Prifysgol Aberystwyth yn lansio Cronfa Cyfleoedd Ewropeaidd newydd

Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Athro Elizabeth Treasure, yn cyflwyno copi o Cambriae Typus Humphrey Llwyd, a argraffwyd yn 1573 yn Antwerp gan Abraham Ortelius, i Mr William Parker a Vivien Hopkirk i nodi lansiad y Gronfa Cyfleoedd Ewropeaidd sydd wedi'i hariannu gan rodd hael Mr Parker.

Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Athro Elizabeth Treasure, yn cyflwyno copi o Cambriae Typus Humphrey Llwyd, a argraffwyd yn 1573 yn Antwerp gan Abraham Ortelius, i Mr William Parker a Vivien Hopkirk i nodi lansiad y Gronfa Cyfleoedd Ewropeaidd sydd wedi'i hariannu gan rodd hael Mr Parker.

26 Tachwedd 2021

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi sefydlu cronfa newydd i gefnogi cyfleoedd astudio myfyrwyr yn Ewrop, diolch i rodd gan gyn-fyfyriwr.

Graddiodd William Parker mewn Hanes o Aberystwyth ym 1981, ac mae wedi rhoi dros hanner miliwn o bunnoedd i sefydlu Cronfa Cyfleoedd Ewropeaidd newydd y Brifysgol.

Drwy grantiau o rhwng £500 a £3000, bydd y gronfa'n galluogi myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig i astudio, gweithio neu fynychu cynadleddau yn yr Undeb Ewropeaidd a'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, gyda chyllid ar gael am gyfnodau o hyd at bedair wythnos yn y flwyddyn gyntaf.

Gallant hefyd ofyn am arian ychwanegol er mwyn eu galluogi i deithio mewn ffordd fwy cynaliadwy ac ar gyfer hyfforddiant iaith.

Disgrifia Mr Parker ei hun fel Ewropead a pherson rhyngwladol sydd wedi mwynhau gyrfa broffesiynol lwyddiannus iawn gyda chwmnïoedd ym maes peirianneg, yn fwyaf diweddar yn y diwydiant telegyfathrebu symudol, gan weithio yn Ewrop, Affrica a’r Dwyrain Canol a’r Dwyrain Pell.

Ag yntau’n medru’r Ffrangeg ac Iseldireg, mae’n credu'n gryf bod dysgu ieithoedd wedi golygu iddo gael ei ystyried am ystod lawer ehangach o gyfleoedd gwaith nag a fyddai wedi bod yn wir fel arall.

Cafodd gyfle i feithrin ei ddiddordeb mewn ieithoedd yn ystod ei gyfnod fel myfyriwr yn Aberystwyth.

Yn ystod haf 1979, treuliodd fis yn astudio Ffrangeg mewn coleg sy'n gysylltiedig â'r Universite de Tours, wedi iddo dderbyn grant achlysurol gan y Brifysgol.

Wrth siarad yn lansiad y Gronfa Cyfleoedd Ewropeaidd, dywedodd Mr Parker: “Fe ddarparodd Prifysgol Aberystwyth ddechreuad ardderchog i mi yn fy ngyrfa broffesiynol ac rwy’n falch iawn o allu cefnogi’r Brifysgol yn y modd hwn.

“Mewn byd sy’n newid yn gyflym mae’n bwysig bod y Brifysgol a’i myfyrwyr yn cynnal eu cysylltiad ar draws yr Undeb Ewropeaidd ac Ardal Economaidd Ewrop. Fy ngobaith yw y bydd y gronfa newydd hon yn ei gwneud hi'n haws i fyfyrwyr Aberystwyth o bob cefndir deithio a phrofi ieithoedd a diwylliannau newydd.

Yn ôl Mr Parker mae “fformat coffi espresso” y gronfa yn mynd i olygu cyfleoedd sy’n cynnig “ysgogiad byr a phwerus”.

“Fy ngobaith yw y bydd y gronfa newydd hon yn ysbrydoli myfyrwyr i ymweld â llefydd newydd, cwrdd â phobl newydd a sefydlu rhwydweithiau newydd at ddibenion astudio, gwaith a chymdeithasol. Yn fy mhrofiad i, mae cyfleoedd o’r fath yn golygu eich bod wedi eich paratoi’n well ar gyfer bywyd ar ôl prifysgol. ”

“Yn ogystal, rwy’n mawr obeithio y bydd eraill yn cael eu hysbrydoli gan fy esiampl i i gyfrannu at y Brifysgol fel y cefais i gan haelioni blaenorol cyd-raddedigion.”

Dywedodd yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Braint fawr yw cael croesawu William Parker yn ôl i Aberystwyth ac i lansio ein Cronfa Cyfleoedd Ewropeaidd newydd, ychwanegiad sylweddol a phwysig i’r cyfleoedd cyllido sydd ar gael i’n myfyrwyr sydd yn dymuno astudio neu weithio dramor. Mae hefyd yn garreg filltir bwysig yn ein strategaeth cyfleoedd byd-eang ac un a fydd yn cynnig cyfleoedd newydd rhyfeddol i gynifer o'n myfyrwyr.

“O’i dyddiau cynnar, mae Prifysgol Aberystwyth wedi bod yn sefydliad gwirioneddol ryngwladol sy’n croesawu myfyrwyr o bob cornel o’r byd i’n tref brifysgol, tra’n cynnig llawer o gyfleoedd rhyfeddol i’n myfyrwyr i ehangu eu gorwelion a phrofi diwylliannau eraill.

“Mae haelioni William yn dilyn traddodiad hir a nodedig o roi dyngarol a roddodd seiliau i’r sefydliad rhyfeddol hwn, ac a fydd nawr yn agor drysau i genhedlaeth newydd o’n myfyrwyr mewn ffordd arloesol a chyffrous.”

Mae'r gronfa newydd wedi'i chroesawu gan Marta Barteczko, Llywydd Rhwydwaith Myfyrwyr Erasmus yn Aberystwyth a dreuliodd flwyddyn yn Sbaen fel rhan o'i gradd Busnes a Sbaeneg.

Dywedodd Marta Barteczko: “Mae’n hyfryd bod yma heddiw i ddathlu lansiad y Gronfa Cyfleoedd Ewropeaidd newydd a diolch i Mr Parker am ei haelioni a’i weledigaeth.

“Rwy’n gwybod o fy mhrofiad fy hun pa mor bwysig yw hi i fyfyrwyr allu mynd dramor, profi gwahanol ddiwylliannau ac ehangu ein gorwelion. Mae fy sgiliau wedi gwella nid yn unig yn y maes academaidd ond hefyd o ran cyfathrebu ac yn gymdeithasol. Bues i’n ddigon ffodus yn ystod pandemig COVID i fynychu digwyddiadau a mynd ar deithiau a drefnwyd gan gynllun Erasmus yn Sevilla, Sbaen. Ysbrydolodd hyn fi i ymuno ag elusen Rhwydwaith Myfyrwyr Erasmus yn y DU fel ffordd o roi cyfle i eraill weld eu cyfleoedd yn union fel y cawsant eu rhoi imi yn ystod fy mlwyddyn dramor.”

Carys Wilson, myfyriwr MA Celfyddyd Gain, yw’r gyntaf i dderbyn cefnogaeth y Gronfa Cyfleoedd Ewropeaidd newydd.

Mae Carys Wilson newydd gwblhau cwrs celf wythnos o hyd yn Sardinia, yr Eidal, ar ddefnyddio tempera wy ar gyfer ei gwaith, cyfrwng a ddefnyddiwyd yn helaeth gan artistiaid y Dadeni.

Meddai: “Mae'r cwrs hwn wedi bod fel bwyd ymennydd. Rwyf wedi darganfod y camgymeriadau yr oeddwn yn eu gwneud wrth archwilio'r cyfrwng hwn yn annibynnol, wedi dysgu llawer iawn am ei hanes a sut i’w ddefnyddio’n ymarferol gan arbenigwr yn ei stiwdio, wedi gweithio ochr yn ochr gydag 'artistiaid sy'n dod i'r amlwg' ac wedi gwneud cysylltiadau proffesiynol amhrisiadwy. Mae wedi cyflymu’r broses o ddysgu’n fawr iawn, ac wedi fy ngalluogi i symud ymlaen yn gynt o lawer a gyda mwy o hyder yn fy ngwaith fy hun wrth i mi symud tuag at fy sioeau MA y flwyddyn nesaf.

“Heb y Gronfa Cyfleoedd Ewropeaidd, nid oes unrhyw ffordd y byddwn i wedi gallu mynychu'r cwrs hwn, talu am lety na'r costau teithio, ac roedd y broses ymgeisio yn hawdd. Rwy'n ei argymell yn llwyr i fyfyrwyr eraill ac yn hynod ddiolchgar i Mr William Parker am wneud hyn i gyd yn bosibl. "

Dywedodd Louise Jagger, Cyfarwyddwr Cysylltiadau Alumni Prifysgol Aberystwyth: “Cafodd Prifysgol Aberystwyth ei sefydlu gan gefnogaeth ddyngarol ac mae wedi tyfu i fod y sefydliad ffyniannus ac uchelgeisiol a welwn ni heddiw o ganlyniad i bron i 150 mlynedd o gefnogaeth gan gyn-fyfyrwyr a ffrindiau ledled y byd. Mae rhoddion a chymynroddion yn gwneud gwahaniaeth enfawr i'n myfyrwyr a'n staff trwy ariannu rhaglenni a phrosiectau arloesol i wella ein haddysgu a'n hymchwil a'n profiad myfyrwyr. Bydd rhodd hael William yn trawsnewid bywydau trwy ddarparu cyfleoedd newydd i fyfyrwyr mewn ffyrdd sy'n cefnogi eu hastudiaethau a'u huchelgeisiau gyrfa. Rydyn ni’n ddiolchgar iawn iddo am ei haelioni. ”

Mae manylion llawn y gronfa newydd ar gael ar-lein.

Mae'r wefan yn cynnwys rhestr lawn o wledydd cymwys ar gyfer blwyddyn academaidd 2021/2022, lefel y gefnogaeth ariannol sydd ar gael a meini prawf cymhwysedd myfyrwyr.

Mae'n ofynnol i fyfyrwyr sy'n dymuno cymryd rhan yn y cynllun gofrestru eu diddordeb trwy e-bostio global@aber.ac.uk.