AccessAble yn lansio Ap a gwefan newydd ym Mhrifysgol Aberystwyth
Staff a myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth yn lansio Ap a gwefan newydd AccessAble
09 Hydref 2018
Ddydd Gwener 5 Hydref, lansiwyd Ap a gwefan newydd AccessAble ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Mae AccessAble, a elwid gynt yn DisabledGo, yn brif ddarparwr gwybodaeth hygyrchedd ar gyfer pobl anabl yn y DU, ac mae'n gweithio gyda’r Brifysgol ar hyn o bryd ar adnodd newydd cynhwysfawr a fydd yn gwella profiad ymwelwyr anabl ar y campws.
Bydd y canllaw ar-lein ar gyfer myfyrwyr, staff ac ymwelwyr yn barod ar ddechrau 2019 ac yn rhoi gwybod i ymwelwyr ar y campws am fynediad i holl adeiladau a gwasanaethau'r Brifysgol.
Wrth sôn am y bartneriaeth newydd, dywedodd yr Athro Tim Woods, Dirprwy Is-Ganghellor, Dysgu, Addysgu a Phrofiad Myfyrwyr:
"Ein nod yw darparu profiad o'r ansawdd uchaf i bob myfyriwr, ac i sicrhau fod ein cyfleusterau academaidd ar gael i bawb sy'n diwallu ein gofynion mynediad. Mae hyn yn golygu sicrhau bod ein cwricwlwm a'n campysau mor hygyrch â phosib. Rydym wedi ymrwymo i wneud gwelliannau parhaus yn yr ardal hon ac rydym yn falch o fod yn gweithio mewn partneriaeth â AccessAble fel y bydd canllawiau mynediad a asesir yn broffesiynol i'n cyfleusterau campws ar gael yn rhwydd ar-lein."
Meddai Anna Nelson, Cyfarwyddwr Gweithredol AccessAble:
“Rydym wrth ein bodd o fod yn gweithio mewn partneriaeth â Phrifysgol Aberystwyth i gynhyrchu Canllawiau Hygyrchedd Manwl i bob man ar y campws. Mae Aberystwyth yn rhan o grŵp o brifysgolion yng Nghymru, sy'n cydnabod pa mor hanfodol yw gwybodaeth hygyrchedd ar gyfer myfyrwyr anabl a'r rhai sydd â gofynion mynediad. Mae ein menter yn ymwneud â chael gwared ar rwystrau i addysg uwch a gwella profiad y myfyriwr. Rwy'n gobeithio y bydd prifysgolion eraill ledled y wlad yn gweld y fenter hon fel enghraifft o arfer gorau.”