Cyfleuster ymchwil clinigol ym Mhrifysgol Aberystwyth i helpu i drawsnewid gofal iechyd
Cynrychiolwyr Prifysgol Aberystwyth a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn ymweld â Chanolfan Addysg Iechyd newydd y Brifysgol a fydd yn cynnal y radd nyrsio newydd o fis Medi 2022. Llofnodi Memorandwm o Gyd-ddealltwriaeth rhwng y ddau sefydliad fel rhan o’r ymweliad.
18 Tachwedd 2021
Mi fydd cyfleuster ymchwil clinigol newydd yn cael ei agor ym Mhrifysgol Aberystwyth fel rhan o bartneriaeth newydd gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Mae’r cyfleuster newydd ar gyfer Bwrdd Iechyd Hywel Dda ar gampws Penglais y Brifysgol, ger Ysbyty Bronglais, a bydd yn cynnig canolbwynt i staff gydweithio ar addysg, ymchwil ac arloesi o ddydd i ddydd.
Mae’r datblygiad yn rhan o Femorandwm o Gyd-ddealltwriaeth sydd newydd ei arwyddo gan Brifysgol Aberystwyth a Bwrdd Iechyd Hywel Dda, ac sydd wedi’i gynllunio i drawsnewid gofal iechyd a chefnogi cyflwyno strategaeth ‘Canolbarth a Gorllewin Cymru Iachach’ y Bwrdd Iechyd.
Mae'r cytundeb newydd yn cynnig fframwaith ar gyfer cynlluniau addysg, ymchwil ac arloesi i drawsnewid gofal iechyd ar draws siroedd Caerfyrddin, Penfro a Cheredigion.
Eisoes mae'r Bwrdd Iechyd a'r Brifysgol yn cydweithio mewn nifer o feysydd, a nod y cytundeb newydd yw manteisio i’r eithaf ar ffrwyth llafur y bartneriaeth.
Mae'r cytundeb hefyd yn cynnwys y Ganolfan Addysg Gofal Iechyd newydd a fydd yn barod ar gyfer myfyrwyr nyrsio cyntaf Prifysgol Aberystwyth ym mis Medi 2022.
Disgwylir y bydd mwy o ddatblygiadau sy’n deillio o’r bartneriaeth yn cael eu cyhoeddi yn ystod y misoedd nesaf mewn meysydd sy’n cynnwys systemau bwyd cynaliadwy, datgarboneiddio, economeg iechyd, a darparu model iechyd cymdeithasol.
Dywedodd yr Athro Neil Glasser, Dirprwy Is-Ganghellor Cyfadran y Gwyddorau Daear a Bywyd ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Rydym yn falch iawn o fod yn cryfhau ein perthynas gyda’r Bwrdd Iechyd. Ers cryn amser, bu ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn gweithio gyda chydweithwyr ym Mwrdd Iechyd Hywel Dda ar fentrau i wella darpariaeth gofal iechyd mewn ardaloedd gwledig ac effeithiau cadarnhaol ymarfer corff ar iechyd gan gynnwys gwaith helaeth ar glefyd siwgr ac ati. Rydyn ni’n edrych ymlaen at adeiladu ar lwyddiant y gwaith hwn.
“Mae hwn yn gyfnod cyffrous iawn i ni, wrth i ni baratoi i groesawu ein myfyrwyr nyrsio cyntaf i'r radd nyrsio newydd yma yn Aberystwyth ym mis Medi 2022. Ynghyd â'r cytundeb newydd gyda’r Bwrdd Iechyd, mae'r datblygiad hwn yn dod ar drothwy cyfnod newydd o gydweithredu sydd â’r potensial i esgor ar ddatblygiadau sylweddol i'r gymuned leol a mynd i'r afael â rhai o'r heriau a ddaw yn sgil darparu gofal iechyd mewn ardal wledig.”
Dywedodd Dr Leighton Phillips, Cyfarwyddwr Ymchwil, Arloesi a Phartneriaethau Prifysgol yn Bwrdd Iechyd Hywel Dda: “Mae'r Memorandwm o Gyd-ddealltwriaeth newydd hwn yn ymwneud ag ailddatgan ein hymrwymiad i weithio'n agos gyda Phrifysgol Aberystwyth er budd iechyd a lles ein rhanbarth. Mae'r ganolfan addysg newydd a'r cynnydd yn y cysylltiadau ymchwil ac arloesi yn nodi dechrau pennod nesaf a chyffrous ein partneriaeth.
“Rydyn ni hefyd yn awyddus i sefydlu cysylltiadau newydd gyda datblygiadau cyffrous eraill rydyn ni wedi’u gweld yn y Brifysgol, gan gynnwys ArloesiAber.”