Adborth RhWN - Cymorth i Fyfyrwyr
Cliciwch ar y teitlau i weld yr adborth a'r ymateb
Noder: mae'n bosibl bod y sylwadau a'r ymatebion wedi'u golygu. Roedd y wybodaeth yn gywir ar y pryd ond gallai fod wedi'i disodli. Cyhoeddir y sylwadau yn yr iaith y derbyniwyd y sylw ac ymateb y Brifysgol yn ddwyieithog.
23/24 Semester 1
-
CYF: 66-2302-640627 - Lleihau Pryder y Gegin
Dy sylw: I find a lot of people have kitchen anxiety. Maybe some social skill support or student support regarding this would be nice, so more of us know we aren't alone.
Ein hymateb:
Diolch am eich sylw.
Rydym yn rhoi llyfr coginio (llyfrau nosh) yn y ceginau ddechrau'r flwyddyn ac yn trefnu sesiynau coginio ar y cyd gyda llyfrau nosh trwy gydol y flwyddyn academaidd, mae hyn er mwyn helpu i gefnogi pobl sy'n rhannu llety i goginio gyda'i gilydd ac ag eraill (yn rhithiol). Rydym hefyd yn hwyluso'r cyfarfod cytundeb cyd-letywyr ar ddechrau'r tymor i helpu pob myfyriwr i drafod eu hanghenion ar gyfer byw ar y cyd.
Yn ychwanegol; wrth gydnabod bod pryderon o'r fath yn ymwneud â sefyllfaoedd cymdeithasol eraill, rydym yn datblygu dulliau o rymuso/galluogi myfyrwyr i oresgyn heriau, meithrin gwytnwch trwy ein rhwydweithiau mentora yn ogystal â chyflwyno ymgorfforiad lles sy'n cael ei dreialu yn y Flwyddyn Sylfaen eleni’n rhan o fodiwl o'r enw 'Sut i fod yn fyfyriwr' – os bydd yn llwyddiannus, byddwn yn awyddus i gyflwyno'r flwyddyn nesaf ar gyfer pob myfyriwr.
21/22 Semester 1
-
CYF:66-2111-9056129 - Sgiliau cyfathrebu i fyfyrwyr
Dy sylw: Please can information be shared with students about how best to talk to people who may normally struggle more (e.g. people with a hearing impairment, people who have a stammer etc.)? I feel like this is something many students aren't aware about, and it can lead to severe feelings of loneliness and isolation. (Preferably on social media instead or as well as through emails because not everybody reads their emails, but they might be more willing to read the information if it came up on their social media feed.)
Ein hymateb:
Diolch i chi am roi o'ch amser i rannu'r adborth hwn gyda ni - fe'i gwerthfawrogir yn fawr. Mae hwn yn faes gwaith sydd dan sylw ar hyn o bryd; yn enwedig ar ôl cyhoeddi'r adroddiad diweddar 'Supporting Students who Stammer in Higher Education'. Rydym felly yn datblygu arweiniad a chyngor i fyfyrwyr a staff yn ein cymuned er mwyn eu helpu i ddeall yr heriau a wynebir gan eraill. Y bwriad hefyd yw helpu i godi ymwybyddiaeth a hyder pobl i allu bod yn gefnogol a helpu i sicrhau nad yw myfyrwyr sydd â nam ar eu clyw neu a allai fod â nam ar eu clyw yn teimlo'n unig neu heb gysylltiad ag eraill o fewn ein cymuned. Gobeithiwn hefyd gynnwys yr arweiniad hwn fel rhan o'n trefniadau Croeso a Chefnogaeth Pontio ar gyfer myfyrwyr newydd a myfyrwyr sy'n dychwelyd o 22/23 ymlaen. Nodwyd eich arsylwad a'ch profiad a byddwn yn gweithredu arno.
20/21 Semester 2
-
CYF:66-2102-712722 - Isdeitlau ar gyfer darlithoedd sydd wedi'u recordio
Dy sylw: Making subtitles available for recorded lectures
Ein hymateb:
Diolch am eich sylw ar gapsiynau darlithoedd a gyflwynwyd trwy Rho Wybod Nawr. Mae system recordio darlithoedd Panopto yn cynnig opsiwn capsiynau, ond rydym yn gwerthfawrogi y gall yr ansawdd, yn enwedig ar gyfer cynnwys gwyddonol, fod yn broblematig ac mae golygu'r capsiynau yn waith llafurus. Ar hyn o bryd rydym yn edrych ar opsiynau eraill i ddisodli'r gwasanaeth hwn.
20/21 Semester 1
-
CYF:66-2011-5663508 - Wythnos ddarllen a dysgu wyneb yn wyneb
Dy sylw: If there is another national lockdown and it coincides with some departments reading weeks, please consider cancelling the reading weeks and continuing with face to face learning. My mental health and well-being have never been as bad as they have this past week.
Ein hymateb:
Rydym yn deall sut y gall y sefyllfa bresennol achosi anawsterau o ran Iechyd Meddwl a Lles i rai myfyrwyr ac rydym yn annog myfyrwyr i gael cymorth a chyngor yn brydlon ar gyfer unrhyw anhawster fel y gellir rhoi'r gefnogaeth fwyaf priodol ar waith i’w cynorthwyo. Mae gan Wasanaeth Lles y Myfyrwyr amrywiaeth o ddewisiadau cymorth sydd ar gael i fyfyrwyr i’w cynorthwyo â gwahanol lefelau o anawsterau. Mae ein dewisiadau cymorth yn amrywio o blatfform 24/7 ar-lein lle ceir asesu ar sail tystiolaeth a sgwrsio mewn cymuned, i fodiwlau sy'n seiliedig ar sgiliau, gwybodaeth trwy neges destun, sgwrsio a llinell ffôn, neu'r dewis i sgwrsio neu gwrdd â gweithiwr proffesiynol cymwys yn y tîm. Ceir hefyd wybodaeth mewn argyfwng a ffurflenni ar-lein i unrhyw un dynnu sylw at bryder am fyfyriwr. Ceir manylion am sut i gael gafael ar Wasanaeth Lles y Myfyrwyr a'r hyn a ddarparwn yma.
-
CYF:66-2011-3269109 - Hyfforddiant ymarferol
Dy sylw: Hi doing some work at the moment on programming and media. Would be great if the Uni could run some online weekend courses to get people ready for jobs using industry recognised tools. Max MSP programming would be fantastic for the creative sector. Ableton Live for performance and recording
Ein hymateb:
Diolch am eich sylw diddorol a defnyddiol am yr hyfforddiant ymarferol y teimlwch y byddai'n ddefnyddiol ei gynnig i fyfyrwyr. Byddwn yn ystyried hyn yn ofalus iawn a byddwn yn trafod ymhellach â chydweithwyr yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu a hefyd yn yr Adran Dysgu Gydol Oes o safbwynt pa gyrsiau / hyfforddiant o'r fath y gellid eu hymgorffori’n effeithiol yn y dyfodol, a sut y gellid gwneud hynny.
-
CYF:66-2010-328612 - Gwasanaethau cymorth ac iechyd meddwl
Dy sylw: We are a group of students concerned about mental health and support in the student population. We feel quite strongly that Student Support Services is not allocating their money correctly and is authentically advertising to prospective and new students that the support the offer is plentiful and good. In the following, we will touch on three points which we think should be considered in order to provide a better support network. Togetherall/Big White Wall We think that this is a waste of money by the University. It offers virtually no support, other than providing a platform to voice issues and feelings - which most people have access to through anonymous social media, such as Reddit, or their own diary. We don't know anyone who uses the platform, because it adds virtually nothing. It also encourages people who are lacking a social support system to stay online with other anonymous people, rather than going out to find people in real life. Regarding the little tips it gives on mental health and stressors - virtually all of these can be found through a quick google search. Paying for this service is a waste of money which could be allocated more effectively into other things. Investing in a specialized sexual assault counsellor The amount of times we have heard horror stories about how students issues and experiences regarding sexual assault have been handled by THE COUNSELLORS employed by Student Support is outrageous. Being dismissed, blamed, or compared to other survivors are common themes. At this point, the student community is well aware, that if you get assaulted, Student Support won't help you and you're better off getting help privately. This causes a reluctance to seek help in the students, and desperately needs to be addressed! One thing that could be done is to hire an experienced and specialized counsellor for those who have been (sexually) assaulted, and who is equipped to deal with trauma issues. Covid related mental health issues Student Support has not been doing enough to spread resources and hands-on tips of how to handle independent learning. The lack of lectures and seminars is a problem which leads to students maintaining bad sleeping patterns, which lead them to get behind on their work and have difficulty managing their social life with work. Student Support should circulate tips/links to websites and maybe offer 1 to 1 support for those feeling overwhelmed. This is related to the limited study space in the library (which closes at around 5!), which means that the vast majority of people have to study at home which might not be conducive to their studies. Guidance and help is needed to do this, especially for first years.
Ein hymateb:
Rydym yn gwerthfawrogi'r amser a dreuliwyd yn crybwyll pryderon ynghylch sut mae’r Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr a Gyrfaoedd yn darparu cefnogaeth lles ac rydym yn croesawu syniadau gan fyfyrwyr i'n helpu i ystyried sut y darperir gwasanaethau yn y dyfodol.
Nod Gwasanaeth Lles y Myfyrwyr yw darparu ystod o gyngor a chefnogaeth trwy ddull graddedig o gefnogi a datblygu sgiliau. Mae’n bosibl y bydd gan y myfyrwyr sy’n cysylltu â’r Gwasanaeth broblemau iechyd meddwl a lles ar lefel isel neu gymedrol, neu efallai y bydd ganddynt broblem iechyd meddwl mwy difrifol a pharhaus a allai fod yn gymhleth. Mae'r gwasanaethau a'r gefnogaeth a ddarparwn a'r ffordd y mae'r Gwasanaeth yn gweithredu yn adlewyrchu'r amrywiaeth hon o ran angen.
Togetherall
Rydym yn gwerthfawrogi y gall platfformau eraill ar y cyfryngau cymdeithasol ddyblygu rhai agweddau ar ddarpariaeth Togetherall. Fodd bynnag, fel Gwasanaeth mae'n bwysig inni sicrhau ein bod yn ymwybodol o ansawdd y ddarpariaeth a barn myfyrwyr fel y’i cynrychiolir gan Undeb y Myfyrwyr. Mae Togetherall yn blatfform a gydnabyddir yn rhyngwladol a chan y Comisiwn Ansawdd Gofal (CQC), a chafodd ein tanysgrifiad iddo ei gefnogi a’i annog gan Undeb Myfyrwyr Aberystwyth.
Mae tua 300 o fyfyrwyr Aberystwyth yn defnyddio platfform Togetherall bob mis. Mae myfyrwyr yn treulio 3.5 awr ar y platfform ar gyfartaledd, gyda bron i 100 o asesiadau yn cael eu cwblhau bob mis. Am gost sy'n cyfateb i oddeutu 70c y pen, credwn fod Togetherall yn darparu rhwydwaith a llwyfan ar-lein gwerthfawr 24/7 ar gyfer mynegi teimladau yn ystod y cyfnod hwn pan fo ymwneud wyneb yn wyneb yn cael ei gyfyngu.
Buddsoddi mewn cwnselydd sy’n arbenigo ym maes ymosodiadau rhywiol
Mae'n bwysig bod myfyrwyr y mae'r materion hyn yn effeithio arnynt yn ceisio cefnogaeth briodol ac arbenigol ac mae'r Gwasanaeth Lles yn cyfeirio myfyrwyr at sefydliadau o'r fath i ddarparu hyn. Mae'r Brifysgol hefyd yn cynnig cwnsela tymor byr am ddim (trwy ddarparwr allanol) ar gyfer materion nad ydynt yn rhai academaidd. Dylai unrhyw fyfyriwr sy'n teimlo nad yw wedi cael cefnogaeth ddigonol gysylltu â Rheolwr Gwasanaeth Lles y Myfyrwyr yn y lle cyntaf fel y gellir ymchwilio i'r mater.
Materion iechyd meddwl sy’n gysylltiedig â Covid
Mae Gwasanaeth Lles y Myfyrwyr ar gael i gefnogi, ar sail un i un, y myfyrwyr hynny sy'n wynebu problemau lles yn sgil Covid 19. Yn ogystal, mae gwybodaeth benodol ynghylch Covid 19 ar gael yma. Mae'r Gwasanaeth hefyd yn darparu amrywiaeth o gyflwyniadau / gweithdai i fyfyrwyr ar ymddygiadau iach (er enghraifft, patrymau cwsg) ac mae dolenni i adnoddau ychwanegol i gefnogi ymddygiadau iach ar gael yn rhestr A i Y yr adran les ar dudalennau gwe'r Gwasanaeth Lles.
Mae'r Brifysgol hefyd yn darparu cymorth dysgu i fyfyrwyr trwy Gyfadran y Celfyddydau a Gwyddorau Cymdeithasol. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am gymorth dysgu yma
Darperir ystod o gyngor ac arweiniad ar ddefnyddio technoleg ar gyfer dysgu hefyd gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu sydd wedi'i lleoli yn y Gwasanaethau Gwybodaeth ac mae'n cwmpasu, er enghraifft, materion fel defnyddio Blackboard a defnyddio MS Teams. Mae mwy o fanylion i'w gweld yma
-
CYF:66-2009-932923 - Swigod byw a dysgu
Dy sylw: I requested that the people I live with and I should be grouped together in our lecturers as a safeguarding measure for preventing the coronavirus spreading. I was told this was not possible as the timetable had already been made but to fill in a tell us now form. I feel like this could be a very important measure that the University should take by grouping households on the same course together where possible.
Ein hymateb:
Diolch am eich sylw ynglŷn â grwpio myfyrwyr gyda'i gilydd mewn “swigod” byw a dysgu. Roedd hyn yn rhywbeth y rhoddodd y Brifysgol ystyriaeth ofalus iddo yn rhan o'n cynllunio helaeth ar gyfer yr adeg pan fyddai’r myfyrwyr yn dychwelyd. Mae'r Brifysgol wedi rhoi ystod o fesurau ar waith i geisio atal lledaeniad Covid, gan gynnwys asesiadau risg manwl ar gyfer y dysgu, cyfyngu ar nifer yr unigolion mewn ystafelloedd dysgu, gwell cyfundrefnau glanhau, systemau unffordd a gorsafoedd glanhau dwylo. O ganlyniad i'r gwaith paratoi hwn, ac o ystyried materion ymarferol o ran nifer y myfyrwyr a'r amrywiaeth o fodiwlau sydd ar gael, penderfynwyd peidio â pharhau i ystyried swigod fel opsiwn.