Gwnewch i archfarchnadoedd leihau ac adrodd ar wastraff bwyd, meddai academydd Aberystwyth yn COP26

Bae Ceredigion

Bae Ceredigion

05 Tachwedd 2021

Dylai archfarchnadoedd, cynghorau a lleoliadau lletygarwch orfod datgelu faint o fwyd maen nhw'n ei wastraffu, a chyrraedd targedau lleihau blynyddol, yn ôl academydd o Brifysgol Aberystwyth.

 

Mae colli bwyd a gwastraff yn cyfrif am 10% o allyriadau nwyon tŷ gwydr byd-eang, ac yn fyd-eang mae dros draean o'r bwyd a gynhyrchir i'w fwyta gan bobl yn cael ei golli neu ei wastraffu bob blwyddyn.

 

Mae Dr Siobhan Maderson o Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth yn rhan o dîm o enillwyr cystadleuaeth Lab Polisi rhaglen Diogelwch Bwyd Byd-eang.

 

Fe fydd argymhellion y tîm yn cael eu rhyddhau ar stondin yr UKRI yn uwchgynhadledd hinsawdd COP26 heddiw (dydd Llun 8 Tachwedd).

 

Mae cynigion polisi Dr Maderson a’i chydweithwyr ymchwil yn ymddangos mewn adroddiad a ariennir gan wobr o Raglen Diogelwch Bwyd Byd-eang UKRI.

 

Maent yn cynnwys:

 

  • mesur, nodi a lleihau colledion a gwastraff bwyd mewn contractau cyflenwyr-manwerthwyr;
  • ei gwneud yn ofynnol i letygarwch, archfarchnadoedd ac awdurdodau lleol ddatgelu'r holl golledion a gwastraff bwyd a gosod targedau lleihau gorfodol blynyddol;
  • adolygu rheolau a rheoliadau cyfredol ar waredu gwastraff bwyd ac ystyried ailgyflenwi colledion bwyd a gwastraff, er enghraifft, fel bwyd anifeiliaid;
  • cefnogi cadwyni cyflenwi mwy effeithlon, llai gwastraffus drwy drefnu mwy o gaffael cyhoeddus yn uniongyrchol gan gyflenwyr; a
  • diffiniadau a therminoleg safonol ar gyfer colledion, gwastraff a gwarged bwyd yn ogystal â rhannau na ellir eu bwyta a chyrchfannau colledion a gwastraff bwyd.

 

Mae'r ymchwilwyr hefyd yn galw am fwy o ymchwil ar gymorth seilwaith ar gyfer colledion bwyd a hybiau dosbarthu gwastraff, a'r ffordd y mae gwybodaeth am effaith amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd ein systemau bwyd yn cael ei chasglu.

 

Wrth siarad cyn rhyddhau'r argymhellion yn COP26, dywedodd un o awduron yr adroddiad, Dr Siobhan Maderson o Brifysgol Aberystwyth:

 

 “Mae COP26 yn gyfle brys i gael gwledydd i leihau eu nwyon tŷ gwydr, ac mae lleihau colledion a gwastraff bwyd yn rhan allweddol o hynny. Pe bai colledion a gwastraff bwyd yn cael eu cynrychioli fel gwlad, hi fyddai'r trydydd allyrrydd mwyaf o nwyon tŷ gwydr, gan achosi 10% o allyriadau byd-eang.

 

“Ar hyn o bryd, mae’r rhan fwyaf o’r gwaith ar leihau gwastraff bwyd yn canolbwyntio ar ddefnyddwyr ac aelwydydd. Fodd bynnag, mae ein hymchwil yn tynnu sylw at wastraff ac aneffeithlonrwydd ledled y system fwyd, gan gynnwys ar y fferm, ac o ganlyniad i fanylebau cytundebol hynod gyfyngol rhwng cyflenwyr a manwerthwyr.”

 

“Mae cynhyrchu, bwyta a gwastraffu bwyd yn achosi effeithiau sy'n costio ein cymdeithas, ond nid yw'r costau hyn fel arfer yn cael eu cynnwys ym mhris y bwyd rydyn ni'n ei brynu. Mae enghreifftiau o hyn yn cynnwys sut nad yw pris bwydydd braster uchel a siwgr uchel yn cynnwys costau'r gwasanaeth iechyd sy'n trin afiechydon sy'n deillio o ddietau sy’n cynnwys canran uchel o’r bwydydd hyn. Enghraifft arall yw pris cig nad yw’n cynnwys costau delio ag effeithiau amgylcheddol negyddol o ffermio da byw.

“Fe wnaethon ni archwilio dull ar gyfer asesu a deall gwir effeithiau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol gwahanol systemau cynhyrchu bwyd, o’r enw True Cost Accounting neu Gyfrifeg Gwir Gost. Mae angen i ni ddatblygu systemau a all oresgyn meddylfryd am yr hyn sy’n achosi ac yn gyfrifol am golledion a gwastraff bwyd. Mae angen i ni gefnogi ymdrechion cydweithredol i wneud systemau bwyd yn fwy effeithlon yn amgylcheddol, ac yn gymdeithasol gyfiawn."

 

Mae Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig yn anelu at haneru gwastraff bwyd y pen ar lefel manwerthu a defnyddwyr yn fyd-eang, ynghyd â lleihau colledion bwyd ar hyd cadwyni cynhyrchu a chyflenwi erbyn 2030.

 

Ychwanegodd Dr Maderson:

 

“Ymhlith y rhwystrau i leihau gwastraff bwyd ar lefel yr aelwyd mae diffyg amser, gwybodaeth a sgiliau ar gyfer prynu a pharatoi bwyd. Mae dyddiadau defnyddio erbyn a meintiau dognau mawr yn gwaethygu hyn. Mae’r ffaith bod bwyd rhad, a gynhyrchir yn fyd-eang, ar gael bron a bod yn ddiderfyn hefyd yn datgysylltu defnyddwyr oddi wrth wir werth ac effaith eu bwyd, a'r gwerth a gollir wrth ei wastraffu.

 

“Yn bwysig, mae angen i ni edrych y tu hwnt i wastraff cartref unigol, a mynd i’r afael â cholled a gwastraff ym mhob rhan o’r system fwyd. Mae cadwyni cyflenwi mawr, cymhleth yn arwain at orgynhyrchu a gor-stocio. Mae gwastraff na ellir ei osgoi, yn ogystal â bwyd sydd wedi'i ddifetha neu ei ddifrodi, fel arfer yn cael ei anfon i safleoedd tirlenwi, oherwydd y rheoliadau cyfredol ar ail-bwrpasu colledion a gwastraff bwyd. ”