Dathlu llwyddiannau Dysgu Gydol Oes
Alison Pierse (chwith) cyd-enillydd Gwobr Tiwtor Dysgu Gydol Oes y Flwyddyn gyda Elen James, Swyddog Corfforaethol Dysgu Gydol Oes a Diwylliant Cyngor Sir Ceredigion, a Chadeirydd Partneriaeth Cymunedol Dysgu Oedolion Ceredigion.
23 Hydref 2018
Dathliad o gariad at ddysg oedd seremoni Gwobrau Dysgu Gydol Oes a Dysgu Cymraeg Prifysgol Aberystwyth ddydd Llun 22 Hydref 2018.
Cydnabuwyd llwyddiannau a chyrhaeddiadau myfyrwyr o bob oed ar ystod o gyrsiau dysgu gydol oes yn y seremoni flynyddol yng Nghanolfan Gynadledda Medrus y Brifysgol.
Dywedodd Dr Rhodri Llwyd Morgan, Cyfarwyddwr y Gymraeg a Chysylltiadau Allanol Prifysgol Aberystwyth: “Llongyfarchiadau mawr i bob un o’n dysgwyr gydol oes ar eu llwyddiant. Mae cychwyn ar gwrs dysgu gydol oes yn ymrwymiad personol gwych, ac un sydd angen hefyd cefnogaeth teulu a ffrindiau.
“Yn ogystal â dathlu eu cyflawniadau, mae Seremoni Wobrwyo Dysgu Gydol Oes a Dysgu Cymraeg yn gyfle i’r dysgwyr ddiolch i’w tiwtoriaid ysbrydoledig sy’n gweithio’n galed i gefnogi’r dysgwyr ac sy’n mynd y tu hwnt i’r gofyn i sicrhau eu llwyddiannau.
“Mae Dysgu Gydol Oes a Dysgu Cymraeg yn darparu cyfleoedd i bawb i gyfrannu i’r gymuned, y gymdeithas ehangach a’r economi, mewn ffyrdd newydd a diddorol.
“Rydym hefyd wrth ein bodd ein bod fel Prifysgol yn gweithio gyda’n dysgwyr at wireddu targed Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050”, ychwanegodd.
Cyflwynwyd Tystysgrifau Addysg Uwch i fyfyrwyr mewn Celf a Dylunio, Astudiaethau Ysgrifennu Creadigol, Ecoleg Maes a Diploma Addysg Uwch mewn Ecoleg Maes a Chadwraeth, ac Addysg Barhaus.
Yn ogystal, cyflwynwyd gwobrau unigol i fyfyrwyr a staff yn ystod y seremoni i gydnabod eu cyfraniadau, eu llwyddiannau a’u cyflawniadau.
Cyflwynwyd gwobr Myfyriwr Dysgu Gydol Oes y Flwyddyn i fyfyrwraig Celf a Dylunio, Caroline Nicholas.
Fe enwebwyd Caroline gan eu thiwtoriaid a’i chyd-fyfyrwyr ac mae wedi cwblhau nifer o gyrsiau Dysgu Gydol Oes gan gynnwys Portreadu Planhigion a Pheintio Gerddi. Disgrifiwyd ei gwaith fel “ysbrydoledig ac ysgogol”.
Candy Bedworth, Ian Munday a Danielle Harrison enillodd gwobr y Tîm o Fyfyrwyr Dysgu Gydol Oes. Gweithiodd y myfyrwyr ar fenter wirfoddol Figuratively Speaking, sef datblygiad dysgu o bell Celf a Dylunio.
Treuliodd y tîm o dri naw mis yn llunio unedau addysgol ar gyfer modiwl dysgu o bell ac fe’i disgrifiwyd fel “llysgenhadon dylanwadol arbennig ar gyfer dysgwyr y dyfodol.”
Cydnabuwyd hefyd gyfraniadau tiwtoriaid Dysgu Gydol Oes yn y gwobrau.
Rhannwyd Gwobr Tiwtor Dysgu Gydol Oes y Flwyddyn rhwng Alison Pierse a Lara Clough, a enwebwyd gan eu myfyrwyr.
Disgrifiwyd Alison Pierse, tiwtor Celf a Dylunio gyda Dysgu Gydol Oes am dros ugain mlynedd, sydd â “dysgu ym mêr ei hesgyrn”, “yn mynd y tu hwnt i’r gofyn” ac yn dangos “chwilfrydedd ac egni.”
Enwebwyd cyd-enillydd y wobr, Lara Clough, am “ei chariad at lenyddiaeth ac ysgrifennu creadigol, gyda’r profiad o fod yn awdur sydd wedi cyhoeddi ei hun, yn amlwg yn ei dosbarthiadau.”
Cyflwynwyd y gwobrau gan Elen James, Swyddog Corfforaethol Dysgu Gydol Oes a Diwylliant Cyngor Sir Ceredigion, a Chadeirydd Partneriaeth Cymunedol Dysgu Oedolion Ceredigion.
Dysgu Cymraeg
Roedd y digwyddiad hefyd yn gyfle i ddathlu cyfraniad sefydliadau a grwpiau sydd wedi bod yn hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg.
Cyd-enillwyr Gwobr Cymraeg yn y Teulu oedd Cecilia Harman a Emily Leaf, y ddwy o Landrindod.
Mae Emily wedi bod yn dysgu Cymraeg ers tair blynedd. Ynghyd â’i phartner Robin, sydd hefyd yn dysgu Cymraeg, a’i tri phlentyn sy’n derbyn addysg drwy gyfrwng y Gymraeg, fe gefnogodd y teulu Eisteddfod yr Urdd yn Llanelwedd yn gynharach eleni.
Dysgu Cymraeg ers dwy flynedd mae Cecilia Harman. Wedi symud o Lundain i Gymru bedair mlynedd nôl, mae ei meibion hi’n derbyn addysg cyfrwng Cymraeg.
Derbyniodd Comisiwn Brenhinol Henebion CymruGwobr Cymraeg yn y Gweithle.
Ym mis Mai 2016, symudodd y Comisiwn i’w swyddfeydd newydd yn y Llyfrgell Genedlaethol ac wedi hyn gwelodd gynnydd yn nifer yr ymwelwyr i’w llyfrgell a chyfleusterau ymchwil. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae saith aelod o staff y Comisiwn wedi bod yn dysgu Cymraeg, gan gynnwys y cwrs y Gymraeg yn y Gweithle.
Cyflwynwyd Gwobr Gweithiwr Cymraeg y Flwyddyn i aelod staff y Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru.
Fe dderbyniodd David Thomas, sy’n Bennaeth ar Wasanaethau Cyhoeddus y Comisiwn docyn llyfr gwerth £30 a llyfr o’r gyfres Amdani gan gyhoeddwyr Prifysgol Aberystwyth CAA.
Gwobr olaf y seremoni oedd Gwobr Grŵp Cymraeg y Flwyddyn, ac fe’i cyflwynwyd i Grŵp Pontarfynach, sy’n cwrdd bob nos Lun yn yr Hafod, Pontarfynach.
Mae’r wobr yn cydnabod llwyddiant y grŵp i ddod â siaradwyr Cymraeg a dysgwyr ynghyd i hyrwyddo’r Gymraeg a derbyniodd y grŵp gwerth £100 o adnoddau cyfrwng Cymraeg.
Cyflwynwyd y gwobrau gan Dr Rhodri Llwyd Morgan, Cyfarwyddwr y Gymraeg a Chysylltiadau Allanol Prifysgol Aberystwyth, ynghyd â thystysgrifau i fyfyrwyr sydd wedi cwblhau arholiadau CBAC Cymraeg Mynediad, Sylfaen, Canolradd ac Uwch.
Mae rhagor o wybodaeth am gyfleoedd astudio Dysgu Gydol Oes ym Mhrifysgol Aberystwyth ar gael ar-lein: https://www.aber.ac.uk/cy/lifelong-learning/
Mae mwy o fanylion am Dysgu Cymraeg ar gael: https://www.aber.ac.uk/cy/learn-welsh/