Malwod craff yn teimlo straen o fod yn unig
Dr Sarah Dalesman
14 Awst 2018
Mae astudiaeth gan ymchwilydd o Brifysgol Aberystwyth i sut y mae unigedd cymdeithasol yn effeithio ar ymatebion malwod i straen wedi ei chyhoeddi yn rhifyn diweddaraf y cyfnodolyn Philosophical Transactions of the Royal Society.
Mae’r papur ’Habitat and social context affect memory phenotype, exploration and co-variance among these traits’ gan Dr Sarah Dalesman yn ymddangos mewn rhifyn arbennig o’r cyfnodolyn Causes and consequences of individual differences in cognitive abilities 10.1098/rstb/373/1756.
Darlithydd Bioleg Dŵr Croyw yw Dr Sarah Dalesman yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ac mae’n arbenigwr ar ymddygiad malwod.
Dywedodd Dr Dalesman: “Mae’n hysbys bod unigedd cymdeithasol yn achosi straen i lawer o anifeiliaid a phobl gan achosi newidiadau mewn ymddygiad ac effeithio’n negyddol ar eu gallu i ddysgu a ffurfio atgofion. Serch hynny, mae unigolion yn ymateb yn wahanol i effeithiau straen, a gall rai ymdopi’n well nag eraill.”
Edrych a yw unigolion sy’n ffurfio atgofion cryf mewn amgylchiadau di-straen yn ymateb yn wahanol wedi unigedd cymdeithasol, i’r rhai sydd fel arfer yn ffurfio’r atgofion gwannaf y mae’r astudiaeth.
Edrychwyd hefyd ar sut y mae unigedd cymdeithasol yn effeithio ar allu’r malwod i ffurfio atgof hir-dymor, sydd yn golygu un diwrnod i falwoden.
Mae llawer o ddiddordeb mewn deall sut mae atgof yn ymwneud â nodweddion ymddygiadol eraill mewn anifeiliaid. Archwilio sut yr oedd unigedd yn effeithio’r ffordd y mae malwod yn archwilio amgylcheddau newydd yr oedd y gwaith, ac a oedd perthynas rhwng sut y mae atgof yn ffurfio ac ymddygiad archwiliadol.
Nid oedd malwod mewn grŵp sy’n ffurfio atgofion cryf yn medru ffurfio atgof hir-dymor mewn unigedd cymdeithasol, ac nid oedd malwod mewn grŵp sy’n ffurfio’r atgofion gwannaf yn cael eu heffeithio gan unigedd.
Felly, mae’n ymddangos bod malwod sydd fel arfer yn ffurfio’r atgofion gwannaf yn medru delio gydag effeithiau straen mewn unigedd cymdeithasol.
Roedd effaith yr unigedd ar ymddygiad archwiliadol yn ddibynnol ar eu gallu i greu atgof.
Ni wnaeth malwod sydd fel arfer yn ffurfio atgofion gwan newid eu hymddygiad archwiliadol wedi’r unigedd; ond fe wnaeth cyflymder ymlusgo ac amser sy’n cael ei dreulio mewn cysylltiad â’r wal ymddygiadol (thigmotacsis) gyda’r rhai sy’n ffurfio atgofion cryf leihau.
Ychwanegodd Dr Dalesman: “Mae’r canlyniadau hyn yn dangos bod cyd-destun cymdeithasol yn medru newid ein casgliadau ar ba mor graff yw anifail. Mae malwod sy’n ffurfio atgofion cryf mewn grwpiau yn ffurfio’r atgofion gwannaf mewn unigedd. Mae’n dangos hefyd fod y berthynas rhwng ymddygiad archwiliadol a’r cof yn amrywio pan fydd y cyd-destun cymdeithasol yn newid.”