Pam nad yw eich ôl troed dŵr yn berthnasol
02 Hydref 2018
Yn ysgrifennu yn The Conversation, mae Judith Thornton o Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig yn trafod sut mae olion traed yn achosi i bobl feddwl am yr effaith y maent yn ei chael, ond nid yw'r gyfatebiaeth yn gweithio ar gyfer dŵr.
Canolfan Ragoriaeth TB Gwartheg i’w sefydlu ym Mhrifysgol Aberystwyth
03 Hydref 2018
Bydd Canolfan Ragoriaeth mewn TB Gwartheg yn agor ym Mhrifysgol Aberystwyth yn ddiweddarach eleni, gan ddod ag arbenigwyr y byd ynghyd i drechu'r clefyd gwartheg.
Sefydlu busnes medd ar Gampws Arloesi a Menter Aberystwyth
04 Hydref 2018
Mae’r cwmni cynhyrchu cyntaf sydd wedi’i leoli ar Gampws Arloesi a Menter Aberystwyth wedi rhoi gwedd fodern ar hen ddiod.
Cicio’r bar ar Ddiwrnod y Sylfaenwyr
04 Hydref 2018
Cynhelir gorymdaith i gicio’r bar ar bromenâd Aberystwyth ddydd Gwener 12 Hydref 2018 i nodi’r diwrnod pan yr agorodd Prifysgol Aberystwyth am y tro cyntaf yn 1872.
Prifysgol Aberystwyth yn lansio gradd mewn Cymdeithaseg
05 Hydref 2018
Mae Prifysgol Aberystwyth yn lansio cynllun gradd anrhydedd sengl newydd mewn Cymdeithaseg ar gyfer y flwyddyn academaidd 2019-20.
Cydnabod gwyddonydd cyfrifiadureg o Aberystwyth yng ngwobrau Gwyddoniaeth i Ferched
08 Hydref 2018
Mae gwaith arloesol gwyddonydd o Brifysgol Aberystwyth i hyrwyddo rôl menywod ym maes cyfrifiadureg yn cael ei gydnabod mewn seremoni arbennig yn Llundain heddiw, ddydd Llun 8 Hydref.
AccessAble yn lansio Ap a gwefan newydd ym Mhrifysgol Aberystwyth
09 Hydref 2018
Ddydd Gwener 5 Hydref, lansiwyd Ap a gwefan newydd AccessAble ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Sut achubwyd cof diwylliannol a hanes caethweision gan lên gwerin yr Americanwyr Affricanaidd
10 Hydref 2018
Yn 'The Conversation', mae Jennifer Dos Reis Dos Santos, sydd yn fyfyrwraig PhD yn yr Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol, yn trafod sut mae llên gwerin wedi chwarae rhan arbennig o bwysig wrth ddogfennu Hanes yr Americanwyr Affricanaidd.
Darlithydd o Brifysgol Aberystwyth yw enillydd Gwobr Syr Ellis Griffith
12 Hydref 2018
Mae darlithydd Cymraeg Proffesiynol ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi ennill gwobr am ei hastudiaeth o waith cyfieithu’r dramodydd arobryn Saunders Lewis.
Munroe Bergdorf i annerch cynhadledd Trawsrywedd Aberystwyth
16 Hydref 2018
Mi fydd model trawsryweddol cyntaf y DU a benodwyd i fod yn wyneb brand ffasiwn rhyngwladol, yn annerch cynhadledd i bobl drawsryweddol a’u cynghreiriaid ym Mhrifysgol Aberystwyth yr wythnos hon.
Darparu adnoddau e-ddysgu cyfrwng Cymraeg i fyfyrwyr Lefel A
16 Hydref 2018
Mae darlithwyr o Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth wedi creu cyfres o adnoddau addysg cyfrwng Cymraeg ar gyfer myfyrwyr sy’n astudio Lefel A Gwleidyddiaeth.
Hacio Pwmpen
16 Hydref 2018
Cyfle i ddysgu am gylchedau a rhaglennu cyfrifiadurol wrth greu llusern pwmpen yn ein gweithdy Calan Gaeaf arbennig.
Defnyddio gwastraff cynhyrchu cansen siwgr i ymdrin â phydredd dannedd, gordewdra a chlefyd siwgr
18 Hydref 2018
Mae prosiect ymchwil cydweithredol newydd rhwng Prydain a'r India, a arweinir gan Brifysgol Aberystwyth, yn gweithio i drawsnewid gwastraff o ddiwydiant cansen siwgr yr India a'i droi yn amrywiaeth o gynnyrch gwerthfawr newydd a all ymdrin â phydredd dannedd, gordewdra a chylefyd siwgr.
Prifysgol Aberystwyth i gynnal trydedd ddarlith goffa David Trotter
19 Hydref 2018
Bydd Dr Laura Wright o Brifysgol Caergrawnt yn traddodi trydedd ddarlith goffa David Trotter ym Mhrifysgol Aberystwyth ddydd Iau 25 Hydref 2018.
Sut mae gwyddor fforensig wedi cynorthwyo i ailddarganfod afalau anghofiedig
19 Hydref 2018
Cyhoeddwyd yr erthygl hon ar sut mae gwyddor fforensig wedi cynorthwyo i ailddarganfod afalau anghofiedig yn wreiddiol yn y Saesneg ar wefan The Conversation.
Dathlu llwyddiannau Dysgu Gydol Oes
23 Hydref 2018
Dathliad o gariad at ddysg oedd seremoni Gwobrau Dysgu Gydol Oes a Dysgu Cymraeg Prifysgol Aberystwyth ddydd Llun 22 Hydref 2018.
Geraint Talfan Davies i drafod Brexit
25 Hydref 2018
Cyd-destun a chanlyniadau Brexit fydd ffocws darlith gyhoeddus gan Geraint Talfan Davies ym Mhrifysgol Aberystwyth nos Fercher 31 Hydref 2018.
Pris Cydwybod: T H Parry-Williams a Chysgod y Rhyfel Mawr
25 Hydref 2018
Mae cyfrol newydd gan y Dr Bleddyn Huws o Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtraidd, ac sydd wedi lansio yr wythnos, hon yn datgelu sawl peth newydd am fywyd a gyrfa un o lenorion Cymraeg enwocaf yr ugeinfed ganrif.
Frankenstein: yr arbrofion a ysbrydolodd y wyddoniaeth ffuglennol
26 Hydref 2018
Cyhoeddwyd yr erthygol hon ar Frankenstein: yr arbrofion a ysbrydolodd y wyddoniaeth ffuglennol, yn wreiddiol yn y Saesneg ar wefan The Conversation.
Ysgol o Lanrwst yn ennill cystadleuaeth animeiddio ‘scratch’ Cymru
29 Hydref 2018
Ffilm fer wedi’i hanimeiddio gan ddisgyblion ysgol gynradd o ogledd Cymru yw enillydd cystadleuaeth animeiddio codio ‘scratch’ Cymru Prifysgol Aberystwyth.
Ymgais i dorri record rhwyfo a chodi arian i Ambiwlans Awyr Cymru
30 Hydref 2018
Mae gwyddonwyr chwaraeon ym Mhrifysgol Aberystwyth yn darparu cyngor hyfforddi i dad lleol sydd am drio torri record byd rhwyfo dan do er cof am ei fab pum mlwydd oed.