Sefydlu busnes medd ar Gampws Arloesi a Menter Aberystwyth
Benjamin Guscott, un o sefydlwyr Shire Meadery, a Dr Rhian Hayward, Prif Weithredwr Campws Arloesi a Menter Aberystwyth.
04 Hydref 2018
Mae’r cwmni cynhyrchu cyntaf sydd wedi’i leoli ar Gampws Arloesi a Menter Aberystwyth wedi rhoi gwedd fodern ar hen ddiod.
Sefydlwyd Shire Meadery gan Benjamin Guscott a Nelson Almeida ar ddechrau 2018 er mwyn cynhyrchu fersiwn gyfoes o fedd, diod alcoholig sydd wedi’i gwneud o fêl wedi ei eplesu.
Gwireddwyd y syniad am fusnes newydd ar ôl i Benjamin a Nelson gyfarfod ym mis Chwefror mewn cynhadledd i fyfyrwyr a oedd am fentro i fyd busnes.
Ar ôl edrych ar wahanol opsiynau i leoli’r busnes, penderfynwyd mai adeiladau Campws Arloesi a Menter Aberystwyth ar gampws Gogerddan, Prifysgol Aberystwyth ger Penrhyncoch fyddai’r lleoliad delfrydol.
Dywedodd Benjamin Guscott, sydd wedi cwblhau Doethuriaeth mewn Biowyddorau o Brifysgol Aston: “Fe ddes i o hyd i fedd pan yr oeddwn yn astudio ar gyfer fy noethuriaeth, ac yna dechrau ei wneud yn hwyrach. Rwyf wedi dod at gynhyrchu medd o safbwynt gwyddonol, ac wedi arbrofi gyda’r elfennau pwysicaf er mwyn creu rhywbeth sydd yn ehangach ei apel na’r hyn sydd ar gael ar hyn o bryd. Wedi llawer o arbrofi, mae gen i fformiwla ar gyfer cynhyrchu medd cyfoes sydd ddim mor felys nac yn cynnwys gymaint o alcohol â medd traddodiadol.
“Buom yn ystyried nifer o leoliadau ar gyfer y busnes gan gynnwys Birmingham, Bryste a Chaerfaddon. Roeddem yn chwilio am le a fyddai’n darparu cefnogaeth broffesiynol ar agwedd wyddonol y busnes yn ogystal â rhywle hardd, croesawgar a fforddiadwy. Mae Campws Arloesi a Menter Aberystwyth, Gogerddan yn cynnig pob un o’r rhain.”
Cynhyrchodd Shire Meadery eu poteli cyntaf o fedd ym mis Gorffennaf 2018 ac mae bellach yn cynhyrchu’r ddiod yn fasnachol.
Meddai Nelson Almedia, a ddaeth i Brifysgol Aberystwyth i astudio Cyfrifiadureg: “Gellir dadlau mai medd yw’r ddiod alcoholig hynaf yn y Deyrnas Unedig ac mae ei phoblogrwydd ar gynnydd ymysg pobl ifanc. Rydym wedi derbyn llawer o gefnogaeth gan raglen hynod ddefnyddiol BioAccelerate Campws Arloesi a Menter Aberystwyth, a chynllun menter y Brifysgol AberPreneurs. Rheswm gwych arall dros fod ar gampws prifysgol yw bod gymaint o arloeswyr eraill gwahanol o’ch cwmpas. Mae ymchwilwyr yma o bedwar ban byd ac mae’n amgylchedd hynod greadigol ac ysgogol.”
Dywedodd Dr Rhian Hayward, Prif Weithredwr Campws Arloesi a Menter Aberystwyth: “Rydym wrth ein bodd mai Shire Meadery yw un o’r cwmnïau cyntaf i fod yn denant yn ein swyddfeydd sydd wedi dodrefnu, ac sydd gyferbyn â chanolfan ymchwil fwyaf y Brifysgol. Maent yn ymuno â thenantiaid eraill yma sy’n cael mynediad at arbenigedd o safon fyd-eang ym meysydd technoleg amaeth a’r biowyddorau yn ogystal â chyfleoedd i rwydweithio gydag arloeswyr o’r un feddylfryd. Mae’r gwaith adeiladu ar brif gyfleusterau Campws Arloesi a Menter Aberystwyth wedi dechrau ac edrychwn ymlaen at ehangu ein cymuned yn ystod y misoedd a'r blynyddoedd nesaf.”
Unwaith y bydd y datblygiad wedi ei gwblhau ddiwedd 2020, bydd Campws Arloesi a Menter Aberystwyth yn adnodd o safon byd a fydd yn denu cyllid ymchwil preifat a chystadleuol, gan alluogi cwmnïau ac ymchwilwyr i ymgymryd â phrosiectau ymchwil ar y cyd er mwyn hybu’r bio-economi.
Mae’r Campws yn tanlinellu ymrwymiad Prifysgol Aberystwyth i gynnal mwy o ymchwil ac arloesedd rhyngddisgyblaethol ar gyfer dyfodol sy’n canolbwyntio’n gynyddol ar ymchwil a datblygu am gynyrch a gwasanaethau newydd ar draws sectorau.
Mae datblygiad £40.5m Campws Arloesi a Menter Aberystwyth wedi ei ariannu gan Gronfa Ddatblygu Rhanbarthol Ewrop, drwy Lywodraeth Cymru; gan Gyngor Ymchwil y Gwyddorau Biotechnolegol a Biolegol (BBSRC) – rhan o UK Research and Innovation; a Phrifysgol Aberystwyth.