Arddangosfa ‘Tirweddau Mewn Parau’ yn agor yn Yr Hen Goleg

Yr artistiaid Benjy Davies, Andrew Baldwin a Kevin Lyles yn Nhrefeglwys

Yr artistiaid Benjy Davies, Andrew Baldwin a Kevin Lyles yn Nhrefeglwys

01 Awst 2018

Mae arddangosfa o waith gan arlunwyr o Gymru ac Ohio wedi agor yn Hen Goleg Prifysgol Aberystwyth. 

Mae’r ‘Tirweddau Mewn Parau’ yn arddangos dros ugain o ddarnau celf am Gymru a’r Unol Daleithiau, gan gynnwys paentiadau, printiau a cherfluniau. Dangosir gweithiau pedwar artist: Andrew Baldwin a Bryan Thomas o Gymru, a Benjy Davies a Kevin Lyles o Brifysgol Rio Grande, Ohio.

Fel yr eglura Andrew Baldwin, sy’n diwtor gwneud printiadau a ffotograffeg yn Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth: “Cwrddais â Benjy Davies (gwneuthurwr printiau) a Kevin Lyles (cerflunydd) am y tro cyntaf pan roeddwn yn ddigon ffodus i fod yn rhan o greu perthynas agosach rhwng ein dwy brifysgol.

“Mae cysylltiadau cryf rhwng Rio Grande (Ohio) a Chymru. Mae llawer o’r brodorion yn ddisgynyddion o grŵp o fewnfudwyr o Gymru a deithiodd, yn ôl yr hanes, i fyny’r afon i’r dwyrain hyd nes y cyrhaeddon nhw dirwedd a oedd yn eu hatgoffa o’u cartref, sef Rio Grande.

Dyfarnwyd cymrodoriaethau i Benjy Davies a Kevin Lyles yn haf 2016 gan Ganolfan Madog ar gyfer Astudiaethau Cymreig i deithio i Gymru lle buont yn cydweithio ag Andrew a’r artist o dde Cymru, Bryan Thomas, mewn prosiect i beintio, darlunio a cherflunio’r tirwedd.

Eglura Andrew: “Roedd prosiect y ‘Tirweddau Mewn Parau’ yn cynnwys creu darnau o waith sy’n cyferbynnu tirwedd Rio Grande â’r tirwedd Cymreig. Roedd Benjy a Kevin yn canmol canolbarth Cymru yn fawr, gan ddweud ein bod yn ffodus iawn ein bod ni’n byw mewn rhan mor hardd o’r byd – datganiad rwy’n cofio ei ddweud am brydferthwch eu cefn gwlad nhw hefyd.”

Bydd yr arddangosfa ‘Tirweddau Mewn Parau’ i’w gweld yn yr Hen Goleg tan 29 Medi.  Bydd ar agor o 10am - 4pm, dydd Llun i ddydd Gwener.  Mynediad am ddim.

 

AU35018