Gwaith rhan-amser/yn ystod y tymor

Nid yn unig y bydd swydd ran-amser yn eich helpu i ennill mwy o arian, gall hefyd fod yn brofiad gwaith gwerthfawr a fydd o gymorth i chi i ddod o hyd i gyfleoedd gwaith lefel gradd. Bydd yn dangos i'r rhai sy'n recriwtio graddedigion eich bod yn gallu cydbwyso ymrwymiadau gwaith ac astudio, yn ogystal a'ch helpu i ddatblygu sgiliau newydd.

Mae gwaith rhan amser yn cael ei hysbysebu ar eing gronfa ddata ar gyfer swyddi a digwyddiadau -  gyrfaoeddABER.

 

Ble arall gallech edrych am swyddi rhan amser?

AberWorks – yn cael ei redeg gan Adnoddau Dynol, mae AberWorks yn cynnig rolau mewn amrywiaeth o wasanaethau proffesiynol ac adrannau academaidd. Am mwy o wybodaeth cliciwch yma neu ebostiwch hr@aber.ac.uk

Indeed

Papurau newyddion lleol fel Cambrian News

safleswyddi  - gwaith rhan amser trwy gyfrwng y Gymraeg

lleol.cymru - gwaith rhan amser trwy gyfrwng y Gymraeg

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Cyngor Sir Ceredigion

Bwrdd Iechyd Hywel Dda Swyddi 'banc' Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn ogystal â swyddi rhan-amser dros dro / parhaol

Tesco

Marks and Spencers

Morrisons

Lidl

Byddwch yn ofalus iawn wrth ddod o hyd i swyddi gwag ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol ac ar-lein, os oes gennych unrhyw ansicrwydd ynghylch swydd wag mae croeso i chi gysylltu â ni ar gyrfaoedd@aber.ac.uk  i gael ail farn ar swydd wag yr ydych wedi dod o hyd iddi.

Oriau gweithio - argymelliadau

Mae'r Gwasanaeth Gyrfaoedd yn argymell myfyrwyr amser llawn i beidio a gweithio mwy na 15 awr yr wythnos yn ystod y tymor er mwyn osgoi effaith negyddol ar astudiaethau academaidd. Mae gwyliau brifysgol yn gyfle da i weithio oriau ychwanegol i gynilo ar gyfer y tymor, felly manteisiwch i'r eithaf ar y cyfnod hwn.

Byddem hefyd yn eich cynghori i geisio torri nôl ar waith rhan-amser yn ystod cyfnod arholiadau fel y gallwch ganolbwyntio 100% ar yr arholiadau hollbwysig.

Os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol, cofiwch y gallai nifer yr oriau y byddwch yn eu gweithio, a'ch hawl i weithio yn ystod eich astudiaethau, ddibynnu ar eich fisa. Am fwy o wybodaeth, ewch i UKCISA.

Gwybodaeth pellach

Edrychwch ar y recordiad hwn o'n gweminar Dod o hyd i waith rhan-amser yn Aberystwyth.

Ceir gwybodaeth ar lleiafswm cyflog cenedlaethol, treth incwm, yswiriant cenedlathol ac oriau gweithio ar GOV.UK