Cydnabod gwyddonydd cyfrifiadureg o Aberystwyth yng ngwobrau Gwyddoniaeth i Ferched
Dr Hannah Dee
08 Hydref 2018
Mae gwaith arloesol gwyddonydd o Brifysgol Aberystwyth i hyrwyddo rôl menywod ym maes cyfrifiadureg yn cael ei gydnabod mewn seremoni arbennig yn Llundain heddiw, ddydd Llun 8 Hydref.
Mae Dr Hannah Dee yn un o un-ar-ddeg mathemategydd a gwyddonydd cyfrifiadureg benywaidd blaenllaw i’w cydnabod yng Ngwobrau Gwyddoniaeth i Ferched am Fathemateg a Chyfrifiadureg sy’n cael eu cynnal yn y Llyfrgell Brydeinig.
Dathlu menywod mewn gwyddoniaeth yw nod y gwobrau, ac annog eraill i fentro i fyd gwyddoniaeth a chyrraedd swyddi rheolaeth uwch.
Cafodd y rhai sydd yn derbyn y gwobrau eleni eu dewis gan enillwyr blaenorol am yr hyn y maent wedi ei gyflawni ym myd gwyddoniaeth a’u gallu i ysbrydoli eraill.
Bydd Dr Dee a’i chyd-enillwyr yn derbyn gemwaith sydd wedi’i ysbrydoli gan y mudiad swffragét, ac sy’n cael ei ‘etifeddu’ oddi wrth un gwyddonydd benywaidd i’r llall.
Enwebwyd Dr Dee am y wobr gan yr Athro Carron Shankland o Brifysgol Stirling.
Dywedodd yr Athro Shankland: “Ddeng mlynedd yn ôl sefydlodd Hannah colocwiwm BCSWomen Lovelace i ddarparu fforwm i fyfyrwyr israddedig benywaidd ym maes cyfrifiadureg i arddangos eu syniadau a rhwydweithio gyda’i gilydd a darpar gyflogwyr. Bellach mae Lovelace wedi hen ymsefydlu fel cynhadledd i israddedigion yn ein maes gyda 200 yn mynychu yn 2018. Mae Hannah hefyd yn gweithio gydag ysgolion cynradd ac uwchradd i danio’i brwdfrydedd creadigol ym maes cyfrifiadureg drwy Glwb Roboteg arobryn Aberystwyth.”
Ym mis Gorffennaf 2018, ychwanegwyd Dr Dee at Oriel Enwogion Computer Weekly o’r menywod mwyaf dylanwadol yn y sector dechnoleg yn y DU.
Can mlynedd wedi i’r menywod cyntaf ym Mhrydain dderbyn y bleidlais, dim ond 23% sydd yn gweithio ym meysydd gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg yn y DU.
Mae datrys hyn yn her hir-dymor i fathemateg a chyfrifiadureg gan mai dim ond 15% o fyfyrwyr cyfrifiadureg a 37% o fyfyrwyr mathemateg sydd yn ferched yn 2016/17, o’i gymharu â 61% o’r myfyrwyr sy’n astudio’r Gwyddorau Biolegol.
Ochr yn ochr â’r gwobrau bydd cyn-newyddiadurwr y BBC, Susan Watts yn arwain trafodaeth hefyd ar y datblygiadau mwyaf cadarnhaol a’r heriau parhaol sy’n wynebu menywod mewn mathemateg a chyfrifiadureg.
Cychwynnwyd y cynllun Gwyddoniaeth i Ferched gan yr Athro Fonesig Amanda Fisher, Cyfarwyddwr Sefydliad Gwyddorau Meddygol MRC Llundain (MRC LMS) yn 2011.
Dywedodd yr Athro Fonesig Fisher: “Roedd creu’r Gwobrau Gwyddoniaeth i Ferched mewn Mathemateg a Chyfrifiadureg yn 2016 yn gydnabyddiaeth o bwysigrwydd cynyddol mathemateg a chyfrifiadureg i’r gwyddorau bywyd. Pwrpas pob agwedd o’r gwobrau yw dathlu gwyddonwyr benywaidd, yr hyn y maent wedi ei gyflawni’n wyddonol a’u gallu i ysbrydoli eraill. Mae hyn yn hynod o bwysig mewn mathemateg a chyfrifiadureg lle mae myfyrwyr benywaidd sy’n astudio’r pynciau hynny yn parhau yn y lleiafrif. Rydym yn hynod falch o groesawu enillwyr y gwobrau eleni i’r gymuned Gwyddoniaeth i Ferched, ac yn edrych ymlaen at eu cefnogi er mwyn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf.”
Enillwyr gwobrau 2018 yw:
Dr Hannah Dee, Prifysgol Aberystwyth
Dr Ruth Keogh, Ysgol Hylendid a Meddygaeth Drofannol Llundain
Dr Tereza Neocleous, Prifysgol Glasgow
Dr Nina Snaith, Prifysgol Briste
Dr Daniela De Angelis Uned Bioystadegau MRC, Prifysgol Caergrawnt
Dr Eugenie Hunsicker, Prifysgol Loughborough
Yr Athro Sally Fincher, Prifysgol Caint
Yr Athro Julie McCann, Coleg Imperial Llundain
Yr Athro Jane Hillston, Prifysgol Caeredin
Yr Athro Ursula Martin, Prifysgol Rhydychen
Dr Vicky Neale, Prifysgol Rhydychen.