyrwyr 2021-22 (PDF)
Cynllun Ffioedd Myfyrwyr 2022-23 (DOCX)
Cynllun Ffioedd Myfyrwyr 2022-23 (PDF)