Penodi arbenigwraig o Aberystwyth i’r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru

Dr Anwen Elias

Dr Anwen Elias

16 Tachwedd 2021

Mae arbenigwraig ar wleidyddiaeth diriogaethol a chyfansoddiadol ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi’i phenodi’n Gomisiynydd ar gomisiwn newydd, y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru.

Roedd y Dr Anwen Elias, Darllenydd mewn Gwleidyddiaeth yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, ymhlith y naw unigolyn a benodwyd yn y cyhoeddiad a wnaed yn y Senedd heddiw gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, Mick Antoniw AS.  

Dau amcan eang sydd gen y comisiwn annibynnol newydd ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru. 

Yr amcan cyntaf yw ystyried a datblygu opsiynau i ddiwygio’n sylfaenol strwythurau cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig, y mae Cymru yn dal i fod yn rhan annatod ohoni.

Yr ail amcan yw ystyried a datblygu’r holl brif opsiynau blaengar i gryfhau democratiaeth Cymru a sicrhau gwelliannau i bobl Cymru.

Mae diddordebau ymchwil y Dr Elias yn cynnwys gwleidyddiaeth gymharol diriogaethol a chyfansoddiadol, pleidiau gwleidyddol a democratiaeth ymgynghorol. Mae’n Cyd-Gyfarwyddwr ar Ganolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru a Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru.

Gan ymateb i’w phenodiad, dywedodd y Dr Elias: “Sefydlwyd y Comisiwn Annibynnol ar adeg hollbwysig yng ngwleidyddiaeth Cymru a Phrydain fel ei gilydd. Mae’n anrhydedd cael fy mhenodi iddo, ac edrychaf ymlaen at allu cyfrannu at ei waith pwysig dros y ddwy flynedd nesaf.” 

Bydd y Comisiwn yn cael ei gydgadeirio gan yr Athro Laura McAllister (Athro Polisi Cyhoeddus a Llywodraethiant Cymru yng Nghanolfan Llywodraethiant) a’r Gwir Barchedig a Gwir Anrhydeddus Ddr Rowan Williams. Bydd y Comisiwn yn cynnwys aelodau o ystod eang o safbwyntiau gwleidyddol ac o wahanol rannau o gymdeithas Cymru.

Gofynnwyd i’r Comisiwn lunio adroddiad interim erbyn diwedd 2022 ac adroddiad llawn gydag argymhellion erbyn diwedd 2023.

 

Darllenwch gyhoeddiad Llywodraeth Cymru yma.