CYF:66-2011-5663508 - Wythnos ddarllen a dysgu wyneb yn wyneb
Dy sylw: If there is another national lockdown and it coincides with some departments reading weeks, please consider cancelling the reading weeks and continuing with face to face learning. My mental health and well-being have never been as bad as they have this past week.
Ein hymateb:
Rydym yn deall sut y gall y sefyllfa bresennol achosi anawsterau o ran Iechyd Meddwl a Lles i rai myfyrwyr ac rydym yn annog myfyrwyr i gael cymorth a chyngor yn brydlon ar gyfer unrhyw anhawster fel y gellir rhoi'r gefnogaeth fwyaf priodol ar waith i’w cynorthwyo. Mae gan Wasanaeth Lles y Myfyrwyr amrywiaeth o ddewisiadau cymorth sydd ar gael i fyfyrwyr i’w cynorthwyo â gwahanol lefelau o anawsterau. Mae ein dewisiadau cymorth yn amrywio o blatfform 24/7 ar-lein lle ceir asesu ar sail tystiolaeth a sgwrsio mewn cymuned, i fodiwlau sy'n seiliedig ar sgiliau, gwybodaeth trwy neges destun, sgwrsio a llinell ffôn, neu'r dewis i sgwrsio neu gwrdd â gweithiwr proffesiynol cymwys yn y tîm. Ceir hefyd wybodaeth mewn argyfwng a ffurflenni ar-lein i unrhyw un dynnu sylw at bryder am fyfyriwr. Ceir manylion am sut i gael gafael ar Wasanaeth Lles y Myfyrwyr a'r hyn a ddarparwn yma.