Eich adborth ar fannau astudio yn y Llyfrgell

Ystafelloedd Astudio

Ceir cymysgedd o Ystafelloedd Astudio Grŵp a Charelau Astudio Unigol yn Llyfrgell Hugh Owen

 

Arolwg Defnyddwyr Carelau Astudio Unigol Arolwg

Anfonwyd arolwg at bawb a oedd wedi archebu i ddefnyddio Carel Astudio Unigol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf

Gofynnon ni: 'Pam ydych yn defnyddio'r carelau?' 'Sut allwn ni wella'r carelau?'

Cwmwl geiriau o'r adborth i'r cwestiwn 'Pam ydych yn defnyddio'r carelau?' yn cynnwys y geiriau sŵn, torria ar draws, grŵp, arholiadau, unigol, sain, cyfrifiadur, gwresogyddion, goleuadau, astudio, darlith

Cwmwl geiriau o'r adborth i'r cwestiwn 'Sut allwn ni wella'r carelau?' yn cynnwys y geiriau bachyn, hygyrch, lliw, bwyd, goleuadau, oer, plygiau, sgrin, dawel, coffi, gwrth-sain 

 

CAMAU GWEITHREDU

  • Rydym eisoes wedi ychwangeu ambell lun wedi'i fframio i fywiogi'r carelau a byddwn yn ystyried sut i ychwanegu mwy o luniau a lliw fel rhan o'n gwaith o adnewyddu Lefelau E ac F
  • Rydym yn rhoi bachau i gadw eich cotiau a bagiau ym mhob carel
  • Rydym yn treialu hybiau monitor mewn rhai carelau ac mewn mannau eraill o amgylch y llyfrgell i gael eich adborth arnyn nhw
  • Rydym yn gosod byrddau gwyn yn y carelau i'ch helpu i roi bach o drefn ar eich meddyliau a'ch syniadau

 

Bydd eich awgrymiadau i gyd yn cael eu hystyried wrth inni gynllunio i adnewyddu Lefelau E ac F Llyfrgell Hugh Owen

Diolch am eich adborth!

 

Dilynwch niTwitter: aberuni_is      Facebook: @aberuni.is      Instagram: @isaberuni