CYF:66-2010-328612 - Gwasanaethau cymorth ac iechyd meddwl

Dy sylw: We are a group of students concerned about mental health and support in the student population. We feel quite strongly that Student Support Services is not allocating their money correctly and is authentically advertising to prospective and new students that the support the offer is plentiful and good. In the following, we will touch on three points which we think should be considered in order to provide a better support network. Togetherall/Big White Wall We think that this is a waste of money by the University. It offers virtually no support, other than providing a platform to voice issues and feelings - which most people have access to through anonymous social media, such as Reddit, or their own diary. We don't know anyone who uses the platform, because it adds virtually nothing. It also encourages people who are lacking a social support system to stay online with other anonymous people, rather than going out to find people in real life. Regarding the little tips it gives on mental health and stressors - virtually all of these can be found through a quick google search. Paying for this service is a waste of money which could be allocated more effectively into other things. Investing in a specialized sexual assault counsellor The amount of times we have heard horror stories about how students issues and experiences regarding sexual assault have been handled by THE COUNSELLORS employed by Student Support is outrageous. Being dismissed, blamed, or compared to other survivors are common themes. At this point, the student community is well aware, that if you get assaulted, Student Support won't help you and you're better off getting help privately. This causes a reluctance to seek help in the students, and desperately needs to be addressed! One thing that could be done is to hire an experienced and specialized counsellor for those who have been (sexually) assaulted, and who is equipped to deal with trauma issues. Covid related mental health issues Student Support has not been doing enough to spread resources and hands-on tips of how to handle independent learning. The lack of lectures and seminars is a problem which leads to students maintaining bad sleeping patterns, which lead them to get behind on their work and have difficulty managing their social life with work. Student Support should circulate tips/links to websites and maybe offer 1 to 1 support for those feeling overwhelmed. This is related to the limited study space in the library (which closes at around 5!), which means that the vast majority of people have to study at home which might not be conducive to their studies. Guidance and help is needed to do this, especially for first years.

Ein hymateb:

Rydym yn gwerthfawrogi'r amser a dreuliwyd yn crybwyll pryderon ynghylch sut mae’r Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr a Gyrfaoedd yn darparu cefnogaeth lles ac rydym yn croesawu syniadau gan fyfyrwyr i'n helpu i ystyried sut y darperir gwasanaethau yn y dyfodol.

Nod Gwasanaeth Lles y Myfyrwyr yw darparu ystod o gyngor a chefnogaeth trwy ddull graddedig o gefnogi a datblygu sgiliau. Mae’n bosibl y bydd gan y myfyrwyr sy’n cysylltu â’r Gwasanaeth broblemau iechyd meddwl a lles ar lefel isel neu gymedrol, neu efallai y bydd ganddynt broblem iechyd meddwl mwy difrifol a pharhaus a allai fod yn gymhleth.  Mae'r gwasanaethau a'r gefnogaeth a ddarparwn a'r ffordd y mae'r Gwasanaeth yn gweithredu yn adlewyrchu'r amrywiaeth hon o ran angen.

Togetherall

Rydym yn gwerthfawrogi y gall platfformau eraill ar y cyfryngau cymdeithasol ddyblygu rhai agweddau ar ddarpariaeth Togetherall. Fodd bynnag, fel Gwasanaeth mae'n bwysig inni sicrhau ein bod yn ymwybodol o ansawdd y ddarpariaeth a barn myfyrwyr fel y’i cynrychiolir gan Undeb y Myfyrwyr.  Mae Togetherall yn blatfform a gydnabyddir yn rhyngwladol a chan y Comisiwn Ansawdd Gofal (CQC), a chafodd ein tanysgrifiad iddo ei gefnogi a’i annog gan Undeb Myfyrwyr Aberystwyth.

Mae tua 300 o fyfyrwyr Aberystwyth yn defnyddio platfform Togetherall bob mis. Mae myfyrwyr yn treulio 3.5 awr ar y platfform ar gyfartaledd, gyda bron i 100 o asesiadau yn cael eu cwblhau bob mis. Am gost sy'n cyfateb i oddeutu 70c y pen, credwn fod Togetherall yn darparu rhwydwaith a llwyfan ar-lein gwerthfawr 24/7 ar gyfer mynegi teimladau yn ystod y cyfnod hwn pan fo ymwneud wyneb yn wyneb yn cael ei gyfyngu.

Buddsoddi mewn cwnselydd sy’n arbenigo ym maes ymosodiadau rhywiol

Mae'n bwysig bod myfyrwyr y mae'r materion hyn yn effeithio arnynt yn ceisio cefnogaeth briodol ac arbenigol ac mae'r Gwasanaeth Lles yn cyfeirio myfyrwyr at sefydliadau o'r fath i ddarparu hyn. Mae'r Brifysgol hefyd yn cynnig cwnsela tymor byr am ddim (trwy ddarparwr allanol) ar gyfer materion nad ydynt yn rhai academaidd. Dylai unrhyw fyfyriwr sy'n teimlo nad yw wedi cael cefnogaeth ddigonol gysylltu â Rheolwr Gwasanaeth Lles y Myfyrwyr yn y lle cyntaf fel y gellir ymchwilio i'r mater.

Materion iechyd meddwl sy’n gysylltiedig â Covid

Mae Gwasanaeth Lles y Myfyrwyr ar gael i gefnogi, ar sail un i un, y myfyrwyr hynny sy'n wynebu problemau lles yn sgil Covid 19.  Yn ogystal, mae gwybodaeth benodol ynghylch Covid 19 ar gael yma. Mae'r Gwasanaeth hefyd yn darparu amrywiaeth o gyflwyniadau / gweithdai i fyfyrwyr ar ymddygiadau iach (er enghraifft, patrymau cwsg) ac mae dolenni i adnoddau ychwanegol i gefnogi ymddygiadau iach ar gael yn rhestr A i Y yr adran les ar dudalennau gwe'r Gwasanaeth Lles.

Mae'r Brifysgol hefyd yn darparu cymorth dysgu i fyfyrwyr trwy Gyfadran y Celfyddydau a Gwyddorau Cymdeithasol. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am gymorth dysgu yma 

Darperir ystod o gyngor ac arweiniad ar ddefnyddio technoleg ar gyfer dysgu hefyd gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu sydd wedi'i lleoli yn y Gwasanaethau Gwybodaeth ac mae'n cwmpasu, er enghraifft, materion fel defnyddio Blackboard a defnyddio MS Teams.  Mae mwy o fanylion i'w gweld yma