CYF: 66-2302-640627 - Lleihau Pryder y Gegin

Dy sylw: I find a lot of people have kitchen anxiety. Maybe some social skill support or student support regarding this would be nice, so more of us know we aren't alone. 

Ein hymateb:

Diolch am eich sylw.

Rydym yn rhoi llyfr coginio (llyfrau nosh) yn y ceginau ddechrau'r flwyddyn ac yn trefnu sesiynau coginio ar y cyd gyda llyfrau nosh trwy gydol y flwyddyn academaidd, mae hyn er mwyn helpu i gefnogi pobl sy'n rhannu llety i goginio gyda'i gilydd ac ag eraill (yn rhithiol). Rydym hefyd yn hwyluso'r cyfarfod cytundeb cyd-letywyr ar ddechrau'r tymor i helpu pob myfyriwr i drafod eu hanghenion ar gyfer byw ar y cyd. 

Yn ychwanegol; wrth gydnabod bod pryderon o'r fath yn ymwneud â sefyllfaoedd cymdeithasol eraill, rydym yn datblygu dulliau o rymuso/galluogi myfyrwyr i oresgyn heriau, meithrin gwytnwch trwy ein rhwydweithiau mentora yn ogystal â chyflwyno ymgorfforiad lles sy'n cael ei dreialu yn y Flwyddyn Sylfaen eleni’n rhan o fodiwl o'r enw 'Sut i fod yn fyfyriwr' – os bydd yn llwyddiannus, byddwn yn awyddus i gyflwyno'r flwyddyn nesaf ar gyfer pob myfyriwr.