Pris Cydwybod: T H Parry-Williams a Chysgod y Rhyfel Mawr
Dr Bleddyn Huws
25 Hydref 2018
Mae llyfr sydd wedi lansio yr wythnos hon yn datgelu sawl peth newydd am fywyd a gyrfa un o lenorion Cymraeg enwocaf yr ugeinfed ganrif.
Lansiwyd Pris Cydwybod T H Parry-Williams a Chysgod y Rhyfel Mawr gan Dr Bleddyn Huws mewn derbyniad yn yr Hen Goleg, Prifysgol Aberystwyth, nos Fercher 24 Hydref 2018.
Yn y gyfrol mae Dr Huws, sydd yn uwch-ddarlithydd yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth, yn bwrw golwg fanwl ar brofiadau T H Parry-Williams fel gwrthwynebydd cydwybodol yn ystod y Rhyfel Mawr.
Mae hefyd yn trafod fel y cafodd ei erlid yn ystod y misoedd wedi i’r Rhyfel ddod i ben pan oedd yn ymgeisydd am Gadair y Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, yn 1919.
Yn ôl Dr Huws, gohiriwyd penodi i’r Gadair oherwydd maint y gwrthwynebiad cyhoeddus i’w enwebiad ef amdani.
“Yr oedd rhai pobl am weld penodi ei gyd-weithiwr Timothy Lewis am iddo ef wirfoddoli i wasanaethu yn y fyddin yn ystod y Rhyfel”, dywedodd Dr Huws.
“Penderfynodd Parry-Williams gefnu ar ei swydd fel darlithydd a chofrestru fel myfyriwr blwyddyn gyntaf er mwyn astudio gwyddoniaeth. Ei fwriad ar y pryd oedd astudio meddygaeth yn ysgol feddygol Ysbyty Barts yn Llundain. Fodd bynnag, pan ailhysbysebwyd y Gadair Gymraeg yng Ngholeg Aberystwyth, cynigiodd Parry-Williams amdani am yr ail dro a chael ei benodi”, ychwanegodd.
Ymdrinnir yn y llyfr hefyd am y tro cyntaf erioed â hynt ei dri brawd yn ystod y Rhyfel.
“Bûm yn ffodus iawn yn gallu defnyddio deunydd newydd sbon o archif deuluol teulu Parry-Williams a chael dysgu mwy am yrfa ei frodyr yn y fyddin. Tra cafodd Parry-Williams ei eithrio rhag cael ei gonsgriptio, fe wasanaethodd ei dri brawd o’u gwirfodd”, dyweddod Dr Huws.
Rhywbeth arall sy’n cael ei ddatgelu am y tro cyntaf mewn print yw hanes carwriaeth Parry-Williams â’r meddyg teulu o Drawsfynydd, Dr Gwen Williams.
Yn 1935, ar ôl treulio pymtheng mlynedd yn Athro’r Gymraeg, gwnaeth Parry-Williams gais am gael ei dderbyn i Ysgol Feddygol Prifysgol Cymru yng Nghaerdydd, cyn tynnu ei gais yn ôl.
Ymdrinnir yn fanwl â’r llyfrau meddygol a ddarllenai wrth baratoi at newid ei yrfa, a datgelir gwybodaeth newydd sbon am ei ymwneud â dosbarthiadau ambiwlans y Groes Goch yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
“Ar ôl pwyso a mesur hyd a lled yr wybodaeth newydd am ddiddordeb Parry-Williams mewn meddygaeth, rwyf o’r farn ei fod yn difaru na fyddai wedi bwrw ymlaen â’i fwriad gwreiddiol i fynd yn feddyg yn 1919”, dywedodd Dr Huws.
“Erbyn 1935, ac yntau’n tynnu at ei 50 oed, yr oedd yn rhy hwyr yn y dydd iddo newid cwrs ei yrfa a threulio blynyddoedd pellach yn astudio meddygaeth ac ymgymhwyso’n feddyg. Ym marn rhai, yr oedd ei benderfyniad i beidio â bwrw ymlaen yn y diwedd yn golled i feddygaeth. Gallai fod wedi gwneud ei farc fel meddyg”, ychwanegodd.
Cyhoeddwyd Pris Cydwybod T.H. Parry-Williams a Chysgod y Rhyfel Mawr gan Y Lolfa.