Gallai tarfu ar glociau corff pysgod fod yn ddrwg i'w hiechyd

Brithyll

Brithyll

16 Tachwedd 2021

Mae clociau corff brithyll seithliw yn llywio rhythmau dyddiol eu system imiwnedd a’r micro-organebau buddiol sy’n byw ar eu croen, yn ôl ymchwil newydd gan dîm sy’n cynnwys academyddion Aberystwyth.

Mae cadw pysgod o dan olau cyson - a ddefnyddir yn aml gan ffermydd pysgod i wella twf neu reoli atgenhedlu - yn tarfu ar y rhythmau dyddiol hyn ac yn golygu eu bod yn fwy agored i beryglon barasitiaid.

Mae’r gwaith hwn gan ymchwilwyr ym mhrifysgolion Aberystwyth, Bangor, a Chaerdydd a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn Microbiome, yn dangos pa mor bwysig yw deall “cronobioleg” anifeiliaid ar gyfer cynnal eu hiechyd.

Dywedodd un o gyd-awduron yr adroddiad, Dr David Wilcockson o Athrofa y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth:

“Mae newid hinsawdd a’r pandemig wedi ein gwneud ni i gyd yn fwy ymwybodol o’r cysylltiadau rhwng iechyd a lles pobl ac anifeiliaid. Rhaid i ni fod yn ymwybodol o'r hyn y mae gosod pysgod o dan olau drwy’r amser yn ei olygu.

“Dyma’r astudiaeth gyntaf i edrych ar rythmau dyddiol microbiomau pysgod. Mae’r canfyddiadau’n awgrymu y gallai technegau ffermio cyfredol fod yn cael effaith anfwriadol ar iechyd pysgod.”

Ychwanegodd Dr Amy Ellison, darlithydd yn Ysgol Gwyddorau Naturiol Prifysgol Bangor ac awdur arweiniol yr ymchwil:

“Mae gan frithyll seithliw rythmau dyddiol neu ‘circadian’ yn eu gweithgaredd imiwnedd ac ymddengys bod y rhythmau hyn yn newid cyfansoddiad y cymunedau microbaidd sy’n byw ar eu croen mewn patrymau dydd a nos. Y ‘microbiomes’ croen pysgod hyn ydy’r llinell amddiffyn gyntaf rhag parasitiaid a phathogenau sy’n ymosod arnynt, felly gallai hyn fod yn bwysig iawn i’w hiechyd. ”

“Gwelsom fod magu pysgod o dan olau parhaus yn effeithio’n ddifrifol ar amseru eu system imiwnedd a’u microbiomau. Wrth gael eu heintio â llau croen parasitig, roedd pysgod dan olau cyson yn llai abl i gael gwared ar haint, ac mae hynny’n destun pryder.”

Ychwanegodd Dr David Wilcockson o Brifysgol Aberystwyth:

“Mae cronotherapïau - amseru dyddiol priodol brechlynnau a thriniaethau eraill - yn dechrau chwyldroi meddygaeth ddynol. Ond nid yw hyn wedi'i gymhwyso eto i anifeiliaid fferm. Mae ein hastudiaeth yn codi'r posibilrwydd y gellid defnyddio dulliau tebyg i helpu i gynnal iechyd a lles pysgod ar ffermydd."

Mae llau croen yn broblem eang mewn dyframaeth. Datgelodd yr ymchwil hwn hefyd fod heintiau llau yn newid cymunedau microbaidd croen brithyll yn sylweddol, gan gynyddu nifer y bacteria pathogenig.

Mae'r astudiaeth hon yn rhan o brosiect a ariennir gan gymrodoriaeth Darganfod BBSRC i ymchwilio i gronobioleg pysgod, eu parasitiaid a'u microbiomau.