Adborth RhWN - Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear
Cliciwch ar y teitlau i weld yr adborth a'r ymateb
Noder: mae'n bosibl bod y sylwadau a'r ymatebion wedi'u golygu. Roedd y wybodaeth yn gywir ar y pryd ond gallai fod wedi'i disodli. Cyhoeddir y sylwadau yn yr iaith y derbyniwyd y sylw ac ymateb y Brifysgol yn ddwyieithog.
23/24 Semester 2
-
CYF: 66-2404-4895329 - Gwelliannau i GS11320
Dy sylw: GS11320: Individual courses would benefit from a separation in the content each day of the field trip. I understand that the Environmental aspect of the trip covers both Environmental Science and Environmental Earth science. But much of the content doesn't transfer both ways and there was a large amount of disinterest to aspects which don't apply to their respective course.
Ein hymateb:
Diolch am eich adborth ar waith maes Gwyddor Daear Amgylcheddol a Gwyddor Amgylcheddol Blwyddyn 1. Dyma'r flwyddyn gyntaf i ni gynnal taith maes breswyl gyfun yn dilyn sawl blwyddyn o weithgareddau wedi'u haddasu drwy'r pandemig. Mae'r tîm addysgu eisoes wedi myfyrio ar y cynnwys yn dilyn y daith ac yn bwriadu addasu'r rhaglen ar gyfer y flwyddyn nesaf i gynnwys themâu mwy penodol ar gyfer pob cynllun gradd. Er bod rhai themâu yn briodol ar gyfer y ddau gwrs a bydd y rhain yn parhau i gael eu hintegreiddio, bydd teithiau yn y dyfodol yn cynnwys themâu gwahanol a addysgir mewn lleoliad cyffredin, neu bydd y grŵp yn cael ei rannu ar gyfer rhai gweithgareddau.
21/22 Semester 2
-
CYF:66-2203-3296830 - Asesiadau yn lle arholiadau
Dy sylw: I am commenting on the in-person exams that are going ahead next academic year. As a second year student i and others have not received proper in person teaching at my time at university which means we are not used to the in person exam style assessments that we have not experienced in 5 years. It wouldn’t be fair to throw the students into the deep end of assessments style especially in the most important year of university. We are not familiar with the layouts and have had no practice of this style of exams. I hope you take this comment into consideration as many others feel the same way.
Ein hymateb:
Diolch am eich sylw. Mae’r ADGD wedi defnyddio Asesiadau yn lle Arholiadau yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf mewn ymateb i bandemig Covid-19. Rydym yn myfyrio'n barhaus ar gynnwys modiwlau ac asesiadau. Mewn rhai achosion ceir newid o Asesiadau yn lle Arholiadau i asesiadau sy'n canolbwyntio mwy ar waith cwrs yn y tymor hwy. Rydym eisoes yn ymgorffori amrywiaeth a chyfanswm sylweddol o asesiadau gwaith cwrs yn ein darpariaeth modiwlau ac mae'r newid hwn yn ymestyn hynny. Fodd bynnag, ar gyfer rhai modiwlau mae'n briodol ailgyflwyno asesiadau ar ffurf arholiadau. Pan wneir hynny, bydd myfyrwyr yn cael cefnogaeth i baratoi ar gyfer y math hwn o asesiad ac yn cael samplau fel y gallant ymgyfarwyddo â’r fformat. Rydym yn sylweddoli bod profiad blaenorol myfyrwyr yn wahanol oherwydd yr addasiadau y mae'r ysgol a'r brifysgol wedi'u gwneud yn ystod y pandemig. Rwy'n croesawu eich adborth a hoffwn eich sicrhau ein bod yn ymwybodol o'r angen i addasu ein cefnogaeth a'n paratoadau i ymateb i'r gwahanol anghenion ac amgylchiadau.
Diolch eto am eich sylwadau, mae'r materion hyn yn cael eu hystyried yn ein paratoadau ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf.
-
CYF:66-2203-7230409 - Canmol goruchwyliwr PhD
Dy sylw: I wanted to take the opportunity to give some positive feedback on my PhD supervisor Prof. Mark Whitehead: I only began my PhD study two months ago, in January, and yet I have to say that Mark has been extremely supportive, informative and really welcoming which has been thoroughly reassuring for me, especially in view of the fact this is my first times studying at AU. From my initial conversation with Mark back in November last year on initially considering doing a PhD with AU, he has been extremely helpful and prompt in terms of getting back to me with info./ responding to email queries. I'm doing this first semester, at least, remotely and I don't for a minute feel any less connected as an AU student - on the contrary - Mark has really helped me feel part of the AU culture, in spite of the fact that I'm doing online learning for the time being (which I opted to do). His own expertise within research is very evident and despite this he is very willing to allow myself as a PhD student to "take the lead" in terms of organising myself, whilst feeding in his own valuable insight and experience with regards to timing, pace and organisation of research etc. I'm very grateful indeed to have been assigned to such a discerning supervisor, and really wanted to give some feedback to convey this.
Ein hymateb:
Diolch am roi o’ch amser i gyflwyno eich sylwadau hynod gadarnhaol am eich profiad hyd yma fel aelod o gymuned uwchraddedig DGES. Mae’n bleser clywed eich bod yn teimlo mor gartrefol yn yr adran er eich bod yn astudio o bell ar hyn o bryd. Fe wnaf i rannu eich sylwadau gyda Mark, rwy’n siŵr y bydd yn eu gwerthfawrogi’n fawr. Rwy’n sicr yn falch iawn i weithio gyda chydweithwyr sy’n ymroi i rannu eu harbenigedd ymchwil a chefnogi myfyrwyr, lle bynnag y bônt. Gobeithio y byddwn maes o law yn gallu cyfarfod wyneb yn wyneb yn DGES, ond rwy’n falch iawn i wybod eich bod yn teimlo cysylltiad â ni.