Statws Prifysgol Ddi-blastig cyntaf y byd i Aberystwyth

Rebecca Davies Dirprwy Is-Ganghellor a'r Prif Swyddog Gweithredu (dde) gyda staff yn casglu sbwriel ar gampws Penglais fel rhan o Ddiwrnod Di-Blastig y Brifysgol ym mis Mehefin 2018.

Rebecca Davies Dirprwy Is-Ganghellor a'r Prif Swyddog Gweithredu (dde) gyda staff yn casglu sbwriel ar gampws Penglais fel rhan o Ddiwrnod Di-Blastig y Brifysgol ym mis Mehefin 2018.

28 Awst 2018

Aberystwyth yw'r brifysgol gyntaf yn y byd i ennill statws Prifysgol Ddi-blastig cydnabyddedig.

Dyfarnwyd y teitl gan yr elusen cadwraeth forol Surfers Against Sewage fel rhan o'i hymgyrch Cymunedau Di-blastig.

Mae'r ymgyrch yn canolbwyntio ar leihau'r defnydd o eitemau plastig sy’n cael eu defnyddio unwaith cyn eu taflu, megis poteli plastig, cwpanau a chaeadau coffi, bagiau, cyllyll a ffyrc, gwellt a ffyn cymysgu.

Er bod rhai eitemau plastig untro yn y Brifysgol o hyd, mae'r cynllun yn cydnabod y gwaith gwych sy'n cael ei wneud i leihau’r defnydd ohonynt ac ymrwymiad parhaus y sefydliad i’w gwaredu.

Dywedodd Rebecca Davies, Dirprwy Is-Ganghellor a Phrif Swyddog Gweithredol Prifysgol Aberystwyth: “Ni ellir peidio â sylweddoli maint yr her fyd-eang i leihau llygredd plastig. Caiff tua 300 miliwn tunnell o blastig ei gynhyrchu'n fyd-eang bob blwyddyn, gydag o ddeutu ei hanner ar gyfer eitemau untro. Yn ogystal, mae tua wyth miliwn o ddarnau o blastig yn cyrraedd ein cefnforoedd bob dydd a’r rheiny’n aml yn cael eu camgymryd am fwyd gan bysgod, morfilod, dolffiniaid, crwbanod, adar y môr a morloi. Fel prifysgol arfordirol, mae'r materion hyn yn agos at ein calonnau a'r her i ni fel sefydliad ac unigolion yw edrych ar sut y gallwn leihau ein defnydd o blastig untro, er lles yr amgylchedd.”

Wrth ganmol ymdrechion y Brifysgol, dywedodd James Harvey, Swyddog Ymgyrchoedd Surfers  Against Sewage: “Llongyfarchiadau i dîm Prifysgol Aberystwyth, y staff a’r myfyrwyr ar y gamp sylweddol hon. Mae ein harfordir, ein traethau, ein moroedd a'n hafonydd ym mhobman yn cael eu llethu gan lygredd plastig ac mae'n anodd gorliwio'r angen i leihau ein defnydd o blastigau tafladwy.

“Bellach mae gan Brifysgol Aberystwyth fframwaith cadarn yn ei le i sefydlu campws prifysgol di-blastig cyntaf y Deyrnas Unedig. Mae hwn yn gyflawniad gwych i Gymru a hoffem herio sefydliadau eraill yn y sector addysg uwch i wneud yr un peth.”

Sefydlodd Prifysgol Aberystwyth weithgor di-blastig ym mis Mawrth 2018 i arwain y gwaith o waredu plastig untro ar y campws, gam wrth gam. Ymhlith y cynlluniau sydd eisoes ar waith y mae:

  • Codi ardoll 15c ar bob cwpan plastig untro o 1 Medi 2018 i annog yfwyr coffi a the i ddefnyddio cwpanau amldro.
  • Cyflwynwyd bocsys bwyd poeth y gellir eu compostio a phowlenni salad bioddiraddadwy mewn mannau arlwyo tecawê, ynghyd â chyllyll a ffyrc a gwellt bioddiraddadwy, a bagiau papur yn hytrach na bagiau plastig.
  • Gosodwyd peiriannau dŵr am ddim mewn naw o gaffis a bwytai'r Brifysgol er mwyn hyrwyddo'r defnydd o boteli dŵr amldro.

Derbyniodd yr ymgyrch i fod yn Brifysgol ddi-blastig ardystiedig gefnogaeth ar y lefel uchaf. Cafodd ei chymeradwyo gan Weithrediaeth a Chyngor y Brifysgol, sydd fel rhan o’r ymgyrch wedi gwaredu’r defnydd o boteli a chwpannau plastig untro yn eu cyfarfodydd.

Ym mis Mehefin 2018, cynhaliodd y Brifysgol ei Diwrnod Codi Ymwybyddiaeth Di-blastig cyntaf gyda sesiynau casglu sbwriel, stondin wybodaeth ar y Piazza a dangosiad rhad ac am ddim o’r ffilm Plastic Ocean yng Nghanolfan Celfyddydau Aberystwyth.

Dywedodd Swyddog Amgylchedd a Chynaliadwyedd Prifysgol Aberystwyth, Dewi Day, sy'n cadeirio'r Gweithgor Di-blastig: “Mae sicrhau statws Prifysgol Di-blastig yn dipyn o gamp ac mae'r hyn yr ydym wedi'i gyflawni yn gosod seiliau gwych ar gyfer y gwaith pellach i leihau’r defnydd o blastig untro ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae cymaint mwy y gellir ac sydd angen ei wneud dros y misoedd a'r blynyddoedd nesaf, ac rydym wedi ymrwymo i wneud gwahaniaeth go iawn.”

Mae'r cyhoeddiad hefyd wedi cael ei groesawu gan Undeb Myfyrwyr Aberystwyth. Dywedodd James Clarke, Swyddog yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd: "Rwy'n hynod o falch clywed mai Aberystwyth yw'r Brifysgol ddi-blastig achrededig gyntaf yn y byd. Mae'n glod i bawb sy'n rhan o’r ymgyrch ac mae’n dangos cymaint o newid gall myfyrwyr ei wneud pan fyddan nhw’n gweithio gyda'r Brifysgol tuag at nod cyffredin. Mae hefyd yn dangos bod Aberystwyth yn cynnal ei safle fel Prifysgol flaengar sy'n arwain y byd, un sydd yn bendant yn gosod meincnod clir i brifysgolion eraill - yn ogystal â bod yn achlysur arbennig i'r Brifysgol, yr Undeb a'r gymuned. Rwy'n siŵr y bydd y Brifysgol yn parhau i ddatblygu ac arloesi, ac mae parhau i gynorthwyo gyda’r gwaith hwn at y dyfodol yn fy nghyffroi.”

Mae Gweithgor Di-blastig y Brifysgol bellach yn gweithio ar ffyrdd ychwanegol o leihau’r defnydd o blastig untro ar y campws.