Derbynnydd diweddaraf Ysgoloriaeth Clwb Pêl-droed Prifysgol Aberystwyth a Thref Aberystwyth wedi’i chyhoeddi
02 Tachwedd 2021
Kieran Booker, myfyriwr 18 oed sy'n astudio Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff, yw'r myfyriwr diweddaraf i dderbyn Ysgoloriaeth Prifysgol Aberystwyth a Chlwb Pêl-droed Tref Aberystwyth.
Academyddion Prifysgol Aberystwyth yn COP26
02 Tachwedd 2021
Mae academyddion o Brifysgol Aberystwyth yn cyfrannu at nifer o drafodaethau ac arddangosfeydd yn uwch-gynhadledd COP26.
Darlith gyhoeddus i ystyried cysgod y goncwest imperialaidd ar wleidyddiaeth ryngwladol
03 Tachwedd 2021
Bydd Darlith Goffa EH Carr eleni a drefnir gan yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn ystyried sut y mae cam-elwa a hierarchaethau hiliol wedi’u hymgorffori yn y drefn ryngwladol a gwleidyddiaeth ddemocrataidd.
Prosiect gan Ysgol Fusnes Aberystwyth yn anelu at rannu gwybodaeth â mentrau gwledig
03 Tachwedd 2021
Mae Prifysgol Aberystwyth yn awyddus i roi hwb i fentrau a busnesau newydd gwledig trwy rwydwaith sydd wedi'i gynllunio i rannu gwybodaeth.
Myfyrwraig o Aberystwyth yn ennill gwobr fawreddog am waith ar ganser mewn anifeiliaid
04 Tachwedd 2021
Mae myfyrwraig o Brifysgol Aberystwyth wedi ennill gwobr fawreddog am ei gwaith ymchwil ar ddull newydd a all gynorthwyo i adnabod canser ac afiechydon eraill mewn anifeiliaid.
Gwnewch i archfarchnadoedd leihau ac adrodd ar wastraff bwyd, meddai academydd Aberystwyth yn COP26
05 Tachwedd 2021
Dylai archfarchnadoedd, cynghorau a lleoliadau lletygarwch orfod datgelu faint o fwyd maen nhw'n ei wastraffu, a chyrraedd targedau lleihau blynyddol, yn ôl academydd o Brifysgol Aberystwyth.
Ysgrifennydd newydd y Brifysgol
11 Tachwedd 2021
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi penodi Dr Gwawr Taylor i swydd Ysgrifennydd y Brifysgol.
Belarws: Lukashenko’n bygwth diffodd y nwy i orllewin Ewrop wrth i’r argyfwng ymfudwyr ddwysáu
15 Tachwedd 2021
Mae Jenny Mathers o’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn ysgrifennu yn ‘The Conversation’ am y bygythiadau gan arlywydd Belarws, Alexander Lukashenko, i ymyrryd ar y llif nwy o Rwsia i Ewrop, y diweddaraf yn y gwrthdaro sy’n dwysáu rhwng Belarws a’r UE o ganlyniad i bresenoldeb nifer gynyddol o geiswyr lloches ar y ffin â Gwlad Pwyl.
Myfyrwyr yn cystadlu i ennill buddsoddiad £10k mewn syniad busnes
15 Tachwedd 2021
Mae Cais Dyfeisio (InvEnterPrize) 2022 wedi'i lansio, cystadleuaeth sy'n rhoi cyfle i fyfyrwyr o anian entrepreneuraidd frwydro i ennill £10,000 i'w fuddsoddi mewn syniad busnes.
Gallai tarfu ar glociau corff pysgod fod yn ddrwg i'w hiechyd
16 Tachwedd 2021
Mae clociau corff brithyll seithliw yn llywio rhythmau dyddiol eu system imiwnedd a’r micro-organebau buddiol sy’n byw ar eu croen, yn ôl ymchwil newydd gan dîm sy’n cynnwys academyddion Aberystwyth.
Penodi arbenigwraig o Aberystwyth i’r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru
16 Tachwedd 2021
Dr Anwen Elias o'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol i wasanaethu ar gomisiwn annibynnol sydd â chyfrifoldeb am wneud argymhellion ynghylch dyfodol cyfansoddiadol Cymru.
Cyfleuster ymchwil clinigol ym Mhrifysgol Aberystwyth i helpu i drawsnewid gofal iechyd
18 Tachwedd 2021
Mi fydd cyfleuster ymchwil clinigol newydd yn cael ei agor ym Mhrifysgol Aberystwyth fel rhan o bartneriaeth newydd gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Pum ffordd i gwtogi ar wastraff bwyd - a pham ei fod yn bwysig
18 Tachwedd 2021
Mewn erthygl yn The Conversation mae Dr Siobhan Maderson o’r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear yn trafod sut mae gwastraff bwyd yn creu straen diangen ar ein hamgylchedd bregus a phum peth y gallwch chi eu gwneud i helpu.
Prosiect bwyd o bryfed Prifysgol Aberystwyth yn ehangu
18 Tachwedd 2021
Mae gwyddonwyr o Brifysgol Aberystwyth yn ystyried pryfaid fel ffynhonnell werthfawr o fwyd anifeiliaid.
Cipolwg cyntaf ar Ysgol Filfeddygaeth newydd sbon Cymru
19 Tachwedd 2021
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi rhyddhau’r lluniau cyntaf o unig Ysgol Gwyddor Filfeddygol Cymru a agorodd am y tro cyntaf eleni.
Prifysgol Aberystwyth yn lansio Cronfa Cyfleoedd Ewropeaidd newydd
26 Tachwedd 2021
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi sefydlu cronfa newydd i gefnogi cyfleoedd astudio myfyrwyr yn Ewrop, diolch i rodd gan gyn-fyfyriwr.