Datganiad am fater diogelwch data Blackbaud sy’n effeithio ar Brifysgol Aberystwyth

24 Gorffennaf 2020

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi gwneud datganiad ynghylch y darparwr TG trydydd parti Blackbaud.

Perygl bod problemau iechyd hirach-dymor yn cael eu hanwybyddu wrth i’r feirws frathu - arbenigwr

01 Gorffennaf 2020

Mae perygl y caiff heriau iechyd hirach-dymor eu hesgeuluso wrth i lywodraethau ganolbwyntio ar bandemig y Coronafeirws, mae arbenigwr wedi rhybuddio.

Genod i’r Geowyddorau yn cyfarfod yn rhithiol

06 Gorffennaf 2020

Bydd gwyddonwyr benywaidd o bob cwr o’r DU ac Iwerddon yn ymgynnull yn rhithiol ar gyfer y digwyddiad Genod i’r Geowyddorau mwyaf erioed sy’n cael ei gynnal heddiw, ddydd Llun 6 Gorffennaf 2020.

£3 miliwn o gyllid ychwanegol gan yr UE i ArloesiAber

09 Gorffennaf 2020

Heddiw cyhoeddodd Llywodraeth Cymru £3 miliwn o gyllid refeniw ychwanegol ar gyfer Campws Arloesi a Menter Aberystwyth (ArloesiAber).

Aur ac arian i Aberystwyth yng Ngwobrau Dewis Myfyrwyr Whatuni 2020

14 Gorffennaf 2020

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi derbyn aur ac arian yn nhri o’r prif anrhydeddau yng Ngwobrau Dewis Myfyrwyr Whatuni 2020.

Arbenigwr cyfreithiol: hil-laddiad yw gorfodi dulliau atal-cenhedlu ar fenywod Uighur - a ellir rhoi China ar brawf?

15 Gorffennaf 2020

Mewn erthygl yn The Conversation, mae'r Athro Ryszard Piotrowicz o Adran y Gyfraith a Throseddeg, yn trafod adroddiadau bod menywod Uighur yn cael eu diffrwythloni trwy rym yn nhalaith Xinjiang, Tsieina, ac y gallai hyn gyfrif fel hil-laddiad o dan gyfraith ryngwladol.

Clociau biolegol yn dal i gerdded ganol haf yn yr Arctig

15 Gorffennaf 2020

Mae ymchwilwyr wedi darganfod bod clociau biolegol naturiol organebau morol bach yn parhau i weithredu hyd yn oed yn ystod yr haf Arctig pan nad yw'r haul yn machlud.

Prifysgol Aberystwyth ymhlith y gorau yn y DU am fodlonrwydd myfyrwyr

15 Gorffennaf 2020

Aberystwyth yw un o’r prifysgolion gorau yn y Deyrnas Unedig am fodlonrwydd myfyrwyr, yn ôl yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (NSS) sydd wedi ei gyhoeddi heddiw, ddydd Mercher 15 Gorffennaf 2020.

Cwmni deillio newydd y Brifysgol yn datblygu profion diagnostig ar gyfer clefydau pobl ac anifeiliaid

16 Gorffennaf 2020

Gallai cydweithio arloesol rhwng gwyddonwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth a diwydiant arwain at ganfod yn gynnar glefydon cronig mewn pobl ac anifeiliaid.

‘Llwyddiant ysgubol’ Prifysgol Aberystwyth yng ngwobrau Cymraeg

16 Gorffennaf 2020

Mae Prifysgol Aberystwyth yn dathlu wedi i’w darlithwyr ennill bron pob un wobr am ragoriaeth mewn addysg cyfrwng Cymraeg eleni.

Neges longyfarch i raddedigion 2020

17 Gorffennaf 2020

Mae Canghellor ac Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth wedi llongyfarch eu myfyrwyr a fyddai wedi mynychu eu seremonïau graddio’r wythnos hon.

Addewidion Cymraeg newydd i fyfyrwyr Aberystwyth – canmoliaeth gan y Comisiynydd

20 Gorffennaf 2020

Bydd myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth yn elwa ar ymroddiad newydd i gynnig cyfleoedd a chyfleusterau trwy gyfrwng y Gymraeg, wedi i’r Brifysgol lansio cyfres o addewidion newydd heddiw.

Lansio astudiaeth Cymru-Iwerddon ar effeithiau newid yn yr hinsawdd ar gynefin adar arfordirol

21 Gorffennaf 2020

Bydd astudiaeth o bwys yn edrych ar effeithiau newid yn yr hinsawdd ar gynefinoedd dwy rywogaeth o adar arfordirol yng Nghymru ac Iwerddon yn cael ei lansio’n swyddogol ddydd Iau 23 Gorffennaf 2020.

Platfform newydd i helpu i warchod ac adfer mangrofau dan fygythiad

28 Gorffennaf 2020

Mae platfform rhyngweithiol newydd i helpu i warchod ac adfer fforestydd mangrof y byd wedi cael ei lansio gan dîm o wyddonwyr rhyngwladol yn cynnwys Prifysgol Aberystwyth.

Hwb Prifysgol i Ambiwlans Awyr Cymru

29 Gorffennaf 2020

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cyhoeddi mai Ambiwlans Awyr Cymru fydd ei Helusen y Flwyddyn ar gyfer 2020-21.

Hwb ariannol gan yr UE ar gyfer ymchwil i newid yn yr hinsawdd

30 Gorffennaf 2020

Mae tri phrosiect ymchwil o bwys sy'n cynnwys gwyddonwyr o Brifysgol Aberystwyth wedi derbyn cyllid ychwanegol gwerth €4.5m (£3.9m) gan yr Undeb Ewropeaidd.

Canghellor Prifysgol Aberystwyth ymhlith anrhydeddau Orsedd yr Eisteddfod

30 Gorffennaf 2020

Mae Canghellor, cymrodorion a chyn fyfyrwyr o Brifysgol Aberystwyth ymhlith Urddau Orsedd Eisteddfod Genedlaethol eleni.