CYF: 66-2405-3159707 - PS11820 Materion Gwaith Cwrs

Dy sylw: PS11820,
Not provided with sufficient information regarding coursework, there was no coursework brief and limited information given which deviated from previous modules.

Ein hymateb:

Helo,
Rwyf wedi edrych, ac mae briff gwaith cwrs yn rhoi gwybodaeth am:
God y modiwl, Teitl, pwysoliad, hyd o ran geiriau, a chanlyniadau dysgu o gronfa ddata'r modiwl – mae rhai hefyd yn efelychu'r hyn sydd eisoes yn y llawlyfr i israddedigion. Mae'r briffiau hefyd yn atgoffa myfyrwyr i sicrhau eu bod yn gofyn am eglurhad am y gwaith cwrs, a sut i ofyn am estyniadau. Dim ond PS11320 a PS11220 sydd â brîff.
Gallaf weld bod Gareth wedi mynd drwy'r gwaith cwrs yn Narlith 1 sydd â'r un wybodaeth â'r llawlyfr, a bod Gareth wedi postio'r cyfarwyddyd marcio a ddefnyddir ar gyfer traethodau sydd yn ein llawlyfr i israddedigion ac a ddefnyddir ar draws pob cwestiwn sy'n seiliedig ar draethodau. Os ydw i wedi deall yn iawn, rydych chi am ddewis un cwestiwn traethawd i'w ateb o ddewis o 10 gan ddibynnu ar eich diddordeb a defnyddio ymchwil i ateb y cwestiwn fel y gwelwch yn dda yn seiliedig ar eich ymchwil.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau o gwbl - am unrhyw beth sy'n ymwneud ag unrhyw fodiwl, anfonwch e-bost at arweinydd y modiwl, neu dewch i'w swyddfa (yn ddelfrydol yn ystod oriau swyddfa er mwyn osgoi unrhyw broblemau, neu rhowch wybod iddynt eich bod yn dod o flaen llaw). Byddant yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.