Prifysgol Aberystwyth ymhlith y gorau yn y DU am fodlonrwydd myfyrwyr

15 Gorffennaf 2020

Aberystwyth yw un o’r prifysgolion gorau yn y Deyrnas Unedig am fodlonrwydd myfyrwyr, yn ôl yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (NSS) sydd wedi ei gyhoeddi heddiw, ddydd Mercher 15 Gorffennaf 2020.

Mae Aberystwyth ar y brig o blith prifysgolion Cymru, ac o’r holl brifysgolion sydd wedi eu rhestru yng nghanllaw prifysgolion y Times / Sunday Times 2020, yn un o’r 5 prifysgol uchaf yn y DU am fodlonrwydd cyffredinol myfyrwyr.

Gyda bodlonrwydd cyffredinol myfyrwyr o 90%, mae Aberystwyth 7 pwynt canran yn uwch na chyfartaledd y DU o 83%.

Golyga canlyniad eleni fod Prifysgol Aberystwyth yn parhau ar y brig yng Nghymru am fodlonrwydd cyffredinol myfyrwyr, a hynny am y bumed flwyddyn yn olynol.

Mae'r arolwg blynyddol yn gofyn i israddedigion blwyddyn olaf i sgorio eu prifysgol ar draws ystod eang o gwestiynau gan gynnwys ansawdd y dysgu, cyfleoedd dysgu, asesu ac adborth, cymorth academaidd, trefniadaeth a rheolaeth, adnoddau dysgu, y gymuned ddysgu, llais y myfyrwyr a bodlonrwydd cyffredinol.

Agorwyd yr arolwg eleni ar y 6ed o Ionawr a’i gau ar y 30ain o Ebrill, cyfnod oedd yn cynnwys wythnosau cyntaf pandemig y coronafeirws a’r cyfnod clo a ddaeth yn ei sgil.

Dywedodd yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Mae canlyniadau rhagorol yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr Myfyrwyr eleni yn adlewyrchu gwaith eithriadol cydweithwyr ledled y Brifysgol, a’u hymroddiad i ddarparu’r profiad dysgu gorau posibl i’n myfyrwyr. Ar unrhyw gyfrif, bu hon yn flwyddyn eithriadol, un sydd wedi cyflwyno sawl her. Rydym yn canolbwyntio nawr ar sicrhau ein bod yn parhau i ddarparu un o'r profiadau myfyrwyr gorau yn sector addysg uwch y DU ar gyfer y flwyddyn academaidd sydd i ddod, wrth sicrhau diogelwch ein myfyrwyr, staff a'r gymuned ehangach.”

Dywedodd Nate Pidcock, Llywydd Undeb Myfyrwyr Aberystwyth: “Llongyfarchiadau i Brifysgol Aberystwyth ar ganlyniad rhagorol arall yr NSS. Mae'n wych gweld Aberystwyth yn parhau i ddarparu boddhad myfyrwyr o’r fath safon flwyddyn ar ôl blwyddyn ac yn parhau ar y brig yng Nghymru. Gwelwyd rhai canlyniadau da iawn i Undeb y Myfyrwyr a llais y myfyrwyr yn yr NSS eleni. Bydd yr Undeb yn parhau i weithio’n galed i sicrhau bod boddhad myfyrwyr yn parhau i fod yn uchel yma yn Aberystwyth a bod myfyrwyr Aber yn caru bywyd myfyrwyr. Rydym yn edrych ymlaen at flwyddyn arall o weithio gyda myfyrwyr i sicrhau eu bod yn cael amser anhygoel yma yn Aberystwyth.”

Mae’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr yn arolwg blynyddol o bron i hanner miliwn o fyfyrwyr mewn prifysgolion, colegau a darparwyr eraill ar draws y DU.

Caiff yr Arolwg Cenedlaethol i Fyfyrwyr ei gynnal gan IPSOS Mori ar ran cynghorau cyllido addysg uwch y DU gan gynnwys Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, Cyngor Cyllido’r Alban ac Adran yr Economi yn Iwerddon.

Yn ogystal â’i llwyddiant yn yr ACF, derbyniodd Aberystwyth Aur yn y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu a Chanlyniadau Myfyrwyr (FfRhA) a chafodd ei henwi yn Brifysgol y Flwyddyn ar gyfer Ansawdd Dysgu canllaw prifysgolion TheTimes and Sunday Times Good University Guide am ddwy flynedd yn olynol yn 2018 a 2019, a Phrifysgol y Flwyddyn yng Nghymru yn 2020.