Defnyddio gwastraff cynhyrchu cansen siwgr i ymdrin â phydredd dannedd, gordewdra a chlefyd siwgr
Dr David Bryant a Dr Sian Davies o dîm BIOREVIEW yn IBERS
18 Hydref 2018
Mae prosiect ymchwil cydweithredol newydd rhwng Prydain a'r India, a arweinir gan Brifysgol Aberystwyth, yn gweithio i drawsnewid gwastraff o ddiwydiant cansen siwgr yr India a'i droi yn amrywiaeth o gynnyrch gwerthfawr newydd a all ymdrin â phydredd dannedd, gordewdra a chylefyd siwgr.
Prosiect Her Gwastraff Diwydiannol yw BIOREVIEW, gwerth £1.99M drwy Gronfa Newton Bhabha. Mae'n waith ar y cyd rhwng ymchwilwyr gwyddonol a busnesau yn yr India a Phrydain sy'n gweithio i greu atebion arloesol i heriau byd-eang.
Dr David Bryant sy'n arwain BIOREVIEW a'r tîm yn Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig.
Dywedodd Dr Bryant: “India yw'r cynhyrchwr siwgr mwyaf ond un yn y byd, ac mae’n defnyddio mwy o siwgr na'r un wlad arall.
Mae diwydiant cansen siwgr yr India yn cynhyrchu dwy ffurf ar wastraff: hylif (golchion) o gynhyrchu bioethanol; a'r pwlp sych sy'n weddill ar ôl i'r sudd gael ei dynnu o'r gansen siwgr syn cael ei adnabod fel bagasse.
Rydym wrthi'n gweithio gyda'n gilydd i ddatblygu prosesau biodechnolegol diwydiannol arloesol a all fod yn ariannol gynaliadwy a fydd yn datblygu cynnyrch gwerthfawr o'r gwastraff hwn.”
Rhagwelir y gallai cynnyrch gwerth mwy na £12bn gael ei wneud o'r golchion, ac y gallai sylitol, sef melysydd sy'n atal pydredd dannedd y mae pobl â chlefyd siwgr yn cael ei fwyta, a gynhyrchir o'r bagasse fod yn werth £1bn erbyn 2025.
Bydd seliwlos microgrisialog, a ddefnyddir gan y diwydiannau bwyd a fferyllol, hefyd yn cael ei wneud o'r bagasse. Gallai hefyd gael ei ddefnyddio, ymhlith pethau eraill, i wneud hidlyddion tanddwr a all helpu i lanhau ffynonellau dŵr sydd wedi'u llygru neu'u halogi.
Bydd prosesau bioburo integredig prosiect BIOREVIEW yn cael eu datblygu i wneud achos busnes i ddiwydiant cansen siwgr yr India dros fuddsoddi er mwyn trosi eu gwastraff yn gynnyrch a fydd yn fasnachol werthfawr.
Mae gweledigaeth BIOREVIEW yn y pen draw yn cynnwys ymgorffori prosesau bioburo uwch ym melinau siwgr yr India er mwyn creu buddion economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol i'r diwydiant ei hun ac i gymdeithas ehangach yr India.