Cadair Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd i gyn-fyfyriwr Aber
Cadeirio’r cyn-fyfyriwr o Aberystwyth, Gruffudd Eifion Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd
15 Awst 2018
Am yr ail flwyddyn yn olynol, cyn fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth sydd wedi cipio cadair yr Eisteddfod Genedlaethol.
Cafodd Gruffudd Eifion Owen ei gadeirio yn seremoni olaf Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd ar brynhawn Gwener 10 Awst 2018.
Dyfarnwyd y Gadair i Gruffudd, a oedd yn arddel y ffug-enw ‘Hal Robson-Kanu’, am awdl ar y testun ‘Porth’.
Dyma’r eildro hefyd i un o gyn-fyfyrwyr y Brifysgol ennill un o brif wobrau Eisteddfod Caerdydd ar ôl i Catrin Dafydd gipio’r Goron yn gynharach yn yr wythnos.
Roedd seremoni’r cadeirio yn benllanw ar wythnos lwyddiannus iawn i Gruffudd gan iddo ennill stôl Siwper Stomp yr Eisteddfod ar lwyfan y Pafiliwn ar y nos Lun, a’r brif wobr yn y Stomp Werin yn Nhŷ Gwerin ar y nos Iau.
Yn wreiddiol o Bwllheli, graddiodd yn y Gymraeg o Adran y Gymraeg ac Astudiaethu Celtaidd Prifysgol Aberystwyth yn 2007 cyn mynd ymlaen i gwblhau gradd MPhil yn Aber yn 2011.
Mae bellach yn un o olygyddion opera sebon boblogaidd a hirhoedlog BBC Cymru, Pobl y Cwm, lle mae’n gweithio gyda Catrin Dafydd a raddiodd o Adran y Gymraeg Aberystwyth yn 2003.
Wrth ei longyfarch, dywedodd Pennaeth dros dro Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, Eurig Salisbury: “Mae'n fraint i mi longyfarch un o'n cyn-fyfyrwyr a fu, yn ei eiriau awengar ei hun, yn 'sgwario i lawr Rhiw Penglais' yng nghwmni ei ffrindiau, 'a'n sgarffiau a'n syniadau yn chwifio yn y gwynt'. Gall Gruffudd bellach ei sgwario hi'n haeddiannol iawn i lawr heolydd llydain y brifddinas hefyd! Saff dweud fod yr adran a'i holl staff yn ymfalchïo'n fawr yn ei lwyddiant ysgubol.”
Beirniaid y gystadleuaeth eleni oedd Ceri Wyn Jones, Emyr Davies a Rhys Iorwerth.
Wrth draddodi’r feirniadaeth o waith ‘Hal Robson-Kanu’ o’r llwyfan ar ran ei gyd-feirniaid, dywedodd Ceri Wyn Jones: “Mi aeth yr awdl hon â gwynt y tri ohono’ ni – nid am ei bod hi’n goeth a chyfoethog, nid am ei bod hi’n eithriadol o gywrain ac amlhaenog – ond am ei bod hi mor syml o dreiddgar yn y ffordd mae’n ymdrin â phrofiade sydd yn ffordd o fyw i’r genhedleth ddigidol. A thrwy wneud hynny, mae’n archwilio’r modd yr y’ ni’n dewis byw ein bywyde, ac mae ystyr – neu ddiffyg ystyr – hwnnw wedi bod yn ofid i feirdd ar hyd y cenedlaethe, wrth gwrs.
“Ond o bosib ei gamp fwya yw ei fod wedi gwneud hyn oll mewn ffordd mor ddealladwy, a hynny diolch i arddull lafar garlamus ac amrywieth o gyweirie, lle mae enwe brand a rhegfeydd yn bethe mor naturiol a chyffredin ag yw englynion telynegol iddo. Ac am ei fod e’n gynganeddwr mor sionc a greddfol, mae’n gallu taro ergydion cyson gofiadwy a newid ei arddull, heb darfu ar lif ei stori.”
Dechreuodd Gruffudd ar ei yrfa gynganeddol drwy fynychu gwersi gyda Ifan Prys a’r Prifardd Meirion MacIntyre Huws yn ystod ei arddegau.
Dyma’r tro cyntaf iddo gystadlu am Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol, ond nid dyma’r tro cyntaf iddo dderbyn gwobr ar lwyfan Theatr Donald Gordon, gan iddo ennill y Fedal Ddrama yn Eisteddfod yr Urdd Bae Caerdydd yn 2009.
Mae’n aelod o dîm ymryson Llŷn ac Eifionydd ac o dîm talwrn Y Ffoaduriaid, pencampwyr y gyfres yn 2016, ac yn un o griw Bragdy’r Beirdd.
Cyhoeddwyd ei gasgliad cyntaf o gerddi, Hel Llus yn y Glaw, yn 2015 gan Barddas, a chyrhaeddodd y gyfrol restr fer categori barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn 2016.
Noddwyd Cadair Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd gan Amgueddfa Cymru i ddathlu pen-blwydd Sain Ffagan, Amgueddfa Werin Cymru, yn 70 oed. Rhoddwyd y wobr ariannol gan Gaynor a John Walter Jones er cof am eu merch, Beca.