Polisi Ymrwymiad Defnyddwyr

Mae’r Gwasanaethau Gwybodaeth (GG) yn croesawu ac yn chwilio am gymorth gan ein defnyddwyr. Rydym yn defnyddio amrywiaeth o fecanweithiau ffurfiol ac anffurfiol i gynnal deialog, cael adborth a sicrhau bod ein gwasanaethau’n ymateb i ofynion ac anghenion newidiol y defnyddwyr.

Sut i gysylltu â ni / rhoi adborth

Ymateb y GG i adborth

Mae ymatebion i’n harolwg defnyddwyr blynyddol, grwpiau ffocws a gweithgareddau eraill yn cael eu cyhoeddi ar ein tudalennau adborth ar y we. Rydym yn cael adborth ychwanegol ynghylch y Gwasanaethau Gwybodaeth drwy'r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr a gynhelir yn flynyddol a dulliau eraill o gasglu adborth ledled y Brifysgol. Defnyddir y data hyn, ynghyd â dulliau eraill o roi adborth, i adolygu a datblygu ein gwasanaethau yn rheolaidd.

Ymrwymiad defnyddwyr

Arolwg Defnyddwyr: mae’r GG yn cynnal Arolwg Defnyddwyr eang bob mis Tachwedd sy’n ymdrin â’r holl wasanaethau ac yn darparu data cymharol y gallwn ei ddefnyddio i nodi tueddiadau a chynllunio ein gwasanaethau. Mae dadansoddiad o’r bylchau yn nodi’r bylchau mwyaf rhwng “pwysigrwydd” a “bodlonrwydd” a defnyddir y wybodaeth hon i dargedu gwasanaethau ac adnoddau sy’n ymddangos yn llai llwyddiannus. Mae staff y GG yn dadansoddi darganfyddiadau’r arolwg defnyddwyr i flaenoriaethu’r ardaloedd sydd angen eu gwella.

Cynhelir Grwpiau Ffocws Myfyrwyr i gael adborth manylach gan ein cwsmeriaid am ein gwasanaethau, ein hadnoddau neu newidiadau posibl.

Pwyllgorau Ymgynghorol Staff a Myfyrwyr, Pwyllgorau Ymgynghorol Myfyrwyr Ymchwil a Phwyllgor Datblygu a Chynllunio Academaidd: Diben y PYSM a’r PYMY yw sefydlu dull ffurfiol o drafod a chyfathrebu rhwng adrannau a myfyrwyr ar faterion yn ymwneud â materion academaidd sy’n effeithio ar eu hastudiaethau. Mae staff y GG yn mynychu’r PYSM, PYMY a’r Phwyllgor Datblygu a Chynllunio ac yn adrodd yn ôl ar unrhyw faterion yn ymwneud â’r GG ac yn adrodd yn ôl i’r adrannau ar unrhyw gamau a gymerir pan fo’n briodol.

Cynhelir Wythnosau Samplu 3 gwaith y flwyddyn yn ystod mis Tachwedd, Mawrth a Mai. Diben yr wythnosau samplu yw i:

  • Cofnodi ymholiadau mewn categorïau penodol – adolygu’r categorïau ymlaen llaw
  • Cynllunio a chynnal gweithgareddau i gasglu adborth ar ddetholiad o weithgareddau a gwasanaethau y GG

Bydd y themâu yn amrywio o’r naill wythnos samplo i'r llall gan ddibynnu ar ba wasanaethau neu grwpiau defnyddwyr y mae arnom eisiau ymchwilio iddynt neu eu blaenoriaethu. Fodd bynnag, bob blwyddyn byddwn yn casglu adborth ansoddol cyffredinol gan ddefnyddwyr ar ein gwasanaethau er mwyn cael golwg gyffredinol ar hynt ein gwasanaethau.

Cyfarfodydd gyda Undeb y Myfyrwyr

Mae Gwasanaethau Gwybodaeth yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd gyda Swyddog Materion Academaidd Undeb y Myfyrwyr. Dyma gyfle i'r Swyddog i godi unrhyw faterion sydd wedi'u codi, a hefyd yn gyfle i Wasanaethau Gwybodaeth adrodd ar unrhyw newidiadau a gwelliannau i'r gwasanaeth.

 

Mae’r GG hefyd yn cynnal ymarferion ymrwymiad defnyddwyr mwy anffurfiol, gan gynnwys cynnal cyfarfodydd rheolaidd â chydweithwyr y Gwasanaeth Cefnogi ac Undeb y Myfyrwyr i drafod materion a chytuno ar unrhyw gamau sydd eu hangen i wella mynediad i adnoddau a gwasanaethau’r GG i staff a myfyrwyr.

Rhowch wybod i ni beth yw eich barn am ein gwasanaeth

Yn y Gwasanaethau Gwybodaeth rydym yn ymroddedig i ddarparu gwasanaeth rhagorol i chi, ac rydym yn gwahodd eich adborth i’n helpu ni i wella’r gwasanaethau.

Rydym yn cydnabod fodd bynnag nad ydym weithiau’n darparu’r gwasanaeth yr ydych yn ei ddisgwyl. Os hoffech grybwyll unrhyw beth sy’n anfoddhaol am y gwasanaeth yn eich barn chi, edrychwch ar ein Gweithdrefn Gwyno Rydym yn addo i ymdrin â’ch cwyn cyn gynted â phosibl, yn gyfrinachol, rhoi gwybod i chi am unrhyw ddatblygiadau, ac edrych ar batrwm y cwynion i adnabod unrhyw feysydd sydd angen eu gwella.

Mae'r Polisi hwn yn cael ei gynnal gan Gwasanaethau Gwybodaeth. Fe’i adolygwyd ddiwethaf ym mis Hydref 2022 a bydd yn cael ei adolygu eto ym mis Hydref 2024.