Myfyrwyr yn cystadlu i ennill buddsoddiad £10k mewn syniad busnes

15 Tachwedd 2021

Mae Cais Dyfeisio (InvEnterPrize) 2022 wedi'i lansio, cystadleuaeth sy'n rhoi cyfle i fyfyrwyr o anian entrepreneuraidd frwydro i ennill £10,000 i'w fuddsoddi mewn syniad busnes.

Cystadleuaeth flynyddol yw hon sy'n rhoi cyfle digymar i fyfyrwyr a graddedigion diweddar Aberystwyth sydd â syniadau da am fusnes neu fenter gymdeithasol i wireddu eu breuddwydion.

Caiff gwobrau eu dyfarnu i'r syniadau gorau a mwyaf dyfeisgar sydd â'r addewid masnachol a chymdeithasol mwyaf.

Gall y brif wobr, sef £10,000, a gyllidir gan roddion cyn-fyfyrwyr i Gronfa Aber, gael ei buddsoddi mewn offer, cyfleusterau neu wasanaethau proffesiynol er mwyn i'r buddugol roi cychwyn ar ei gyw fusnes. 

Ymhlith y gwobrau eraill mae: aelodaeth gyswllt am flwyddyn ar Gampws Arloesi a Menter Aberystwyth (cynigion am fusnes sy'n anelu at sectorau'r bio-wyddorau, y gwyddorau bywyd neu amaethyddiaeth), £3,000 a ariennir gan 'Engineers in Business' (i ymgeiswyr cysylltiedig â Chyfrifiadureg, Mathemateg a Ffiseg), a £500 am y busnes gorau i ardal wledig (o brosiect Rhwydwaith Twf, Gwytnwch Gwledig ac Arloesi [GRRain]).

Wrth i fyfyrwyr a'r timau myfyrwyr weithio i ddatblygu eu cynlluniau busnes terfynol, gallant gael cyngor arbenigol a gloywi eu sgiliau busnes trwy gyfres o weminarau ar-lein gan fentergarwyr llwyddiannus; bydd testunau dan sylw'n cynnwys elfennau hanfodol megis ymchwil i'r farchnad, brandio, cyllid, a diogelu eiddo deallusol. Byddant hefyd yn gallu manteisio ar fentora unigol gan ‘Syniadau Mawr Cymru’.

Uchafbwynt y gystadleuaeth, sy'n cau ar 7 Chwefror 2022, fydd gwahodd y myfyrwyr sydd yn y rownd derfynol i geisio gwerthu'u syniadau busnes i banel o feirniaid (yn cynnwys cyn-fyfyrwyr llwyddiannus o Brifysgol Aberystwyth) mewn digwyddiad tebyg i'r gyfres deledu Dragon's Den .

Bydd cystadleuwyr eleni yn gobeithio dilyn yn ôl troed enillydd y gystadleuaeth y llynedd, sef Karl Swanpoel, sy'n gweld ei fusnes newydd Revolancer yn mynd o nerth i nerth.

Mae syniad busnes Karl am farchnad sy'n cysylltu gweithwyr llawrydd dawnus â busnesau uchelgeisiol sydd angen dirnadaeth ddigidol, eisoes wedi llwyddo i ddenu buddsoddiadau pellach, ac yn ddiweddar daeth Karl i'r rownd derfynol yng nghystadleuaeth Engineers in Business, sef Pencampwr y Pencampwyr.

Roedd Karl yn westai arbennig yn lansiad y gystadleuaeth, ac fe ddywedodd: "Roeddwn i wastad wedi bod eisiau gweithio i mi fy hun, ac yn ystod fy mlwyddyn olaf yn y Brifysgol clywais am y gystadleuaeth a sylweddoli fod hyn yn gyfle i ddatblygu fy sgiliau busnes ymhellach. Roedd ennill yn brofiad gwych, a bu'r arian yn ffordd i roi dechrau da i'm menter, Revolancer. Fy nghyngor i unrhyw un sy'n ystyried ymgeisio eleni yw gwneud y mwyaf o bob cyfle i ofyn am gymorth gan fentoriaid a phobl fusnes profiadol, a defnyddio'r cyngor i ddatblygu model busnes cadarnach a caboli eich broliant gwerthu."

Yn ôl Tony Orme, Rheolwr Menter y Brifysgol, sy'n trefnu'r gystadleuaeth flynyddol: "Mae'r gystadleuaeth hon yn gyfle cyffrous i fyfyrwyr sydd a'u bryd ar fentergarwch a bydd gan y rhai a raddiodd yn yr haf gyfle i ennill cyllid deillio i'w cynorthwyo i lansio a datblygu eu menter busnes newydd. 

"Mae Gwasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol yn cynorthwyo myfyrwyr, graddedigion a staff i wireddu eu huchelgais a chyflawni eu haddewid, ac mae hyn yn cynnwys rhoi cymorth ymarferol i fentrau dyfeisgar ac ar gyfer dechrau busnes trwy rhaglen brysur o weithgareddau ‘Aberpreneur."