Prosiect newydd i daclo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant mewn peirianneg a’r gwyddorau ffisegol

Adeilad arobryn y Gwyddorau Ffisegol ym Mhrifysgol Aberystwyth

Adeilad arobryn y Gwyddorau Ffisegol ym Mhrifysgol Aberystwyth

16 Awst 2018

Mae Prifysgol Aberystwyth yn rhan o fenter gwerth miliynau o bunnoedd sy'n anelu at wella cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym meysydd peirianneg a’r gwyddorau ffisegol.

Lansiwyd un ar ddeg o brosiectau gwahanol mewn prifysgolion ar draws y DU sydd wedi derbyn cefnogaeth ariannol gwerth £5.5 miliwn gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC).

Dewiswyd y prosiectau mewn ymateb i alwad Inclusion Matters yr EPSRC, y fenter gyntaf o'i math a lansiwyd fel rhan o gynllun ar y cyd gan UK Research and Innovation (UKRI) i hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

Mae Prifysgol Aberystwyth yn bartner ar brosiect ‘Challenging Different Forms of Bias in Physical Sciences and Engineering Research’, sy’n cael ei arwain gan Brifysgol Birmingham.

Y partneriaid eraill ar y prosiect sydd wedi denu £531,287 yw Ymddiriedolaeth GIG Ysbytai Prifysgol Birmingham, a Vitae, arweinydd byd-eang ym maes cefnogi datblygiad proffesiynol ymchwilwyr.

Ymysg yr academyddion o Brifysgol Aberystwyth sy'n rhan o'r ymchwil mae Dr Christine Zarges o'r Adran Cyfrifiadureg, a Dr Sarah Riley a Saffron Passam o'r Adran Seicoleg.

Yn sgîl lansiad y prosiect ar 9 Awst 2018, dywedodd Dr Christine Zarges: "Rydym yn falch o fod yn rhan o'r prosiect ymchwil pwysig hwn a fydd yn ymchwilio i'r elfennau sylfaenol sy'n dylanwadu ar ddatblygiad gyrfaoedd menywod a phobl o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig yn y byd academaidd ym maes peirianneg a’r gwyddorau ffisegol. Bydd arferion gorau a mentrau llwyddiannus yn cael eu hadnabod a'u rhannu ar draws y sector wrth i ni fynd i'r afael â materion cydraddoldeb ac amrywiaeth ym maes peirianneg a'r gwyddorau ffisegol. "

Dywedodd Dr Alison Wall, Cyfarwyddwr Cyswllt Adeiladu Arweinyddiaeth yr EPSRC: “Mae prosiectau Inclusion Matters yn dangos uchelgais, creadigrwydd ac ymrwymiad i fynd i'r afael â materion cydraddoldeb ac amrywiaeth sy'n wynebu peirianneg a'r gwyddorau ffisegol. Trwy ymchwil newydd, ffyrdd newydd o weithio ac ehangu gweithgareddau, byddant yn llywio a llunio newid diwylliannol sylweddol ar draws sefydliadau ac yn rhannu’r hyn maent yn ei ddysgu gyda'r sector gyfan.”

Dywedodd y Cyfarwyddwr Rhaglen, yr Athro Jon Rowe, Cyfarwyddwr Ymchwil yng Ngholeg Peirianneg a Gwyddor Ffisegol Prifysgol Birmingham: "Bydd y gweithgareddau'n cynnwys edrych ar sut mae ansawdd a gwerth gwaith academyddion yn cael ei asesu mewn prosesau dyrchafu ac yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) er mwyn deall ffynonellau’r rhagfarnau. Cwestiynau megis ‘A oes yna ragfarn pan fo rhyw’r academydd yn hysbys?’, ‘Ai canlyniad deinameg grwp panel o aseswyr yw?’ ac ‘A yw menywod yn cael eu hannog i weithio mewn meysydd ymchwil penodol, efallai’r rhai sydd tu hwnt i bynciau STEM’.”