Clociau biolegol yn dal i gerdded ganol haf yn yr Arctig
Llun o’r Calanus finmarchicus (copepod), yr organeb yr astudiaeth. (Llun- Lukas Hüppe)
15 Gorffennaf 2020
Mae ymchwilwyr wedi darganfod bod clociau biolegol naturiol organebau morol bach yn parhau i weithredu hyd yn oed yn ystod yr haf Arctig pan nad yw'r haul yn machlud.
Mae eu canfyddiadau yn rhan o astudiaeth ehangach sy'n edrych ar effaith newid yn yr hinsawdd ar ecosystem Cefnfor yr Arctig.
Trwy ddeall mwy am rythmau circadaidd bywyd morol yr Arctig, mae'r gwyddonwyr yn gobeithio darogan yn fwy cywir sut y bydd ei ecosystem yn ymateb i heriau dyfroedd sy’n cynhesu a rhew môr sy’n crebachu.
Mewn papur a gyhoeddwyd heddiw (ddydd Mercher 15 Gorffennaf 2020) yn Biology Letters y Gymdeithas Frenhinol, maent yn amlinellu sut mae clociau biolegol cramenogion bach plancton o’r enw copepods yn dal ati i dician hyd yn oed pan nad oes gwahaniaeth rhwng dydd a nos.
Y papur hwn yw'r cyntaf i ddeillio o gyfres o astudiaethau a gynhaliwyd yn ystod mordaith ymchwil i Gefnfor yr Arctig uchel yn ystod haf 2018 gan dîm rhyngwladol o Brifysgol Aberystwyth, Cymdeithas Gwyddor Môr yr Alban (SAMS) ac Athrofeydd Helmholtz ac Alfred Wegener yn yr Almaen.
Dywedodd Dr Kim Last o Gymdeithas Gwyddor Môr yr Alban a chyd-ymchwiliwr arweiniol ar y prosiect: "Mae'n rhyfeddol gwybod bod gan yr organebau copepod bach yma gloc gweithredol pan allant fod ddegau neu gannoedd o fetrau o dan y dŵ a’r rhew môr, a hynny ar adeg pan nad oes bron dim gwahaniaeth rhwng dydd a nos.
"Mae newid yn yr hinsawdd yn caniatáu i'r copepodiau yma fudo tua'r gogledd i gynefinoedd lle mae’r cylch dydd-nos blynyddol yn eithafol. Mae’n bosib y bydd eu gallu i addasu (eu cloc) yn rhoi mantais iddynt dros y copepod brodorol ac y bydd hyn yn y pen draw yn dylanwadu ar strwythur cadwyn fwyd yr Arctig."
Mae Dr David Wilcockson, biolegydd morol o Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn gydawdur ar y papur.
"Rydyn ni'n gwybod bod gan lawer o organebau morol arfordirol gloc sy’n mynd gyda’r llawn yn ogystal â’u chlociau circadaidd beunyddiol. Mae’n bosib bod gan y copepodiau Arctig yma'r gallu i addasu neu newid rhwng clociau yn dibynnu ar ble maen nhw’n bennu lan a pha amodau sy’n eu herio," meddai Dr Wilcockson.
Yn ddiddorol, fe ganfu'r ymchwilwyr fod genynnau circadaidd yn dilyn cylch dyddiol ar y cyfan tra yn yr Arctig deheuol. Fodd bynnag, yn yr Arctig gogleddol ac ychydig gannoedd o filltiroedd yn unig o begwn y Gogledd, mae’r patrwm hwn yn newid.
Dywedodd Lukas Hüppe, prif awdur yr astudiaeth a Chydymaith Ymchwil yn Athrofa Bioamrywiaeth Forol Helmholtz ac Athrofa Alfred Wegener yn yr Almaen: "Fe wnaethon ni sylwi fod y cloc circadaidd wedi newid o 24 awr gan amlaf i 12 awr. Rydym yn tybio bod hyn yn golygu bod yr anifeiliaid yn defnyddio arwyddion eraill i osod eu cloc, a allai gynnwys y llanw."
Mae’r copepod yn hanfodol i weoedd bwyd yr Iwerydd a'r Arctig oherwydd bod ganddyn nhw gronfeydd lipid sylweddol a’u bod yn brif ffynhonnell fwyd ar gyfer pysgod a llawer o adar môr a morfilod. Bydd canfyddiadau'r tîm yn darparu cliwiau am sut maen nhw’n goroesi mewn mannau uchel o ran lledred.
Caiff yr ymchwil ei gefnogi gan brosiect CHASE, sy’n rhan o'r rhaglen Changing Arctic Ocean ac fe’i hariennir ar y cyd gan Gyngor Ymchwil Amgylchedd Naturiol UKRI (NERC, Rhif prosiect: NE/R012733/1) a Gweinyddiaeth Addysg ac Ymchwil Ffederal yr Almaen (BMBF, Rhif prosiect: 03F0803A). Cafodd amser y fordaith ar long ymchwil Arolwg Antarctig Prydain y James Clark Ross ei gefnogi gan brosiect ‘CAO Arctic PRIZE' (NERC: NE/P006302/1).