Cicio’r bar ar Ddiwrnod y Sylfaenwyr
Yr Hen Goleg pan yr agorwyd y Brifysgol yn 1872.
04 Hydref 2018
Cynhelir gorymdaith i gicio’r bar ar bromenâd Aberystwyth ddydd Gwener 12 Hydref 2018 i nodi’r diwrnod pan yr agorodd Prifysgol Aberystwyth am y tro cyntaf yn 1872.
Bydd staff, myfyrwyr, cyn-fyfyrwyr ac aelodau’r gymuned leol yn ymuno yn nhaith gerdded Diwrnod y Sylfaenwyr o’r Hen Goleg i odre Craig Glais - Consti.
Bydd yr orymdaith yn cael ei harwain gan Ganghellor y Brifysgol, yr Arglwydd Thomas o Gwmgïedd, a’r Is-Ganghellor yr Athro Elizabeth Treasure.
Y gwestai gwadd ar Ddiwrnod y Sylfaenwyr eleni fydd Sioned Wiliam – a raddiodd mewn Drama o Aberystwyth ac yn Gymrawd er Anrhydedd, ac sydd bellach yn Olygydd Comisiynu Comedi i BBC Radio 4.
Mae Sioned Wiliam hefyd yn nofelydd, ac fe gyhoeddodd ei thrydedd nofel Cicio’r Bar ym mis Mai 2018 – cyfrol sy’n portreadu’r ysgafn a’r dwys ym mywydau tair myfyrwraig ym Mhrifysgol Aberystwyth yn y 1980au.
Dywedodd Sioned: “Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ddychwelyd i Aberystwyth. Roedd fy nghyfnod yn y Brifysgol yno yn hapus iawn – bum yn ffodus hefyd i gael dwy athrylith yn fy nysgu yn yr Adran Ddrama sef yr Athro Elan Closs Stephens a’r diweddar Emily Davies. Rwy’n edrych ymlaen am aduniad hefyd gyda rhai o’r ffrindiau mynwesol a wnaed gennyf yn ystod y blynyddoedd hapus yna. Ac wrth gwrs alla’i ddim meddwl am ffordd well i ddathlu hyn na tro ar hyd y Prom i gicio’r Bar!”
Dywedodd yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Roedd yna gyffro mawr pan agorodd yr Hen Goleg ei ddrysau am y tro cyntaf i fyfyrwyr ar 16 Hydref 1972. Mae Diwrnod y Sylfaenwyr yn gyfle i ni gydnabod uchelgais, gweledigaeth ac angerdd y rhai fuodd ynghlwm â sefydlu Coleg Prifysgol cyntaf Cymru yn Aberystwyth. Mae ein dyled yn fawr iddynt.”
Bydd yr orymdaith i gicio’r bar yn dechrau am 8:00 y bore o’r Hen Goleg, ac yn dychwelyd yno i gael brecwast yn union fel yr oedd hi’n 1872.
Gorymdaith graddio 1960, a welai staff yn cerdded o’r Hen Goleg i Neuadd y Brenin.
Agorodd Prifysgol Aberystwyth ei drysau am y tro cyntaf am 9:00 y bore ddydd Mercher 16 Hydref 1872, ar ôl brecwast y sylfaenwyr a ddathlwyd yn yr Hen Goleg y diwrnod blaenorol.
Gyda chymorth dau athro a Chofrestrydd-Lyfrgellydd, croesawodd Thomas Charles Edwards 26 o fyfyrwyr i’r cyn-westy a addaswyd yn ‘Brifysgol y werin’.
Mewn adroddiad a gyhoeddwyd ar y pryd, nodwyd: “Mae tref Aberystwyth yn dathlu gyda gŵyl gyffredinol - cafwyd llawer o areithiau huawdl, llawer o gerddoriaeth a chanu llawen; roedd yno londer a gorfoledd godidog.”
Pan yr agorodd y Brifysgol, Aberystwyth oedd sefydliad Prifysgol cyntaf yng Nghymru i gynnig cyrsiau mewn: Cemeg, Ieitheg Gymharol, Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, Iaith a Llenyddiaeth Ffrangeg, Daearyddiaeth, Almaeneg, Groeg, Hebraeg (hefyd Arabeg, Syrieg, Sanskrit, Tyrceg a Pherseg), Hanes, Eidaleg, Lladin, Rhesymeg ac Athroniaeth, Mathemateg, y Gwyddorau Naturiol a Seryddiaeth.
Dywedodd Louise Jagger, Cyfarwyddwr Datblygu a Chysylltiadau Alumni Prifysgol Aberystwyth: “Mae dathliad Diwrnod y Sylfaenwyr gyda'n cymuned yn Aberystwyth yn lansio rhaglen brysur o ddigwyddiadau'r hydref gyda chyn-fyfyrwyr a ffrindiau - yng Nghymru, y DU a thu hwnt. Mae'n gyfle i ddiolch i'n cefnogwyr sy'n rhannu'r un brwdfrydedd dros y Brifysgol hon â’n Sylfaenwyr ac i'w hysbysu am y datblygiadau diweddaraf, gan gynnwys ein cynllun uchelgeisiol i drawsnewid yr Hen Goleg ger y lli.”
Os am wybod mwy am hanes Prifysgol Aberystwyth, ewch i adran hanes y Brifysgol ar-lein.