Cwmni deillio newydd y Brifysgol yn datblygu profion diagnostig ar gyfer clefydau pobl ac anifeiliaid
Yr Athro Luis Mur, Cyfarwyddwr Ymchwil, Bioleg ac Iechyd yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth.
16 Gorffennaf 2020
Gallai cydweithio arloesol rhwng gwyddonwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth a diwydiant arwain at ganfod yn gynnar glefydon cronig mewn pobl ac anifeiliaid.
Mae ymchwilwyr yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) yn gweithio ar dechnolegau diagnostig newydd a allai arbed bywydau miloedd o bobl.
Gan ddefnyddio technegau olrhain biofarcwyr, maen nhw wedi gallu nodi’n gywir bresenoldeb neu absenoldeb clefyd a'i effaith ar y claf neu'r anifail.
Mae’r ymchwil wedi canolbwyntio ar ddatblygu dulliau o adnabod ac o brofi biofarcwyr sy’n ddefnyddiol o safbwynt clinigol ar gyfer afiechydon cronig sy’n effeithio ar boblogaeth sy’n heneiddio. Mae llinyn cyfochrog o waith wedi targedu afiechydon difrifol mewn anifeiliaid.
Gyda Phrifysgol Aberystwyth yn gyfranddaliwr, mae cwmni deillio o'r enw i-Omics Limited wedi cael ei sefydlu i fynd â’r ymchwil at y cyhoedd yn ehangach, a hynny drwy greu systemau a thechnolegau profi diagnostig.
Rhan o’r gwaith fydd datblygu system ddiagnostig newydd yn y fan lle rhoddir gofal. Bydd hyn yn galluogi cyfathrebu rhwng yr ymarferwr clinigol a’r claf heb yr angen am ymgynghoriad wyneb yn wyneb, ac yn arwain yn ei dro at leihau’r galw am apwyntiadau ysbyty drud a’r risg i gleifion.
Yr Athro Luis Mur sy’n arwain yr ymchwil yn IBERS ym Mhrifysgol Aberystwyth: "Mae'r fenter hon yn helpu i fynd â gwyddoniaeth allan o'r labordy ac i ddwylo ymarferwyr clinigol. Byddwn yn datblygu pecynnau diagnostig sy’n sicrhau diagnosis cyflym a chywir ar gyfer clefydau anadlu cronig, ac yn darparu gwybodaeth a fydd yn sail i gynlluniau triniaeth bersonol i gleifion.”
Mae'r datblygiad yn dangos sut mae cyfleoedd masnacheiddio ymchwil yn gallu deillio o ysgoloriaethau KESS II, a ariennir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop, ym Mhrifysgol Aberystwyth.”
Dywedodd Dr David Rooke, sylfaenydd a Swyddog Gweithredol i-Omics Limited: "Mae’r cyfle cyffrous hwn wedi dod yn sgil y gwaith ymchwil o safon fyd-eang ac o'r radd flaenaf gan dîm yr Athro Mur yn IBERS, yn ogystal ag ymchwil ac arloesi o ansawdd uchel iawn a wireddwyd drwy brosiectau ymchwil cydweithredol a noddwyd gan y partneriaid masnachol ac a gefnogir gan Gronfeydd Cymdeithasol Ewrop drwy gynllun ysgoloriaethau Llywodraeth Cymru. Mae hefyd yn dwyn ynghyd dîm cychwynnol o gwmnïau bach sy’n llwyddiannus ym maes technolegau a systemau diagnostig."
Mae arbenigedd i-Omics Limited yn deillio o’r tîm cychwynnol hwnnw sy'n cynnwys yr Athro Luis Mur Cyfarwyddwr Ymchwil, Bioleg ac Iechyd yn IBERS; Dr David Rooke; Ian Bond, Prif Swyddog Gweithredol Bond Digital Health; yr Athro Keir Lewis (ymgynghorydd anadlol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda); Darren Rowles a Clarity BioSolutions (yn Porton Down).