Is-raddedigion

Wrth astudio eich gradd dros y blynyddoed nesaf mae llawer o bethau gallwch ei wneud a fydd yn eich helpu i weld pa lwybrau gyrfa gall fod o ddiddordeb yn y dyfodol, yr ystod o sgiliau a phrofiadau gallwch eu datblygu, a sut i wneud y mwyaf o’ch cyfnod yn y Brifysgol.

Chwilio am brofiad gwaith

Cewch llawer o ddolenni cyswllt yn yr Adnoddau Cyffredinol isod i amrywiaeth eang o gyfleoedd gwaith.  Ond cyn pori trwy rheini, a ydych wedi ystyried y Cynllun Blwyddyn Mewn Gwaith?  Neu beth am weld pa opsiynau a gynigir gan ein Cynllun AberYmlaen? Os ydych yn chwilio am swyddi rhan-amser yn lleol mae amryw o opsiynnau ger eich bron.

Gallech hefyd ystyried gweitho’n llawrydd/entreprenwraidd.  Mae digonedd o wybodaeth a chymorth ar gynnig os hoffech fentro yn hunan-gyflogedig, mynwch olwg ar ein tudalen AberPreneuriaid.

Wedi i chi ddod o hyd i gyfleoedd profiad gwaith o ddiddordeb, cewch gymorth ar lunio ceisiadau grymus wrth chwilota

Llunio CV effeithiol

Gwneud ceisiadau

Sgiliau Cyfweld

 

Adnoddau Cyffredinol

Gwefan Prospects yw'r ffynhonnell swyddogol ar gyfer gwybodaeth am yrfaoedd a swyddi gwag i raddedigion ac israddedigion. Mae'n ymdrin a gyrfaoedd, galwedigaethau, cyflogwyr a swyddi gwag i raddedigion, dulliau o wneud cais a chymorth i ddewis gyrfa.

Logo GoinGlobal

 

 

Mae'r Gwasanaeth Gyrfaoedd yn tanysgrifio i gronfa ddata GoinGlobal(ar gael i fyfyrwyr a staff PA yn unig) sy'n cynnwys gwybodaeth ar wledydd, cyfarwyddiadur cyflogwyr a swyddi a lleoliadau byd-eang. Cewch fynediad i'r gronfa ddata trwy gyfrifiaduron PA ar gampws. I gael mynediad oddi ar y campws, cewch ddefnyddio cyswllt Rhwydwaith Preifat Rhithwir (VPN) neu sefydlu cyfrif personol ar wefan GoinGlobal gan ddefnyddio cyfrifiadur ar gampws a fydd yn caniatáu mynediad oddi ar gampws.

DU

Gwaith Gwirfoddol/Elusennau (DU)

Dramor

Gwaith Gwirfoddol Dramor

 

Manteisio ar bob blwyddyn o’ch astudiaethau

Bl. Gyntaf       

Bl. Ganol        

Bl. Olaf

Sgiliau i’ch dyfodol

Beth bynnag fo’ch llwybr gyrfa yn y dyfodol, un o’r prif dasgau o’ch blaen bydd dangos i darpar gyflogwyr y sgiliau sydd gennych a’r hyn allech ei gyflawni.  Bydd eich astudiaethau academaidd, diddordebau, profiadau gwaith, clybiau a chymdeithasau, lleoliad diwydiannol a’ch bywyd cymdeithasol oll yn cynnig digon o gyfle i chi ddatblygu amryw o sgiliau.  I ddeall sut i adnabod a chyflwyno’r sgiliau hyn i ddarpar gyflogwyr yn y modd orau, mynwch olwg ar ein tudalen GraddedigionAber.