Cyllid yr AHRC i ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o academyddion yn y celfyddydau a’r dyniaethau

15 Awst 2018

Bydd Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru a De a Gorllewin Lloegr yn derbyn cyllid gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC) dros wyth mlynedd i gyflwyno hyfforddiant goruchwylio, hyfforddi a datblygu sgiliau ôl-raddedig o 2019.

Mae'r Consortiwm - cydweithrediad rhwng Prifysgol Aberystwyth ac wyth prifysgol arall, Bath Spa, Bryste, Caerdydd, Cranfield, Exeter, Reading, Southampton a UWE - yn un o 10 Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol y dyfarnwyd iddynt £170 miliwn o gyllid gan yr AHRC.

Sefydlwyd Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru a De a Gorllewin Lloegr yn wreiddiol yn 2014 ac mae wedi ei haddasu a'i ehangu i ffurfio partneriaeth ranbarthol strategol a fydd yn cynnig mwy o gyfleoedd i staff a myfyrwyr fel ei gilydd.

Yn ogystal ag aelodau newydd, Prifysgol Cranfield a Phrifysgol UWE, mae'r consortiwm wedi ffurfioli aelodaeth gyda Sefydliad Ymchwil Annibynnol, Amgueddfa Cymru-National Museum of Wales.

Bydd y Consortiwm yn cynnig ysgoloriaethau ôl-raddedig, Gwobrau Doethuriaeth Cydweithredol a chyfleoedd hyfforddi a datblygu ar draws yr ystod lawn o ddisgyblaethau'r AHRC, gyda phwyslais cryf ar gydweithio rhwng aelodau'r consortiwm a 23 o bartneriaid diwylliannol, celfyddydol, treftadaeth a diwydiant, gan gynnwys Aardman Animations, Cyngor y Celfyddydau De Orllewin Lloegr, Partneriaethau Amgueddfa Cernyw a Historic England.

Mae consortiwm Cymru a De a Gorllewin Lloegr wedi ymrwymo i ddatblygu dulliau creadigol ar draws ymchwil disgyblaethol a rhyngddisgyblaethol a fydd yn hwyluso adeiladu cymunedau newydd o ysgolheigion, ymchwilwyr a gweithwyr proffesiynol sy'n hyblyg ac yn gallu ymateb i ymchwil sy'n symud yn gyflym ac amgylcheddau diwydiant.

Bydd yr arian yn caniatáu datblygu cronfa amrywiol o ymchwilwyr medrus a phroffesiynol a fydd yn cyfrannu at les diwylliannol, economaidd a chymdeithasol y DU.

Dywedodd yr Athro Chris Thomas, Dirprwy Is-Ganghellor Ymchwil ac Arloesedd ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Fel sefydliad sy’n cael ei arwain gan ymchwil, mae Prifysgol Aberystwyth wedi ymrwymo i gefnogi a datblygu ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfaoedd i ymgymryd ag ymchwil sy'n arwain y byd o ran effaith. Mae'r cyllid diweddaraf hwn gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau yn adeiladu ar gydweithio rhyngddisgyblaethol ar draws ystod o brifysgolion yn ogystal â phartneriaid allanol ac ymarferwyr proffesiynol, gyda'r nod o gyflawni rhagoriaeth ym mhob agwedd o oruchwyliaeth a hyfforddiant ymchwil. Mae'r rhaglen hon o hyfforddiant o ansawdd uchel yn ddatblygiad pellach i gymuned ôl-raddedig ffyniannus Aberystwyth ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda'n partneriaid wrth i ni ddatblygu doniau ymchwil y dyfodol.”

Dywedodd yr Athro Edward Harcourt, Cyfarwyddwr Ymchwil, Strategaeth ac Arloesedd yr AHRC: “Mae'n bleser gan yr AHRC gyhoeddi ei hymrwymiad newydd i'r model Partneriaethau Hyfforddiant Doethurol. Mae ein cefnogaeth i’r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr yn y celfyddydau a’r dyniaethau yn hanfodol i sicrhau dyfodol sector y celfyddydau a dyniaethau'r DU, sy'n cyfrif am bron i draean o holl staff academaidd y DU, ac yn adnabyddus ar draws y byd am ei ansawdd rhagorol, ac sy'n chwarae rhan hanfodol yn ein ecosystem addysg uwch yn ei chyfanrwydd.

“Roeddem yn hynod o falch gyda'r ymateb i'n galwad, a chafwyd ceisiadau o ansawdd uchel o bod cwr o’r DU gan amrywiaeth o gonsortia amrywiol ac arloesol, gyda phob un yn cynnig strategaeth a gweledigaeth glir ar gyfer cefnogi eu myfyrwyr doethuriaeth yn y dyfodol.”