Prosiect bwyd o bryfed Prifysgol Aberystwyth yn ehangu
Dr Tiffany Lau gyda rhai o'r pryfed
18 Tachwedd 2021
Mae gwyddonwyr o Brifysgol Aberystwyth yn ystyried pryfaid fel ffynhonnell werthfawr o fwyd anifeiliaid.
Mae ymchwilwyr o Athrofa Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig y Brifysgol (IBERS) wedi sicrhau cyllid Ewropeaidd i adeiladu ar eu hymchwil i bryfaid fel ffynhonnell fwyd ar gyfer pobl.
Mae’r gwaith yn rhan o ‘ValuSect’, prosiect sy’n anelu at wella cynhyrchu a thechnegau prosesu pryfed yn gynaliadwy.
Mae pryfed yn rhan gyffredin o fwydlen bob dydd pobl mewn gwledydd ar draws y byd, megis Mecsico, Tsiena a Ghana.
Mae bwydydd o bryfed yn cynnig ffynhonnell brotein fwy amgycheddol-gyfeillgar na llawer o fwydydd eraill, a gallent gynorthwyo bwydo poblogaeth gynyddol y byd.
Hyd yn hyn mae’r prosiect wedi bod yn edrych ar griciaid, ceirw’r gwellt, a chynrhon melyn fel bwyd i bobl.
Yn sgil y grant bydd y pryfetyn Hermetica Illucens (black solder fly) yn cael ei ychwanegu at y fwydlen ymchwil ac yn ymestyn y gwaith i ystyried defnyddio cynnyrch o bryfaid ar gyfer bwydo anifeiliaid.
Dywedodd Yr Athro Alison Kingston-Smith, sy’n arwain ymchwil ValuSect ym Mhrifysgol Aberystwyth:
“Mae’r grant hwn yn hwb ardderchog i’r prosiect. Mae gan bryfed potensial mawr i fwydo pobl ac anifeiliaid eraill. Gyda phoblogaeth sy’n cynyddu, mae angen rhagor o ffynonellau bwyd cynaliadwy ar y byd.
“Mae’r prosiect hwn yn gyfle arbennig i amaethyddiaeth a’r sector fwyd yng Nghymru i arallgyfeirio i farchnadoedd newydd. Does dim amheuaeth bod protein pryfed yn derbyn sylw cynyddol yn y sector fwyd, a bydd ein hymchwilwyr yn rhan o’r datblygiadau cyffrous hynny.”
Mae ValuSect, sy’n golygu ‘Pryfed Gwerthfawr’, yn gonsortiwm a gydlynir gan Brifysgol Thomas More yng Ngwlad Belg a gefnogir gan grant €2,08m o raglen INTERREG Gogledd-Orllewin Ewrop. Mae’r grant ychwanegol yn ymestyn y rhwydwaith ymchwil ac yn cynnwys partneriaid prosiect newydd yn yr Almaen.
Mae Prifysgol Aberystwyth a BIC Innovation, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, yn cydweithio â phartneriaid o 6 gwlad arall yng Ngogledd-orllewin Ewrop.
Caiff canfyddiadau'r ymchwil eu rhannu gyda busnesau bwyd ac amaeth ar draws gogledd Ewrop.
Dengys ymchwil fod tua 30% o gwsmeriaid yr UE yn fodlon bwyta bwyd a wnaed o bryfed. Nod ValuSect yw cynyddu’r nifer hwn drwy wella ansawdd cynhyrchu a phrosesu pryfed, cynnal profion blasu gyda chwsmeriaid, a lleihau ei effaith amgylcheddol.
Canolbwyntia’r ymchwil ar allyriadau nwyon tŷ gwydr, yr effaith ar swbstradau, diogelwch bwyd ac ar oes silff cynnyrch bwyd sy’n dod o bryfed.
Fel rhan o ehangu’r prosiect, eleni, bydd ValuSect yn cynnig talebau gwerth hyd at €40,000 i fusnesau sy’n cynnig gwasanaethau i ddatblygu pryfed fel busnes bwydo anifeiliaid, megis gwella amodau bridio pryfed.
Amcangyfrifwyd bod gwerth y farchnad fyd-eang am bryfed yn 2020 yn €133 miliwn ac mae disgwyl iddi gyrraedd €736.7 miliwn erbyn diwedd 2026.
Mae rhai o’r posibiliadau masnachol eisoes yn dwyn ffrwyth. Dr Geoffrey Knott, a astudiodd ym Mhrifysgol Aberystwyth, yw Rheolwr Gyfarwyddwr a Chyd-sylfaenydd HOP, busnes sy’n cynhyrchu byrbrydau protein criciaid.
Dywedodd Dr Knott:
“Cenhadaeth HOP yw rhoi i unigolion rhagor o reolaeth dros eu hiechyd a lles tymor hir, a hynny drwy’r bwydydd maent yn eu bwyta. Ar hyn o bryd, mae HOP yn gwerthu cynnyrch maeth chwaraeon a wnaed o griciaid. Rydyn ni’n defnyddio criciaid gan eu bod yn darparu protein o ansawdd gwell na phlanhigion ac yn cael eu ffermio mewn ffordd sydd yn fwy cynaliadwy a moesegol na ffynonellau anifeiliaid traddodiadol.”