Myfyrwraig o Aberystwyth yn ennill gwobr fawreddog am waith ar ganser mewn anifeiliaid

Sara Lind Valdimarsdottir, myfyrwraig ym Mhrifysgol Aberystwyth

Sara Lind Valdimarsdottir, myfyrwraig ym Mhrifysgol Aberystwyth

04 Tachwedd 2021

Mae myfyrwraig o Brifysgol Aberystwyth wedi ennill gwobr fawreddog am ei gwaith ymchwil ar ddull newydd a all gynorthwyo i adnabod canser ac afiechydon eraill mewn anifeiliaid.

 

Mae Sara Lind Valdimarsdottir, sy’n 23 mlwydd oed, wedi ennill Traethawd Israddedig y Flwyddyn Cymdeithas Gwyddor Anifeiliaid Prydain.

 

Yn wreiddiol o Wlad yr Iâ, daeth Sara i Gymru i astudio ar gyfer gradd israddedig mewn Biowyddorau Ceffylau a Milfeddygol yn Athrofa Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig y Brifysgol.

 

Nod traethawd ymchwil Sara oedd datblygu a phrofi system gost isel ar gyfer nodi newidiadau i gemeg DNA sy'n digwydd yn ystod datblygiad neu pan fydd anifail dan straen.

 

Cyfunodd ei hymchwil ddwy weithdrefn enetig bresennol i greu dull newydd, cost isel sy'n dod o hyd i farcwyr DNA.

 

Mae'r marcwyr hyn yn amrywio yn ôl oedran, rhwng organau, neu'n newid ar ôl i'r anifail ddal clefyd neu ganser penodol.

 

Gall y dechneg hefyd helpu i nodi'r rhan o anifail a ddefnyddir mewn cynhyrchion cig.

 

Wrth ymateb i'w llwyddiant, dywedodd Sara Lind Valdimarsdottir:

 

“Rwy’n falch iawn fy mod wedi ennill - mae’n anrhydedd fawr. Hoffwn i ddiolch i staff y Brifysgol am eu holl gefnogaeth. Ces i’r pleser o gwblhau fy mhrosiect traethawd hir o dan oruchwyliaeth yr Athro Mike Wilkinson. Roedd yn brofiad heriol a chyffrous, ac roedd yn rhaid i mi ddysgu gwybodaeth gymhleth yn gyflym.

 

“Mae gen i ystod eang o ddiddordebau mewn Bioleg, ac wrth i mi astudio yn Aberystwyth, magais i ddiddordeb cynyddol mewn ymchwil sy'n harneisio pŵer bioleg foleciwlaidd i wella lles anifeiliaid neu wella ansawdd bwyd. Ar ôl profi gwyddoniaeth labordy yn y byd go iawn, rwy’n awyddus i ddilyn gyrfa mewn ymchwil ac rwy’n cychwyn rhaglen Ddoethuriaeth ym Mhrifysgol Kentucky yn yr Unol Daleithiau ym mis Ionawr.”

 

Dywedodd yr Athro Mike Wilkinson, sydd â Chadair mewn Ecosystemau Amaeth yr Ucheldir ym Mhrifysgol Aberystwyth:

 

“Llongyfarchiadau mawr i Sara ar ei llwyddiant. Mae'r gwobrau hyn ar gyfer myfyrwyr eithriadol, ac yn rhoi cyfle gwych iddyn nhw ddangos eu gwaith i gynulleidfaoedd academaidd a’r diwydiant ledled y byd. Mae'r wobr hon yn dyst i'w brwdfrydedd, ei deallusrwydd a'i hymroddiad i'w hymchwil."

 

Ychwanegodd Dr. Anne Stevenson ar ran Panel Beirniadu Traethawd Ymchwil Israddedig y Flwyddyn Cymdeithas Gwyddor Anifeiliaid Prydain:

 

“Roedd y panel yn teimlo bod ansawdd y gorau o’r cyflwyniadau yn rhagorol ac yn dangos bod addysg a gallu ein Gwyddonwyr Anifeiliaid yn y dyfodol mewn cyflwr arbennig o dda er gwaethaf y straen a’r cyfyngiadau y mae’r pandemig wedi’u creu. Llongyfarchiadau i Sara fel yr enillydd.”

 

O ganlyniad i ennill y wobr, bydd Sara yn cyflwyno ei gwaith yng Nghynhadledd Flynyddol Cymdeithas Gwyddor Anifeiliaid Prydain yn Nottingham y flwyddyn nesaf, lle bydd yn cael cyfle i rwydweithio ag arbenigwyr gwyddor anifeiliaid blaenllaw o bob cwr o'r byd.