Cymrodoriaeth i Athro o Brifysgol Aberystwyth
Yr Athro Mark Whitehead a fydd yn ymchwilio i ddylanwadau technolegau clyfar ar brosesau democrataidd.
13 Awst 2018
Dyfarnwyd Cymrodoriaeth y Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol Annibynnol (ISRF) 2018/19 i Athro o Brifysgol Aberystwyth ar gyfer astudiaeth i ddylanwadau technolegau clyfar ar brosesau democrataidd.
Mae’r Athro Mark Whitehead o’r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear yn un o chwech ledled Ewrop sydd wedi eu dewis ar gyfer y gymrodoriaeth uchel ei bri.
Cefnogi ymchwilwyr annibynnol mae Cymrodoriaeth ISRF i archwilio a chyflwyno syniadau ymchwil gwreiddiol mewn ffyrdd newydd, a chynnig atebion newydd i broblemau cymdeithasol go iawn y byd.
Dywedodd yr Athro Whitehead: “Bydd y Gymrodoriaeth yn cefnogi fy ymchwil i’r heriau mae data mawr, technolegau algorithmig a rhwydweithiau clyfar yn eu cyflwyno i ryddid personol yn yr 21ain Ganrif. Yn dilyn sgandal Cambridge Analytica yn gynharach eleni, y gobaith yw y bydd y prosiect hwn yn cynnig persbectif newydd ar ddylanwadau technolegau clyfar ar brosesau democrataidd.”
Bydd y canfyddiadau’n cyfrannu at ymchwil ehangach Canolfan Ymchwil Ryngddisgyblaethol Mewnwelediadau Ymddygiadol Aberystwyth, lle mae’r Athro Whitehead yn gyd-gyfarwyddwr.
Yr Athro Whitehead yw awdur Neuroliberalism: Behavioural Government in the 21st Century, a gyhoeddwyd mis Hydref 2017.