Darparu adnoddau e-ddysgu cyfrwng Cymraeg i fyfyrwyr Lefel A
Dr Elin Royles a Dr Huw Lewis o Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, Prifysgol Aberystwyth
16 Hydref 2018
Mae darlithwyr o Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth wedi creu cyfres o adnoddau addysg cyfrwng Cymraeg ar gyfer myfyrwyr sy’n astudio Lefel A Gwleidyddiaeth.
Cafodd Dr Huw Lewis a Dr Elin Royles grant gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gynhyrchu pecyn o adnoddau yn cynnwys e-lawlyfrau ar gyfer athrawon a disgyblion yn ogystal â chyfres o fideos byr.
Caiff yr adnoddau newydd eu lansio gan Lywydd y Cynulliad, Elin Jones AC, mewn digwyddiad arbennig yn y Senedd ym Mae Caerdydd am 12:30ddydd Mercher 17 Hydref 2018.
Dywedodd Dr Elin Royles, Uwch Ddarlithydd yn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol y Brifysgol: “Mae yna brinder adnoddau Cymraeg mewn rhannau o’r cwricwlwm, gan gynnwys Gwleidyddiaeth. Rydym yn falch felly fod arbenigedd Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Aberystwyth yn cyfrannu at ddiwallu’r galw am ddeunydd yn y maes yma gan athrawon a myfyrwyr fel ei gilydd. Ein gobaith yw y bydd yr adnoddau yma yn gymorth nid yn unig o ran darpariaeth cyfrwng Cymraeg ond hefyd o ran gosod themâu a chysyniadau gwleidyddol mewn cyd-destun Cymreig.”
Dywedodd Dr Dafydd Trystan, Cofrestrydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol: “Mae’n wych gweld bod prifysgolion Cymru mewn cydweithrediad â’r Coleg Cymraeg yn mynd ati i greu deunyddiau cyfrwng Cymraeg sydd yn addas i fyfyrwyr lefel A. Mae’r gwaith o sicrhau adnoddau addas i ddysgwyr sydd mewn addysg ôl-orfodol, boed hynny mewn ysgol, goleg, prifysgol neu yn y gweithle yn allweddol ac yn rhan greiddiol o waith y Coleg dros y pum mlynedd nesaf, a cheir mynediad at doreth o adnoddau o’r fath wrth ymweld â Llyfrgell Adnoddau y Coleg.”
Ynghyd â‘r lansio yn y Senedd ar 17 Hydref 2018, bydd Dr Lewis a Dr Royles hefyd yn cynnal diwrnod o weithdai a gweithgareddau ar gyfer myfyrwyr chweched dosbarth o ysgolion uwchradd Bro Myrddin, Ystalyfera a Gwynllyw.
Dywedodd Dr Huw Lewis sy’n Ddarlithydd yn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth: “Mae cynnal sesiynau fel hyn yn y Senedd yn hynod werthfawr ac yn rhoi cyfle go iawn i fyfyrwyr chweched dosbarth gael gweld democratiaeth ar waith. Mae hefyd yn rhoi cyfle iddyn nhw holi Aelodau Cynulliad a rhoi prawf ar rai o’r syniadau maen nhw wedi bod yn eu trafod fel rhan o’u cwrs. Ry'n ni’n ddiolchgar i’r Cynulliad am y croeso i ni fel Adran ac i’r ysgolion wrth iddyn nhw gael golwg cyntaf ar y pecyn newydd yma o adnoddau.”
Cynhyrchwyd yr adnoddau mewn cydweithrediad â swyddogion pwnc Cydbwyllgor Addysg Cymru (CBAC) ac fe fyddant ar gael ar wefan Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth ac ar Y Porth, llwyfan e-ddysgu’r Coleg Cymraeg.
Mae’r adnoddau yn cael ei lansio yn ystod blwyddyn nodi canmlwyddiant Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol y Brifysgol - yr adran gyntaf o’i bath yn y byd a’r gyntaf erioed i gynnig gradd mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol drwy gyfrwng y Gymraeg.