Academyddion Prifysgol Aberystwyth yn COP26

Planhigion sy'n cael eu tyfu o dan amodau rheoledig

Planhigion sy'n cael eu tyfu o dan amodau rheoledig

02 Tachwedd 2021

Mae academyddion o Brifysgol Aberystwyth yn cyfrannu at nifer o drafodaethau ac arddangosfeydd yn uwch-gynhadledd COP26.

 

Bydd mynychwyr yr uwchgynhadledd - yn rhithwir ac yn y cnawd - yn gallu gweld enghreifftiau o ymchwil y Brifysgol i ddatblygu datrysiadau i newid hinsawdd.

 

Ar 3 a 7 Tachwedd, bydd gwaith yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear ar fapio lloeren o fiomas coedwigoedd uwchben y ddaear gyda’r Asiantaeth Ofod Ewropeaidd, a gweithgareddau harmoneiddio cynnyrch biomas gyda NASA a Asiantaeth Manteisio ar Awyrenneg Japan yn cael ei arddangos.

 

Ddydd Sadwrn 6 Tachwedd, bydd yr Athro Richard Lucas a Heather Kay yn cyflwyno ar y prosiect Cymru Fyw, sy’n defnyddio lloerenni i gofnodi cyflwr a dynamig tirlun Cymru.

 

Ar yr un diwrnod, bydd Dr Judith Thornton a'r Athro Mariecia Fraser o Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig a'r Athro Richard Lucas yn rhai o’r prif siaradwyr yn Sioe Deithiol COP26. Bydd y Dr Thornton a’r Athro Fraser yn trafod Lleihau Nwy Tŷ Gwydr trwy Adfer Mawn. Bydd cyflwyniad yr Athro Lucas yn trafod prosiect Cymru Fyw a sut gellir defnyddio data arsylwi’r Ddaear. Bydd Miranda Whall o’r Ysgol Gelf yn perfformio ‘Crossed Paths - Scots Pine’ yng nghanol y ddinas yn ogystal â dangos cyfres o ffilmiau a ffotograffau ar stondin Rhwydweithiau Prifysgolion y DG.

 

Ddydd Llun 8 Tachwedd, bydd Dr. Siobhan Maderson o'r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear yn cyflwyno argymhellion ar sut i leihau gwastraff a cholledion bwyd er mwyn leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, fel rhan o brosiect Diogelwch Bwyd Byd-eang.

 

Bydd gwaith eco-beirianneg gwyddonwyr yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig Prifysgol Aberystwyth yn cael ei arddangos mewn gardd breifat ar gyfer arweinwyr byd a swyddogion yn lleoliad COP26.