Ysgol o Lanrwst yn ennill cystadleuaeth animeiddio ‘scratch’ Cymru

Dr Martin Nelmes (chwith) a Eurig Salisbury o Brifysgol Aberystwyth yn cyflwyno gliniadur pi-top i Eleanor Ingham, Awen Dafydd a Caitlin Valintine o Ysgol Bro Gwydir am ennill Cystadleuaeth Animeiddio Scratch i Ysgolion Cynradd Cymru.

Dr Martin Nelmes (chwith) a Eurig Salisbury o Brifysgol Aberystwyth yn cyflwyno gliniadur pi-top i Eleanor Ingham, Awen Dafydd a Caitlin Valintine o Ysgol Bro Gwydir am ennill Cystadleuaeth Animeiddio Scratch i Ysgolion Cynradd Cymru.

29 Hydref 2018

Ffilm fer wedi’i hanimeiddio gan ddisgyblion ysgol gynradd o ogledd Cymru yw enillydd cystadleuaeth animeiddio codio ‘scratch’ Cymru Prifysgol Aberystwyth.

Cynhyrchwyd Chwedlau Chwareus, Merched y Môr gan StiwdioCoolCacti Ysgol Bro Gwydir, Llanrwst, ac mae’n adrodd stori am hen ŵr a’i dair ferch, Branwen, Gwenllian a Llio, sy’n byw ar lannau Bae Ceredigion.

Ond mae yna ddyn arall sydd yn genfigennus o hapusrwydd yr hen ŵr, Dylan, Brenin y Môr, ac mae’n anfon ton anferth i herwgipio’r merched.

Mae hyn yn torri calon yr hen ŵr, ac o ganlyniad dyma Dylan yn penderfynu troi’r dair yn wylanod er mwyn iddynt fedru ymweld â’u tad pryd bynnag y mynent.

Datblygwyd y Gystadleuaeth Animeiddio Scratch i Ysgolion Cynradd yng Nghymru gan Adran Cyfrifiadureg Prifysgol Aberystwyth, a lansiwyd y gyntaf yn 2017.

Mae’r gystadleuaeth yn herio disgyblion blynyddoedd 3 i 6 i greu animeiddiad sy’n cyfuno codio a barddoniaeth neu fytholeg Gymreig.

Comisiynwyd dwy gerdd - ‘Dad’ a ‘Dewi’r Dewin’ - yn arbennig ar gyfer y gystadleuaeth eleni gan yr awdur arobryn Eurig Salisbury, Pennaeth dros dro Adran Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth a Bardd Plant Cymru (2011-2013).

Cyflwynodd Eurig, a threfnydd y gystadleuaeth Martin Nelmes sy’n Gymrawd Dysgu: Estyn Allan Gwyddoniaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth, gliniadur pi-top i Ysgol Bro Gwydir, enillwyr y gystadleuaeth ddydd Gwener 19 Hydref 2018.

Dywedodd Meinir Jones, Pennaeth Ysgol Bro Gwydir: “Rwy’n hynod falch o’r disgyblion weithiodd mor galed i greu animeiddiad ar gyfer y gystadleuaeth. Trwy gymryd rhan, datblygodd y disgyblion wybodaeth gyfoethog am chwedlau Cymru yn ogystal â gwella’u sgiliau cyfrifiadurol creadigol.

Roedd dod i’r brig yn gamp i’r tîm, ond bydd y gwobrau yn brofiad arbennig i holl blant Ysgol Bro Gwydir.”

Meddai Awen Dafydd, disgybl yn Ysgol Bro Gwydir: “Dwi wrth fy modd yn codio a braf oedd cael cyfle i greu rhywbeth gwahanol ar raglen ‘Scratch’ ar gyfer y gystadleuaeth.  Roeddem i gyd yn falch iawn ein bod wedi ennill.” 

Dywedodd Martin Nelmes: “Mae codio’n sgil hanfodol sy’n ofynnol mewn nifer o leoliadau gwaith erbyn hyn. Mae’n bwysig bod disgyblion cynradd yn cael cyfleoedd i ymarfer eu sgiliau codio er mwyn magu hyder. Cafodd dyfeisgarwch a chreadigrwydd y disgyblion i greu animeiddiadau i ddweud stori gryn argraff arnaf.”

Goreuon eraill y gystadleuaeth eleni oedd Ysgol Pennant, Penybontfawr; Ysgol Plascrug Aberystwyth ac Ysgol Llangynidr, Crughywel.

Darparwyd y gwobrau gan noddwyr y gystadleuaeth pi-top a Kano.