£3 miliwn o gyllid ychwanegol gan yr UE i ArloesiAber

Hydref 2019: Agoriad Rhan 1 ArloesiAber (chwith i’r dde); Bill Poll, UKRI-BBSRC; John Berry, Aelod o Fwrdd ArloesiAber; Dr Emyr Roberts, Cadeirydd Prifysgol Aberystwyth; Paul Gemmill, UKRI-BBSRC; Dr Rhian Hayward MBE, Prifweithredwr ArloesiAber; Jeremy Miles AS, Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog Pontio Ewropeaidd Llywodraeth Cymru; Yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth; Yr Athro Iain Donnison, Pennaeth IBERS ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Hydref 2019: Agoriad Rhan 1 ArloesiAber (chwith i’r dde); Bill Poll, UKRI-BBSRC; John Berry, Aelod o Fwrdd ArloesiAber; Dr Emyr Roberts, Cadeirydd Prifysgol Aberystwyth; Paul Gemmill, UKRI-BBSRC; Dr Rhian Hayward MBE, Prifweithredwr ArloesiAber; Jeremy Miles AS, Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog Pontio Ewropeaidd Llywodraeth Cymru; Yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth; Yr Athro Iain Donnison, Pennaeth IBERS ym Mhrifysgol Aberystwyth.

09 Gorffennaf 2020

Heddiw cyhoeddodd Llywodraeth Cymru £3 miliwn o gyllid refeniw ychwanegol ar gyfer Campws Arloesi a Menter Aberystwyth (ArloesiAber).

Bydd y cyllid gan yr UE yn caniatáu i'r campws ddatblygu amryw o brosiectau ymchwil a datblygu ar y cyd gyda diwydiant wrth iddo symud i'w gyfnod gweithredol.

Mae ArloesiAber, sydd wedi ei leoli ar safle Gogerddan Prifysgol Aberystwyth sy’n enwog am fridio planhigion, yn darparu cyfleusterau ac arbenigedd sy’n arwain y byd ar gyfer y sectorau biotechnoleg, technoleg amaeth, a bwyd a diod.

Daw’r cyllid ychwanegol â lefel y gefnogaeth gan Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru i £23m, gan ychwanegu at fuddsoddiad cyfalaf a ddarperir gan y BBSRC - rhan o Ymchwil ac Arloesi’r DU - a Phrifysgol Aberystwyth.

Dywedodd Jeremy Miles, Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd: “Wrth i ni baratoi i ailadeiladu Cymru yn dilyn y pandemig hwn, mae’n hanfodol ein bod yn cefnogi ein sector ymchwil ac arloesi blaengar i fod ar flaen y gad yn yr adferiad hwnnw, ac i barhau i ddarparu swyddi cynaliadwy ac o ansawdd uchel i'n pobl. Rwy’n falch iawn o allu darparu’r cyllid ychwanegol hwn i barhau â’r gwaith hwn a dod o hyd i ffyrdd newydd o fynd i’r afael â heriau newid yn yr hinsawdd a phontio i economi carbon isel, law yn llaw â’n partneriaid mewn diwydiant.”

Disgwylir i'r gwaith o adeiladu'r Campws newydd gael ei gwblhau erbyn diwedd Awst 2020 gyda’r cyfleusterau'n gwbl weithredol yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Cafodd cwblhau cam cyntaf gwaith adeiladu ei nodi'n swyddogol ar 25 Hydref 2019, gyda seremoni dan arweiniad y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd, Jeremy Miles AS.

Dywedodd yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Am dros ganrif mae Aberystwyth wedi ei chydnabod fel canolfan o ragoriaeth ryngwladol ym meysydd amaethyddiaeth, cynhyrchu bwyd a biotechnoleg. Mae ArloesiAber yn fuddsoddiad mawr ac yn cynnig yr amgylchedd delfrydol ar gyfer datblygu cynhyrchion a gwasanaethau newydd ac arloesol ar adeg o heriau mawr. Rydym yn croesawu’r cyllid ychwanegol hwn gan Lywodraeth Cymru a fydd yn hollbwysig wrth i ni weithio gyda’n partneriaid i gyflawni ein gweledigaeth i gefnogi’r sectorau biotechnoleg, technoleg amaeth, a bwyd a diod.”

Agorwyd Canolfan Bioburo ArloesiAber a Biofanc Hadau Prifysgol Aberystwyth yn 2019 a chyn bo hir bydd dau adnodd technegol craidd arall yn ymuno â nhw i gwblhau’r hyn sydd gan ArloesiAber i’w gynnig.

Bydd Canolfan Bwyd y Dyfodol yn darparu amgylchedd safon paratoi bwyd ar gyfer profi, dilysu a gwella deunyddiau sydd eisoes yn bodoli a rhai newydd fel bwydydd, gan gynnwys cynnwys maethol, dadansoddiad cyfansoddiadol uwch, oes silff a dewisiadau defnyddwyr.

Bydd yn cael ei gefnogi gan yr Uwch Ganolfan Ddadansoddi, fydd yn cynnig cyfleusterau pwrpasol sy'n cefnogi anghenion dadansoddol ar gyfer astudiaethau ymyrraeth bwyd.

Bydd Parth Arloesi ArloesiAber yn cynnig mannau i gynnal digwyddiadau, ystafelloedd trafod a gofod swyddfa a labordy hyblyg i alluogi busnesau i gydweithio ag academyddion y Brifysgol er mwyn creu cynnyrch a gwasanaethau arloesol.

Eisoes profodd ArloesiAber yn gyrchfan ddeniadol i gwmnïau blaengar, gydag un ar hugain o denantiaid ac aelodau yn ei rwydwaith erbyn hyn.

Mae rhai o'r cwmnïau hyn wedi ymuno â'r frwydr fyd-eang ddiweddar yn erbyn Covid-19, gyda'r cwmni technoleg amaeth Agxio Cyf yn cynnig peiriant dysgu peirianyddol perchnogol deallusrwydd artiffisial a thîm cymorth technegol am ddim i ymchwilwyr, ymarferwyr a chyrff llywodraethol sy'n gweithio i drechu'r coronafeirws, a hynny am gyfnod y pandemig.

Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol ArloesiAber, Dr Rhian Hayward MBE: “Rydym wedi creu lleoliad unigryw ar gyfer ymchwil a datblygu cydweithredol yn y DU. Mae Canolfannau Bioburo a Bwyd y Dyfodol ArloesiAber wedi'u hintegreiddio'n gorfforol i amgylchedd gradd bwyd, sy'n golygu y gallwn gynnal ymchwil a datblygu di-dor sy'n croesi'r sectorau economi gylchol a bwyd. Edrychaf ymlaen at groesawu cymuned o gwmnïau o bob maint i Aberystwyth i gyflymu eu gwaith datblygu cynnyrch gyda ni yn y cyfleusterau cyffrous hyn."