Lansio cit newydd oddi-cartref y Scarlets yn Aber

10 Awst 2018

Mae Tîm Rygbi’r Scarlets yn lansio eu cit newydd oddi-cartref ar bromenâd Aberystwyth ddydd Llun 13 Awst 2018.

Bydd dadorchuddiad y cit oddi-cartref newydd yn digwydd am 2.30pm yn y Bandstand yng nghwmni chwaraewyr y Scarlets Jonathan Davies, Sam Hidalgo-Clyne, Ken Owens, Steff Evans a Rhys Patchell.

Mae lansio’r cit yn rhan o ddiwrnod hwyl i’r teulu ar y prom o 11am i 4.30pm.

Fel un o bartneriaid cymunedol y Scarlets, fe fydd Prifysgol Aberystwyth yn bresennol yn y bandstand gyda gweithgareddau megis sesiynau rygbi cyffwrdd ar y traeth, sialens y ‘Beic Watt’ a bwth lluniau am ddim.

Mae partneriaeth Prifysgol Aberystwyth a chlwb rygbi’r Scarlets yn cynnwys Menter Bwyta’n Iach ar gyfer plant ysgol, a lansiwyd yn 2016.

Mae’r Brifysgol hefyd yn noddi chwaraewr y Scarlets Wyn Jones a astudiodd Amaethyddiaeth a Gwyddor Anifeiliaid yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS). Yn chwaraewr rygbi llawn-amser proffesiynol, mae Wyn wedi chwarae 64 gêm i’r Scarlets, ac wedi chwarae dros Gymru ar y Taith Haf 2017 ac ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad 2018.