Academydd o Aberystwyth yn cydarwain astudiaeth fyd-eang ar fioamrywiaeth
Yr Athro Mike Christie
03 Awst 2018
Mae’r Athro Mike Christie o Brifysgol Aberystwyth wedi’i benodi yn gyd-gadeirydd asesiad byd-eang ar werth a defnydd cynaliadwy rhywogaethau gwyllt.
Yn Athro mewn Economeg Amgylcheddol ac Ecolegol yn Ysgol Fusnes Aberystwyth, mae Mike Christie yn un o bedwar arbenigwr rhyngwladol a fydd yn arwain yr asesiad ar ran y Llwyfan Rhynglywodraethol ar Fioamrywiaeth a Gwasanaethau Ecosystem (IPBES).
Ffocysu ar gysyniadau amrywiol nifer o werthoedd natur fydd yr asesiad ac mae’n un o ddau asesiad pwysig gan IPBES sy’n cychwyn eleni.
Bydd yr Athro Christie yn cyd-gadeirio’r asesiad gyda’r Athro Patricia Balvanera (Athrofa Ymchwil Ecosystem a Chynaliadwyedd, Prifysgol Genedlaethol Awtonomaidd Mecsico); Brigitte Baptiste (Cyfarwyddwr Cyffredinol, Athrofa Alexander von Humboldt, Colombia), a’r Athro Unai Pascual (Athro Ymchwil Ikerbasque yng Nghanolfan Newid Hinsawdd Gwlad y Basg (BC3) ac Uwch Wyddonydd Ymchwil yng Nghanolfan Datblygu ac Amgylchedd (CDE), Prifysgol Bern, y Siwstir).
Yn dilyn cyhoeddi’r penodiadau mewn cyfarfod yng Nghanolfan Ymchwil Bioamrywiaeth Newid Hinsawdd Senckenberg yn Frankfurt yn yr Almaen, dywedodd yr Athro Christie: "Nod y Llwyfan Rhynglywodraethol ar Fioamrywiaeth a Gwasanaethau Ecosystem yw cynhyrchu tystiolaeth i helpu i ddiogelu adnoddau naturiol y byd. Fel un o gyd-gadeiryddion yr asesiad ' gwerthoedd ', byddaf yn arwain tîm o arbenigwyr rhyngwladol i archwilio'r amryw ffyrdd y mae pobl yn mwynhau ac yn elwa o fyd natur ac, yn benodol, sut y gellir ymgorffori gwerthoedd pobl o ran natur mewn penderfyniadau polisi. Braint o'r mwyaf felly yw cael fy newis i gadeirio'r asesiad hwn a chael chwarae rhan hanfodol mewn datblygu tystiolaeth a fydd yn cefnogi polisïau cadwraeth bioamrywiaeth."
Caiff yr uned gymorth dechnegol, a fydd yn cydlynu’r asesiad, ei lleoli yn Morelia, Mecsico, yn yr Athrofa Ymchwil Ecosystemau a Chynaliadwyedd (IIES-UNAM), yr Ysgrifenyddiaeth Datblygu Sefydliadol (SDI-UNAM), a’r Brifysgol ar Gymdeithas, yr Amgylchedd a Sefydliadau (SUSMAI-UNAM) sy’n rhan o Brifysgol Genedlaethol Awtonomaidd Mecsico (UNAM), a’r Comisiwn Mecsicanaidd ar Wybodaeth a’r Defnydd o Fioamrywiaeth (CONOABIO).
Mae’r Athro Christie hefyd wedi cyd-arwain astudiaeth ryngwladol ar golled bioamrywiaeth yn Ewrop ac Asia Ganol ar ran yr IBPES, ac fe gafodd y canfyddiadau eu cyhoeddi mewn cynhadledd yng Ngholombia mis Mawrth 2018.
Sefydlwyd IPBES yn 2012 fel corff annibynnol, gyda 130 o Aelodau Gwladwriaethol y Cenhedloedd Unedig, ynghyd â chyrff anllywodraethol a grwpiau cymdeithas sifil.
Ei nod yw darparu sylfaen o dystiolaeth gadarn ar gyfer polisi gwell drwy wyddoniaeth, ar gyfer cadwraeth a defnydd cynaliadwy bioamrywiaeth, lles dynol hir-dymor a datblygiad cynaliadwy.