Canghellor Prifysgol Aberystwyth ymhlith anrhydeddau Orsedd yr Eisteddfod
30 Gorffennaf 2020
Mae Canghellor, cymrodorion a chyn fyfyrwyr o Brifysgol Aberystwyth ymhlith Urddau Orsedd Eisteddfod Genedlaethol eleni.
Mae’r rhestr o anrhydeddau wedi ei chyhoeddi gan yr Eisteddfod Genedlaethol cyn i’r ŵyl gael ei chynnal yn Nhregaron y flwyddyn nesaf.
Ymhlith yr Urddau mae’r Barnwr a Changhellor Prifysgol Aberystwyth, Yr Arglwydd Thomas o Gwmgïedd, sydd wedi ei anrhydeddu am ei gyfraniad i’r Gymraeg drwy’r system gyfiawnder. Bu’n Farnwr Uchel Lys ac yn Farnwr Llywyddol Cylchdaith Cymru cyn ei ddyrchafu i’r Llys Apêl, ac yn Arglwydd Brif Ustus Cymru a Lloegr. Dyfarnodd mewn nifer o achosion yn ymwneud â chyfansoddiad Cymru, gan bwysleisio pwysigrwydd Senedd Cymru fel llais democrataidd pobl Cymru.
Mae cyfanswm o naw o gyn fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth ar y rhestr eleni yn cynnwys: Deian Creunant, Rhiannon Evans, Angharad Fychan, Elin Haf Gruffydd Jones, Emyr Llywelyn, Geraint Roberts, Delwyn Siôn, Milwyn Jarman a Siôn Jobbins. Mae tiwtor Cymraeg i Oedolion y Brifysgol, Ann Bowen Morgan, ar y rhestr yn ogystal.
Wrth drafod ei urddo, dywedodd Yr Arglwydd Thomas o Gwmgïedd, Canghellor Prifysgol Aberystwyth:
“Anrhydedd o’r mwyaf yw cael fy nerbyn i’r Orsedd. Fel Canghellor Prifysgol Aberystwyth, mae’n hynod arbennig i gael fy Urddo yng Ngheredigion, sir sydd yn agos iawn at fy nghalon.
“Mae’n fraint anhygoel, ac rwy’n gobeithio ei fod yn arwydd o bwysigrwydd cynyddol y Gymraeg o fewn maes y gyfraith a gweinyddu cyfiawnder. Braf hefyd bydd cael rhannu’r profiad gyda chymaint o gyn-fyfyrwyr a staff Prifysgol Aberystwyth, sydd hefyd wedi’u hanrhydeddu, pan gawn ni’r cyfle i gwrdd ar y maes y flwyddyn nesaf. Mae hyn yn glod i’w gwerthoedd ac ymroddiad y Brifysgol tuag at Gymru a’r Gymraeg.”
Ychwanegodd Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth:
“Ar ran Prifysgol Aberystwyth, hoffwn ddechrau drwy longyfarch pob cyn fyfyriwr ac aelod staff y Brifysgol sydd ar restr anrhydeddau Gorsedd yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. Braf yw gweld cymaint o’n academyddion, boed yn gyn fyfyrwyr neu’n aelodau staff, yn cael eu cydnabod am eu gwaith diflino tuag at Gymru a’r Gymraeg. Mae hyn yn glod i’w cyfraniad arbennig i Gymru, y Gymraeg ac i'w cymunedau, rhywbeth sydd yn agos iawn at galon y Brifysgol yma yn Aberystwyth. Dyma un o anrhydeddau mwyaf y genedl, ac edrychwn ymlaen at gyd-ddathlu ac ymfalchïo yn eu llwyddiant yn Nhregaron y flwyddyn nesaf.”
Mae’r anrhydeddau, a gyflwynir yn flynyddol, yn gyfle i roi clod i unigolion o bob rhan o’r wlad am eu cyfraniad arbennig i Gymru, y Gymraeg ac i’w cymunedau lleol ar hyd a lled Cymru.
Yn unol â threfniadau Urddau er Anrhydedd Gorsedd y Beirdd, mae pob aelod newydd yn dod yn aelod ar yr un gwastad, sef fel Derwydd. Mae pob person sy'n derbyn aelodaeth trwy anrhydedd Yr Orsedd yn cael eu derbyn un ai i'r Wisg Werdd, neu'r Wisg Las, yn ddibynnol ar faes eu harbenigedd.