Arddangosfa ‘Tirweddau Mewn Parau’ yn agor yn Yr Hen Goleg
01 Awst 2018
Mae arddangosfa o waith gan arlunwyr o Gymru ac Ohio wedi agor yn Hen Goleg Prifysgol Aberystwyth.
Prifysgol Aberystwyth ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol
01 Awst 2018
O farddoniaeth i fathemateg, mae gan Brifysgol Aberystwyth rywbeth at ddant pawb yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd eleni.
Llyfr y Flwyddyn 2019 yn Aberystwyth
02 Awst 2018
Wedi blynyddoedd llwyddiannus yn Galeri Caernarfon, y Redhouse ym Merthyr a’r Tramshed yng Nghaerdydd, bydd Seremoni Wobrwyo Llyfr y Flwyddyn yn ymweld â chartref newydd yn 2019, gyda Llenyddiaeth Cymru yn cyhoeddi mai’r cartref hwnnw yw Canolfan Celfyddydau Aberystwyth.
Academydd o Aberystwyth yn cydarwain astudiaeth fyd-eang ar fioamrywiaeth
03 Awst 2018
Mae’r Athro Mike Christie o Brifysgol Aberystwyth wedi’i benodi yn gyd-gadeirydd asesiad byd-eang ar werth a defnydd cynaliadwy rhywogaethau gwyllt.
Prifysgol Aberystwyth yn noddi clwb pêl-droed y dref
06 Awst 2018
Prifysgol Aberystwyth fydd prif noddwr Clwb Pêl-droed Tref Aberystwyth am y tymor 2018-19.
Cyn-fyfyrwraig yn cipio Coron Eisteddfod Caerdydd 2018
06 Awst 2018
Enillydd Coron Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018 yw Catrin Dafydd, sy'n raddedig o Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth.
Croesawu myfyrwyr Fulbright o’r Unol Daleithiau
08 Awst 2018
Croesawodd Prifysgol Aberystwyth wyth myfyriwr Fulbright o’r Unol Daleithiau ym mis Gorffennaf 2018, gan roi iddynt gyfle i ganfod mwy am ddiwylliant, treftadaeth a hanes Cymru a’r Deyrnas Unedig, ynghyd â phrofi addysg uwch mewn prifysgol flaenllaw yn y DU.
Lansio cit newydd oddi-cartref y Scarlets yn Aber
10 Awst 2018
Mae Tîm Rygbi’r Scarlets yn lansio eu cit newydd oddi-cartref ar bromenâd Aberystwyth ddydd Llun 13 Awst 2018.
Dyma pam ei fod o bwys bod y blaid Lafur wedi symud i ffwrdd o ddiffiniad IHRA ar gyfer gwrthsemitiaeth
15 Awst 2018
Yn ysgrifennu yn The Conversation, mae Dr James Vaughan, Darlithydd Hanes Rhyngwladol yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn trafod arwyddocâd penderfyniad corff llywodraethol y blaid Lafur i bellhau ei hun o ddiffiniad Cynghrair Rhyngwladol Cofio'r Holocost ar gyfer gwrthsemitiaeth.
Gwnaethom ymchwilio i drolwyr o Rwsia a darganfod yn union sut maent yn niwtraleiddio newyddion penodol
13 Awst 2018
Yn ysgrifennu yn The Conversation, mae Dr Xymena Kurowska o'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth ac Anatoly Reshetnikov o Brifysgol Canolog Ewrop, yn datguddio sut mae eu hymchwil wedi darganfod y triciau y mae trolwyr yn eu defnyddio i niwtraleiddio newyddion penodol:
Cynhyrchydd olew palmwydd mwyaf Liberia yn tynnu allan o ford gron cynaliadwyedd - beth mae hyn yn ei olygu i gymunedau
13 Awst 2018
Yn ysgrifennu yn The Conversation, mae Fidel C T Budy o'r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, yn trafod sut mae cymunedau gwledig Liberia wedi bod yn dioddef ers amser maith o ganlyniad i gynhyrchwyr olew palmwydd rhyngwladol yn cipio'u tiroedd.
Cymrodoriaeth i Athro o Brifysgol Aberystwyth
13 Awst 2018
Dyfarnwyd Cymrodoriaeth y Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol Annibynnol (ISRF) 2018/19 i Athro o Brifysgol Aberystwyth ar gyfer astudiaeth i ddylanwadau technolegau clyfar ar brosesau democrataidd.
Malwod craff yn teimlo straen o fod yn unig
14 Awst 2018
Mae astudiaeth gan ymchwilydd o Brifysgol Aberystwyth i sut y mae unigedd cymdeithasol yn effeithio ar ymatebion malwod i straen wedi ei chyhoeddi yn rhifyn diweddaraf y cyfnodolyn Philosophical Transactions of the Royal Society.
Cadair Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd i gyn-fyfyriwr Aber
15 Awst 2018
Am yr ail flwyddyn yn olynol, cyn fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth sydd wedi cipio cadair yr Eisteddfod Genedlaethol.
Cyllid yr AHRC i ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o academyddion yn y celfyddydau a’r dyniaethau
15 Awst 2018
Bydd Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru a De a Gorllewin Lloegr yn derbyn cyllid gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC) dros wyth mlynedd i gyflwyno hyfforddiant goruchwylio, hyfforddi a datblygu sgiliau ôl-raddedig o 2019.
Dyfarnu Cymrodoriaethau Rutherford i Brifysgol Aberystwyth
16 Awst 2018
Mae Aberystwyth yn un o 19 o brifysgolion yn y DU sydd wedi eu dewis ar gyfer y cymrodoriaethau ymchwil dan gynllun Grantiau Partner Strategol Cronfa Rutherford sy’n cael ei weinyddu gan adain ryngwladol Prifysgolion y Deyrnas Unedig (UUKi).
Prosiect newydd i daclo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant mewn peirianneg a’r gwyddorau ffisegol
16 Awst 2018
Mae Prifysgol Aberystwyth yn rhan o fenter gwerth miliynau o bunnoedd sy'n anelu at wella cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym meysydd peirianneg a’r gwyddorau ffisegol.
Prifysgol Aberystwyth yn noddi Penwythnos Mawr Pride Cymru
17 Awst 2018
Mae Prifysgol Aberystwyth yn un o brif noddwyr Penwythnos Mawr Pride Cymru sydd yn cael ei gynnal yng Nghaerdydd ar 24–26 Awst 2018.
Sut fydd y newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar wartheg godro a chynhyrchu llaeth yn y DU - astudiaeth newydd
22 Awst 2018
Cyhoeddwyd yr erthygl hon ar newid hinsawdd a'r effaith ar wartheg godro a chynhyrchu llaeth yn wreiddiol yn y Saesneg ar wefan The Conversation.
Myfyrwyr Prifysgol Haf Aberystwyth yn cael blas o fywyd campws
24 Awst 2018
Daeth Prifysgol Haf Aberystwyth 2018 i ben mewn seremoni raddio arbennig a gynhaliwyd yn Neuadd Fawr Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth ddydd Gwener 24 Awst 2018.
Statws Prifysgol Ddi-blastig cyntaf y byd i Aberystwyth
28 Awst 2018
Aberystwyth yw'r brifysgol gyntaf yn y byd i ennill statws Prifysgol Ddi-blastig cydnabyddedig.
Dathlu sgiliau cyflogadwyedd myfyrwyr
31 Awst 2018
Mae pum myfyriwr o Brifysgol Aberystwyth wedi derbyn gwobrau cyflawniad am rhagoriaeth mewn lleoliadau gwaith dros yr haf.
Ditectifs tirwedd yn cyfarfod ym Mhrifysgol Aberystwyth
31 Awst 2018
Bydd geomorffolegwyr o bob cwr o’r byd yn ymgynnull yn Aberystwyth ym mis Medi wrth i Gymru gynnal prif gyfarfod academaidd y ddisgyblaeth yn DU am y tro cyntaf ers bron i 30 mlynedd.