Lansio astudiaeth Cymru-Iwerddon ar effeithiau newid yn yr hinsawdd ar gynefin adar arfordirol

Mae moryd Afon Dyfi yng nghanolbarth Cymru yn gynefin pwysig i adar arfordirol a bydd yn lleoliad allweddol i ymchwilwyr sy'n gweithio ar brosiect ECHOES. Llun gan:  Scott Waby.

Mae moryd Afon Dyfi yng nghanolbarth Cymru yn gynefin pwysig i adar arfordirol a bydd yn lleoliad allweddol i ymchwilwyr sy'n gweithio ar brosiect ECHOES. Llun gan: Scott Waby.

21 Gorffennaf 2020

Bydd astudiaeth o bwys yn edrych ar effeithiau newid yn yr hinsawdd ar gynefinoedd dwy rywogaeth o adar arfordirol yng Nghymru ac Iwerddon yn cael ei lansio’n swyddogol ddydd Iau 23 Gorffennaf 2020.

Dyfarnwyd cyllid o dros €2.6m i brosiect ECHOES o Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop fel rhan o raglen INTERREG Iwerddon-Cymru.

Dros gyfnod o dair blynedd a hanner, daw’r astudiaeth ag ymchwilwyr o Brifysgol Aberystwyth a Choleg Prifysgol Cork at ei gilydd, ynghyd â’u partneriaid Compass Informatics, Ymddiriedolaeth Adareg Prydain a Geo Smart Decisions.

Caiff y lansiad swyddogol ei gynnal yn ddigidol am 2.30yp ddydd Iau 23 Gorffennaf 2020 a bydd ar gael fel gweminar ar-lein. Gellid cofrestru ar echoesproj.eu/get-involved/events.

Bydd Gweinidog Llywodraeth Cymru dros yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, yn cymryd rhan yn y lansiad: "Mae lansio prosiect ECHOES yn nodi penllanw ymdrech sylweddol ar ran y partneriaid allweddol, a bydd y prosiect yn gyfle ardderchog i ni asesu hyfywedd a chynllunio ar gyfer gwella a gwarchod nifer o gynefinoedd pwysig.

"Mae cadwraeth yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o ddiogelu a hyrwyddo ecosystemau unigryw Cymru, a hoffwn estyn diolch am eu hymdrechion i bawb sy’n rhan o’r gwaith."

Bydd Aelod Seneddol Ceredigion Ben Lake yn ymuno â phanel o arbenigwyr, a fydd yn cynnwys Dr Peter Dennis, Darllenydd mewn Ecoleg ac Ecosystemau Pori ym Mhrifysgol Aberystwyth; yr adarwr blaenllaw Dan Rouse, a Clive Walmsley, Prif Gynghorydd Newid Hinsawdd Cyfoeth Naturiol Cymru.

Adar hirgoes a gwyddau
Bydd y prosiect yn defnyddio dulliau gwyddonol arloesol i fodelu ymddygiad a dosbarthiad gŵydd dalcen-wen yr Ynys Las a'r Gylfinir Ewrasiaidd ar hyd arfordiroedd môr Iwerddon yng Nghymru ac Iwerddon.

Dywedodd yr Athro Peter Dennis, sy'n arwain tîm ECHOES yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth: "Mae’r sefydliadau sy’n cydweithio ar ECHOES yn ddiolchgar iawn am y cyfle i weithio gyda phartneriaid cadwraeth sy'n bodoli eisoes i ymchwilio i bwysigrwydd yr aberoedd a'r gwlypdiroedd arfordirol niferus ar hyd arfordir môr Iwerddon i adar hirgoes a gwyddau yn ystod y gaeaf.

"Bydd ein hymchwil yn mynd i'r afael â chwestiynau ynghylch cynnydd yn lefel y môr ac ystod y llanw mewn cynefinoedd allweddol, argaeledd planhigion maethlon ac infertebratau pridd, a’r effaith ar gyflwr yr adar cyn iddyn nhw ddychwelyd i diroedd bridio’r haf. Mae hyn yn fater dybryd o ran cadwraeth natur, ond yn bwysig, mae’n effeithio’n uniongyrchol ar gymunedau sy’n dibynnu ar yr un tir o ran eu bywoliaeth ac ansawdd eu bywyd drwy gydol y flwyddyn."

Adnoddau ar-lein
Bydd y prosiect hefyd yn datblygu adnoddau a gwasanaethau ar-lein i helpu rheolwyr safleoedd i ddeall sut orau i liniaru ar effeithiau posibl newid yn yr hinsawdd ar eu safleoedd.

Dywedodd Dave Dallaghan, o Compass Informatics sy’n un o bartneriaid ECHOES yn Iwerddon: "Mae Compass Informatics yn falch iawn o fod yn rhan o brosiect ECHOES, sy'n helpu i fynd i'r afael ag un o brif heriau ein hoes – sef yr effaith ar gynefinoedd o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd a'r effaith ar gymunedau lleol a rhywogaethau anifeiliaid.

"Drwy ddatblygu casgliad o adnoddau TG ac offer mapio digidol, y nod yw cynorthwyo perchnogion a rheolwyr tir i ddeall yr effaith posib ar eu hamgylchedd, i reoli eu strategaethau rheoli tir gwahanol, ac i gynllunio ac addasu i newidiadau a allai gael effaith sylweddol."

Agwedd bwysig ar brosiect ECHOES fydd ymgysylltu â rhanddeiliaid lleol yng Nghymru ac Iwerddon sydd â'r dasg o reoli neu fonitro'r cynefinoedd arfordirol hyn a phoblogaethau adar cysylltiedig, yn ogystal â'r rhanddeiliaid hynny sy'n byw a.neu’n mwynhau yr amgylchedd arfordirol.

Dywedodd Dr Crona Hodges, Rheolwr Gweithredu ECHOES: "Mae'n deimlad gwych gallu lansio ECHOES yn swyddogol a chael y gair ar led am ein cynlluniau a'n dyheadau ar gyfer y prosiect cyffrous hwn. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr iawn at weithio gyda chymunedau a rhanddeiliaid eraill ar hyd arfordir Môr Iwerddon i godi ymwybyddiaeth o effeithiau newid yn yr hinsawdd ar ein hamgylchedd naturiol a'r posibiliadau o ran lliniaru ac addasu i’r newidiadau hynny.

"Bydd yn hynod o ddiddorol canfod mwy am ymddygiad y gylfinir a gŵydd dalcen-wen yr Ynys Las a'r ffyrdd y gallwn reoli cynefinoedd arfordirol pwysig yn y ffordd orau, gan warchod y poblogaethau adar pwysig yma ond sydd er hynny yn gostwng yn eu nifer. Dwi'n edrych ymlaen yn fawr at y daith o'n blaenau!"

  • I gadw lle yn y gweminar lansio, cofrestrwch ar eu/events